Diolch i Shan Cothi a'r criw am roi plyg da iawn i'r blog ar Radio Cymru.
Roedd y sgwrs wedi'i ricordio ben bore, cyn i mi fynd i ngwaith, ac erbyn i'r darn gael ei ddarlledu tua chwarter i unarddeg, roedd Shan yn dweud 'mod i'n trin llwyth o randiroedd ar hyd a lled Blaenau!
Argian; mae un yn ormod ar hyn o bryd.
Dwi'n rhy swil i fwynhau cyfrannu at raglenni os alla'i osgoi hynny, ond roedd y broses yn ddi-boen, ac yn lot o hwyl.
Ac mae niferoedd ymwelwyr i'r dudalen am riwbob wedi saethu i fyny!
Mae clip o'r sgwrs ar wefan y rhaglen, a dwi wed'i blannu
isod.
Bydd o yno am ryw hyd. Os gwyddoch chi sut alla'i ei gadw'n hirach (ond peidiwch son wrth y BBC) gadewch imi wybod plis!
Roedd darn difyr iawn ar y rhaglen wythnos yn ol hefyd wedi'i ricordio yn rhandir Ysgol Cwm Gwyddon yn Abercarn. Braf clywed plantos y cwm y parablu'n frwdfrydig yn Gymraeg am dyfu a choginio'u bwyd eu hunain, a'r idiom ddeheuol ryfeddol '
mas tu fas' gan un o'r athrawon yn codi gwe^n 'run pryd.
Yn ol ymchwilydd y rhaglen, bydd slot rheolaidd am arddio ar y rhaglen. Gorau po fwyaf. Gwych gweld Radio Cymru'n ychwanegu podlediad arall i'w harlwy hefyd.