Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label ffens. Show all posts
Showing posts with label ffens. Show all posts

13.9.15

Seren yr wythnos

Jasmin yr haf.


Jasminum officinale affinum


Yn llenwi'r ardd gefn ar hyn o bryd efo'i arogl sbeislyd arbennig, er mor fach ydi'r blodau.
Mmmmm..

Mae'n tyfu ar wifrau yn erbyn ffens, yn wynebu'r gogledd. Gyda lwc, efo 'chydig o docio priodol yn Chwefror, mi fydd yn llenwi'r lle sydd ar gael iddi efo blodau yn hytrach na changhennau a dail.


23.7.12

TOCIO


Dwi wedi gorfod achub y goeden afal Enlli dros y penwythnos! Am nad oes lle i goed yn yr ardd gefn, mae hi’n tyfu fel espalier yn erbyn ffens, a’i changhennau wedi eu clymu ar dair weiren wrth iddyn nhw dyfu. 

Roedd y llynedd yn flwyddyn arbennig o dda i ffrwythau acw, ac mae’n amlwg i mi gael fy nhwyllo i feddwl fod popeth yn iawn. Wnes i ddim tocio ar ôl cynaeafu’r afalau fel y dyliwn, ac roedd gormod o lawer o dyfiant arni erbyn eleni. Un o ddarnau cynta’r blog yma oedd hanes newid paneli’r ffens. Bryd hynny roedd yn rhaid tynnu’r weiars er mwyn mynd at y paneli, a meddyliais fod y goeden wedi sefydlu digon o wraidd i sefyll heb ei chynnal ar y ffens. 

Blodau afal Enlli 'nol ym mis Mai eleni
Och! Bu’r ddau beth yn ormod iddi. Roedd y tyfiant wedi mynd yn dipyn talach na’r ffens, ac yn ffurfio hwyl lydan, felly pan ddaeth gwynt cryf, daeth y goeden druan i lawr.
Dwi wedi ei chodi hi’n ôl ar ei thraed, a defnyddio stanc bob ochr i’r bôn, efo cadwyni rwber i’w dal hi yn ei lle (cylchoedd wedi eu torri allan o hen diwb olwyn motobeic). Dwi hefyd wedi rhoi dwy weiren yn ôl, a chlymu’r canghennau iddynt efo cordyn meddal (off-cyts stribedi selio tŷ gwydr- mae ‘na ddefnydd i bob peth!)
Roedd yn rhaid tocio’r goeden i’w chadw rhag y gwynt, ac i’w chadw’n espalier taclus efo spurs cwta. Y drwg ydi fod cymaint o’r tyfiant wedi cael ei dorri, fy mod i wedi torri’r rheol o beidio tocio mwy na ⅓ o unrhyw goeden ar unrhyw adeg. Rhwng hynny a’r hambyg gafodd y gwreiddiau wrth ddisgyn, dwn ‘im os welith hi flwyddyn arall... ta waeth, mae’n rhaid trio ‘ndoes.
Ar ol clymu a thocio
Roedd Parc Cenedlaethol Eryri wedi trefnu diwrnod ym Mhlas Tanybwlch dwy neu dair blynedd yn ôl, i bobl leol gael dysgu sut i docio coed ffrwythau, dan arweiniad Ian Sturrock, y tyfwr coed cynta’ i arbenigo mewn ffrwythau Cymreig am wn i, a’r cynta’ i dyfu a gwerthu coed afal Enlli. Cafwyd cyfuniad o ddysgu yn y dosbarth, ac ymarfer ym mherllan newydd y Plas, a bu’n werth pob eiliad o ddiwrnod rhydd.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddiawledig o sâl i’r coed ffrwythau yma. Ar ôl cynhyrchu llwyth o flodau yn y gwanwyn, mae’r glaw di-baid wedi golygu na chafodd y rhan fwya’ ohonyn nhw eu peillio, ac mae’r oerfel wedi rhoi clec i bron pob un o’r ffrwythau oedd wedi cnapio.
Un afal sydd ar y goeden Enlli (hyd yn oed cyn ei thocio). Mae llai na dwsin o geirios ar y Morello -mae honno’n tyfu wrth ochr yr afal Enlli,  wedi ei ‘hyfforddi’ fel ffan yn erbyn y ffens. Mae hithau angen ei thocio hefyd..aros am ddiwrnod sych eto rwan.

Dwy goeden arall sydd yma: eirinen Ddinbych yng ngwaelod yr ardd, a choeden afal croen mochyn mewn twb mawr. Hwn ydi haf cynta’r eirinen felly doedd dim disgwyl llawer o ffrwyth arni. Tydi’r afal croen mochyn ddim yn hapus o gwbl! Daeth dim un blodyn arni eleni. Mae gwir angen lle i’w phlannu hi. Os nad ydi’r rhandir yn torri fy nghalon, a dwi’n penderfynu aros, mi gaiff fynd i fanno.
Rhaid bod yn optimist wrth arddio tydi! Mae blwyddyn ar ôl blwyddyn yn mynd heibio; y cynnyrch yn siomi; a rhywun yn gorfod bodloni ar ddweud “blwyddyn nesa’ efallai!”...........

12.5.12

O.M.B*


Wedi bod yn yr haul trwy’r dydd, ac yn teimlo’n wych, nes imi ddod i’r tŷ a ffeindio’r ddwy fawr yn gwylio diwedd Britain’s got talent ar y bocs. O, mam bach. Hanner miliwn o bunnau am hyfforddi ci i gerdded ar ei draed ôl!   Rho imi nerth...

Suran

Mae gwaelod yr ardd yn edrych fel shanty town ar hyn o bryd, efo dwsinau o botiau efo ffa amrywiol a phys ac ati, mewn cratiau a bocsys pysgod plastig, efo cloches a hen ffenestri drostyn nhw. Mae’r planhigion ifanc wedi bod yn dod allan o’r tŷ gwydr bob bore, a mynd yn ôl i mewn yn hwyr bob nos tan rŵan. Dwi am fynd â nhw i lawr i’r rhandir i’w plannu ‘fory. Mae’n siŵr y rhoddaf garthen fleece drostyn nhw am ychydig ddyddiau, nes maen nhw wedi caledu i nosweithiau oer Stiniog. Hefyd, mae un o’r deiliaid eraill wedi gweld sguthan yn codi ei ffa melyn o’r ddaear cyn iddynt wreiddio’n iawn, felly gwell fyddai eu gorchuddio dros dro.  Mae’r bocsys pysgod, gyda llaw,  ymysg y pethau mwyaf defnyddiol sydd gennyf ar gyfer cadw a chario amrywiol bethau; maen nhw’n golchi i’r lan ar draeth Harlech weithiau ar ôl tywydd mawr.
 
Gan ein bod yn cael diwrnod cyfa’ sych, bu’r Pobydd a fi (a’r Fechan hefyd am ddeg munud cyn mynd i wneud ‘cawl’ efo dŵr, tywod, a phetalau dant y llew -Mmm!) yn paentio’r ffens newydd o’r diwedd. Mae’r goeden afal, a’r goeden geirios yn llawn blodau ar hyn o bryd, ac roedd yn goblyn o job paentio rhwng y canghennau. Mi fues i’n rhegi mwy nag unwaith wrth dorri  blodau i ffwrdd! Ta waeth, mae o wedi’i wneud rŵan, ac yn un peth yn llai i boeni amdano.

Mae gennym ni ddwy fainc yn yr ardd a gawsom o un o gapeli’r dre’ ‘ma, ar ôl iddo gau. Mi fues i’n sandio’r ddwy heddiw, a’r Pobydd yn eu paentio wedyn. Cryn newid delwedd, o liw pîn clasurol yr addoldy, i wyrddlas golau. O’r Salmau Cân i Seagrass.

Nid y fi ydi’r unig un sy’n sgwennu am gadw rhandir ym Mro Ffestiniog ar hyn o bryd. Mae erthygl am safle arall ar wefan papur bro’r ardal, Llafar Bro.




*O.M.B.  Y ddwy fawr wedi bod yn dweud rwtsh fel O-M-G a LOL ac awesome, aballu, felly dwi wedi bod yn trio Cymreigio ‘chydig ar y rwtsh! OMB am O! Mam Bach, yn lle OMG am O! Mei God... ond waeth imi siarad efo carreg  â thwll ynddi,  oherwydd fydd rhywbeth Cymraeg fyth yn ddigon cŵl na’fydd. 
Gutted!


11.4.12

Gwrychoedd

Mi gawson ni ddiwrnod gweddol sych ddoe, a'r joban gafodd flaenoriaeth oedd gosod paneli ffens newydd rhwng yr ardd a drws nesa. Pan brynson ni'r tŷ yma, gwrych privet anferthol oedd ar y terfyn rhwng y ddwy ardd. Yn fylchog oddi tani, yn rhy uchel o lawer, ac yn dwyn o leia’ metr o ymyl yr ardd, roedd yn rhaid iddo fynd! Yn yr ail wanwyn yma, roeddwn wedi gorffen y rhan fwya’ o’r gwaith yn y tŷ, ac yn barod i wneud rhywbeth efo’r gors llawn montbretia allan yn y cefn. Cytunodd C, y cymydog, i fynd i’r afael â’r gwrych efo fi. Cafodd y privet glec, ac mi fuon ni’n chwysu i godi’r gwreiddiau styfnig. Roedden ni wedi cytuno i osod ffens yno o bolion concrit. Wedyn rhoi paneli chwe throedfedd o feather boards rhyngthyn nhw, am eu bod yn rhatach na dim byd arall. Wrth gwrs, mae hynny’n golygu eu bod yn salach na phopeth arall hefyd, ond doedd C a fi ddim isio gwario mwy nag oedd rhaid. Twyllo’n hunain oedd hynny. Pryn rad, pryn eilwaith yn ‘de, felly dyma ni saith mlynedd yn ddiweddarach yn gorfod prynu stwff gwell yn eu lle. Yr unig beth oedd yn cymhlethu’r gwaith oedd y coed a’r tair weiren sydd ar ein hochr ni o’r ffens: lelog Califfornia (Ceonothus) a gwyddfid yn y pen agosa’ i’r tŷ, coeden afal Enlli wedi’i thyfu fel espalier blêr, ceiriosen morello wedi’i thyfu fel ffan, mafon, a rhosyn anhysbys.

Cawodydd gafwyd heddiw, felly mi  es i’r rhandir i ymuno yn yr ymdrech i blannu gwrych o amgylch y safle. Pan oeddwn yn blentyn, cors oedd yno, ac roeddem yn hel penabyliaid a genau goeg yno. Ym 1975 roedd yn ffasiwn i ‘dirlunio’ ardaloedd diwydiannol yng Nghymru, ac fe dynnwyd tomen lechi Glan-y-don i lawr, gan lenwi cyfres o gorsydd yn y fro, gan obeithio denu cwmnïau newydd i sefydlu ar y tiroedd newydd. Taenwyd ychydig bridd a gwrtaith ar ben y llechi, ac roedd yna oglau cachu iar neu mochyn cofiadwy iawn yn y dref am gyfnod!
Ta waeth, mae’r olwyn fawr yn troi tydi, ac mae fy sgwaryn i o randir yn ymddangos fel cors eto. ‘Dim ond reis a watercress fedri di dyfu’n fan hyn’, medd un o’r plant ar ein hymweliad cynta’! Mi welwch o’r llun faint o ddŵr sy’n sefyll ar yr wyneb yno. 
Dwi wedi prynu cansenni mafon a choed gwsberins, ond dwi wedi digalonni efo’r amodau braidd, a ddim yn fodlon rhoi dim yn y ddaear nes dwi wedi gwneud rhywbeth am y draeniad gwael.
Dwi wedi eu rhoi dros dro felly mewn hen dwbiau plastig porthiant defaid. Felly hefyd ambell i beth arall dwi’n tyfu fel arbrawf, fel gellyg y ddaear (jerusalem artichokes), a rwbath o’r enw oca, perthynas i’n blodyn suran y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron blasus medden’ nhw. Mae’n tyfu mewn pridd sâl (check), mewn ardaloedd glawog (check), ond angen haf hir, di-farrug (damia! Wel, amser a ddengys yn de).