Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

27.11.16

Garlleg

Pan o'n i'n 12 oed, fy hoff lysiau i oedd tatws. Ar ffurf chips, wrth gwrs.

Ffa haricot hefyd.
Y rhai oedd yn dod mewn tun, efo saws tomato. Ia, baked beans siwr iawn.

Mae'r Fechan yn 12 oed cyn Dolig eleni. Ei hoff lysieuyn hi ydi garlleg! Mi fwytith hi ewin garlleg yn amrwd, ac wrth ei bodd efo fo wedi'i rostio a'i ffrio hefyd, a'i rwbio ar fara, a'i ychwanegu i bob mathau o brydau bwyd.

Doeddwn i ddim yn gwbod be oedd garlleg nes o'n i yn oedolyn am wn i, ond mae'n anodd meddwl am goginio hebddo fo bellach.


Dwi wedi tyfu garlleg yma o'r blaen, ond heb lwyddiant anferthol, gan imi ddefnyddio ewinedd o'r gegin i'w plannu, yn hytrach na'u prynu'n bwrpasol. Y mis yma, mae'r Fechan a fi wedi prynu, ac wedi plannu tair rhes fer o arlleg yn yr ardd gefn.

Plannwyd dwsin gewin o'r Germidour uchod, a dau ewin mawr o arlleg eliffant, ac mae hen edrych ymlaen at gael plethu'r bylbiau at eu gilydd yr haf nesa'.... gobeithio!


Yn ôl fy arfer, doeddwn i ddim digon trefnus i archebu garlleg hardneck, sydd orau ar gyfer llefydd caled fel Stiniog, felly bu'n rhaid prynu rhai softneck yn lleol a chroesi bysedd y gwna nhw rywbeth ohoni yma ar ochr y mynydd.


Heddiw oedd yr ail ddydd Sul hyfryd o braf yn olynol, ac mi ges i dreulio oriau yn yr haul oer yn clirio a thocio a pharatoi. Mi wnes i rywbeth na wnes i erioed o'r blaen hefyd, sef plannu bylbs tiwlips. Rhwng dau feddwl ydw i os dwi'n licio tiwlips ai peidio. Mi dduda'i wrthach chi y gwanwyn nesa (oni bai fod y llygod a'r lleithder wedi rhoi'r farwol iddyn nhw).

Wrth i'r haul fachlud i gefn y Moelwyn Bach, mi ges i funud neu ddau i edmygu noson braf arall ac atgoffa fy hun fod gen i lawar i ddiolch amdano, am gael byw mewn lle mor wych.



-----------------------

[Toriad o bapur bro cylch 'Stiniog, Llafar Bro sydd yn y llun efo'r garlleg, o 2002. Mae ambell erthygl am arddio yn ymddangos ar wefan Llafar Bro hefyd.]


22.11.16

Sbeislyd

Hadau coriander o'r tŷ gwydr. Neis ydyn nhw hefyd.


Er bod planhigion basil yn gwneud yn dda iawn yma, tydi'r amodau ddim yn plesio coriander cystal, ac maen nhw'n gyndyn i gynhyrchu cnwd o ddail. Mae pob planhigyn coriander dwi'n dyfu yn rhedeg yn gyflym iawn i flodeuo.

Maen nhw'n ddigon bodlon, ar y llaw arall, i gynhyrchu hadau ar ôl blodeuo, ac mae'r rhain yn flasus iawn yn wyrdd, mewn llysiau wedi'u stwffio er enghraifft, ac maen nhw'n sychu'n dda hefyd.

Os ydi'r dail angen mwy o sylw a dandwn nag ydw i'n fodlon roi, o leia' gawn ni gnwd o hadau ar gyfer cyri trwy'r hydref a'r gaeaf!




Bot: llysiau'r bara, brwysgedlys m Cu: coriander m     [Geiriadur yr Academi]



21.11.16

Pedair blynedd wedyn...


Tafodau'r merched. Afon Bowydd. #Stiniog

Tachwedd 2012



(Peidiwch â gwthio'r botwm i wylio ar YouTube er mwyn osgoi hysbysebion)

7.11.16

Rhoi'r ffidil yn y tomato

Naw wfft i domatos. Ga'n nhw fynd i chw'thu!

Dwi newydd glirio'r planhigion o'r tŷ gwydr ar ôl i rai ohonyn nhw ddal yr aflwydd blight.


Eto fyth, mi gawson ni gnwd sâl iawn, er trio tri math eleni. Y ffefryn Ildi, a moneymaker a super sweet. Ond yr un oedd y canlyniad.

Ffrwyth yn hir iawn iawn yn aeddfedu; cnwd bach, siomedig.
Mi fuon ni'n hel llond dwrn bob hyn a hyn, ond y rhan fwya' wedi aros yn fach a gwyrdd ar y goeden. A dyna ddiwedd y tymor tyfu eto.

Ildi sy'n felyn, supersweet ydi'r rhai cochio bach, a moneymaker ydi'r rhai mwy
Mae angen buddsoddi amser i dendio tomatos yn amlwg. Fedri di ddim eu tyfu'n llwyddianus o hadau os ti'n arddwr drama, oriog a diog, fel fi!

O fawr ac s fach...  
Os ydw i am drafferthu eto bydd rhaid unai: prynu gwresogydd i'r tŷ gwydr i ymestyn dechrau'r tymor, ac er mwyn osgoi newid mawr yn y tymheredd o ddydd i nos yn ystod hafau uffernol Stiniog; neu anghofio'r hadau a phrynu planhigion o ganolfan arddio (...sy'n teimlo fel twyllo i mi...)

Be wna'i d'wch? Dwn 'im!