Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

29.7.14

Pry' garw


Mae'r haul 'ma wrth fy modd i.
Do, bu'r rhandir yn sych am wythnos, a phawb yn gorfod cludo dwr yno, ond chlywch chi mo'na i'n cwyno am yr haul.
Gwyn ein byd

Yn ei sgil daw pryfetach wrth y fil i'r ardd, a hyd'noed y rhai sy'n achosi difrod fel y gloynod gwyn yn cael croeso acw. Wrth gwrs, mae rhai'n cael mwy o groeso nac eraill. Cafodd y Fechan a finna fodd i fyw wrth wylio nifer yn ddiweddar, fel y gwas neidr glas yma (Aeshna juncea; common hawker), ddaeth i glwydo ar fonyn ein Ceonothus am bedair awr ar ol deor. Datblygodd ei liwiau'n raddol tra oedd o yma, ac roedd yn amyneddgar iawn efo ni a'n camera!







Mae gwas da'n dod a'i gyflog efo fo... ac mi gyfrannodd hwn yn hael iawn am ei le.

 Un arall gafodd groeso mawr yma oedd gwenynen ddail (o'r teulu Megachile dwi'n meddwl; leaf-cutter bee), er ei bod yn gwneud tipyn o lanast ar y bysedd cwn melyn, wrth dorri cylchoedd ar hyd ymylon y dail i ffurfio nyth.

Cawsom wylio'i phrysurdeb wrth hedfan 'nol a mlaen...
...dewis darn o ddeilen...
...torri, torri, torri...
... a phlygu'r ddeilen rhwng ei choesau; hedfan i ffwrdd; a dod yn ol drachefn!
Mi lwyddais i ddal un ymweliad ar glip byr o ffilm, ac os llwyddwn ni i'w olygu'n iawn, mi roi ddolen yn fan hyn.


Yn y cyfamser, draw ar y rhandir...


Mae'r pwll yn yr ardal wyllt wedi bod yn eitha' sych hefyd. Eto'i gyd, mae'r gweyll duon (Sympetrum danae; black darter) a'r mursenod mawr coch (Pyrrhosoma nymphula; large red damselfly) yn brysur, er bod yr ardal o ddwr agored wedi crebachu yn y sychdwr diweddar.

Cafodd y Gymdeithas Randiroedd grant i brynu planhigion ar gyfer denu peillwyr, a phrynu casgliad o flodau ar gyfer y pwll a'i lannau wnaethom ni: gold y gors (Caltha); llysiau'r milwr coch (Lythrum); byddon chwerw (Eupatorium); gronell (Trollius); ac erwain (Filipendula). Yn anffodus prynwyd rhai addurniadol yn hytrach na'r rhywogaethau cynhenid. Wedi dweud hynna, fydd y pryfaid yn malio dim mae'n siwr...
Edrych nol dros y pwll, tuag at dirlun nodweddiadol o gytiau amryliw di-batrwm y rhandiroedd



18.7.14

Mor soffistigedig

Mi fues i'n chwilota'r we eto am ffyrdd o baratoi marchysgall, a mynd rownd a rownd nes drysu'n hun!

Yn y diwedd cwbl wnes i oedd eu berwi a'u bwyta efo olew, finag a mwstard. A mwynhau gweddillion y tatws cyntaf yn oer efo nhw, a llond dwrn o ffa melyn a phys am y tro cyntaf eleni hefyd.

Braf ydi cymryd diwrnod achlysurol o wyliau pan mae'r Pobydd a'r plant yn gweithio, ac yn yr ysgol! Cael gwneud rhestr o bethau DWI isio'u gwneud, a bwyta be' dwi isio; gwrando ar gerddoriaeth dwi'n fwynhau; gwylio'r Tour de Ffrainc ar S4C; ac os allaf reoli'r cydwybod dros dro: cael eistedd am awr a gwneud dim byd!

Dwy farchysgallen gynta'r flwyddyn..

...yn berwi, a finna'n glafoerio!

Tynnu'r dail allanol fesul un, eu dyncio yn yr enllyn a chrafu'r cnawd o waelod pob un efo'r dannedd, gan adael twmpath o sborion ar y bwrdd. Ar ol cael gwared a'r fflyff blodeuog yn y canol: cyrraedd calon y blaguryn a mwynhau'r cylch meddal yn farus.
blodyn marchysgall 2013



Mae hanner dwsin arall i ddod o'r lluarth, ond mae'n siwr y gadawaf i un o'r blagur flodeuo eto, gan eu bod yn blanhigion mor urddasol. Ac yn boblogaidd iawn efo gwenyn.




Pwy fysa'n meddwl ei bod yn bosib tyfu globe artichokes ar ochr y mynydd. Tydan ni bobl Stiniog mor soffistigedig 'dwch!



10.7.14

Gwsberins

Yn wahanol i'r coed gwsberins yn yr ardd gefn, mae'r ddwy sydd ar y rhandir yn ffrwythlon iawn. Wel, maen nhw wedi cael eu plannu yn y ddaear fel y dylian nhw, tra bod y rhai yn yr ardd yn sownd mewn pwcedi bwyd defaid ers tair blynedd, yn dioddef diffyg lle i ymestyn gwraidd, a phrinder maeth a chwarae teg.


 A deud y gwir, mae'r rhai ar y rhandir yn gwegian dan bwysau'r ffrwyth, a'r canghennau'n sgrechian am ryddhad. Felly dwi wedi hel ychydig ohonynt; tua un ym mhob pedwar ffrwyth, a chael dau bwys, er mwyn gwneud jam sydyn.



Ychydig iawn o drafferth ges i efo'r llifbryf ar y gwsberins a'r cyrins cochion eleni. Mi dalodd i ddal ati i wasgu a rhwbio y llynedd. Job anghynes braidd, ond angenrheidiol os am fwynhau ffrwyth.

7.7.14

Nythu

O dan ein trwynau, mae par o ditws mawr wedi nythu yn yr ardd gefn acw. Roedden ni wedi hen feddwl nad oedd dim byd yn dod i'r blwch eleni, gan bod titws tomos las fel arfer wedi hen nythu ynddo erbyn yr adeg yma o'r flwyddyn. Efallai bod y par yma wedi cael methiant mewn nyth yn rhywle arall yn gynharach...

Mae'r titws mawr dipyn mwy swil wrth fynd a dod i'r blwch. Ar flynyddoedd blaenorol, mae'r titws tomos fel arfer yn dal ati nol-a-'mlaen efo deunydd nythu, ac wedyn efo bwyd i'r cywion, heb falio botwm corn be ydan ni'n wneud yn yr ardd. Ond mae'r titws mawr yn aros yn amyneddgar ar gangen coeden afalau drws nesa, nes ydan ni wedi mynd o'r golwg, a dim ond wedyn yn mentro i'r nyth.

Y Fechan yn cael cip sydyn ar y pedwar cyw yn galw am fwyd.
Mae cywion yno ar hyn o bryd, a'u gwichian nhw wnaeth hi'n amlwg ddoe bod rhywbeth yn defnyddio'r blwch. Mae'n amlwg bod tacteg swil yr oedolion wedi golygu na welson ni mohonyn nhw yn mynd a dod tan rwan, er ein bod yn yr ardd bob dydd.



Mi fuon ni'n astudio'r neidr ddefaid eto wythnos yn ol, a'r rhestr wenyn, gloynod byw, a phryfaid yn cynyddu. Ond y peth sydd wedi tynnu'n sylw ni eleni ydi tyfiant newydd ar un o'r planhigion bambw sydd yma mewn potiau. Am y tro cyntaf eleni mae'r bambw du (Phyllostachys nigra) wedi cynhyrchu bonion newydd, a'r cyflymder tyfu wedi'n rhyfeddu!



Bob yn ail ddiwrnod -pan oedden ni'n cofio- roedden ni'n mesur coesyn newydd, ac mae o wedi hen basio taldra y planhigyn gwreiddiol. Roedd yn tyfu tair modfedd y dydd, a'r Fechan wrth ei bodd yn ei wylio'n tyfu'n dalach na hi! Tydi o ddim yn ddu ar hyn o bryd ychwaith; mi ddaw hynny efo oed efallai..












 Dwn i ddim faint dyfith o eto, ond mae'n braf cael gwneud gwyddoniaeth a mathemateg yn rhywbeth diddorol a hwyliog i'r Fechan. (Gr'aduras!)


Cyn cau; diolch i Gerallt Pennant am roi sylw i'r blog eto forw Sadwrn.