Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.8.12

Os nad yw hi'n fawr, mae hi'n ddigon

Ar ol arfer efo cnydau digon sal, dwi wedi gwirioni efo'r ffa melyn eleni.
'Wizard' ydi'r ffa ges i y tro 'ma, ac maen nhw'n cael eu disgrifio fel 'field beans' yn hytrach na 'broad beans'.

Mi brynis i'r hadau gan gwmni o Dreftraeth, Sir Benfro (cwmni sy'n ardderchog ymhob ystyr, heblaw am fethu gwneud unrhyw ddefnydd o'r Gymraeg), ac hyd yma, mae'r wizard yn curo bob hedyn arall ges i erioed.

 
Bob blwyddyn, daw pods mawr tew ar y ffa melyn acw, a’r rheiny bron yn wag, efo dim ond dwy neu dair o ffa mewn gwagle mawr gwastraffus.

Mae pods eleni yn dipyn llai: llai o hyd, a llai o drwch. Ond y gwahaniaeth pwysig ydi nad oes unrhyw egni wedi mynd i gynhyrchu pods mawr gwag. Does dim biomass yn ofer. Mae pwysau’r ffa cymaint mwy mewn cymhariaeth â phwysau’r pod sy’n mynd i’r twmpath compost.

Hyd yma, mae'r rhai 'da ni wedi'u bwyta, wedi bod yn hyfryd, efo crwyn tenau, sydd ddim angen y strach o'u tynnu. Bydd digon eleni -am y tro cyntaf erioed- i rannu rhywfaint, ac i rewi llwyth hefyd gobeithio.

Dwi wedi dechrau codi moron hefyd. Ches i erioed lawer o hwyl ar dyfu moron hir, felly mi ges i hadau moron cwta eleni, ac mae ‘na fyd o wahaniaeth yng nghanlyniadau’r rhain hefyd. Mae’r moron yn dew a glân a melys. Wfft i lysiau mawr a hir o hyn allan!


Mae’r rheithgor yn dal i gnoi cil ar ganlyniadau’r betys gwyn a’r ffenel, ac mae’n rhy fuan i chwilio am gloron dan yr oca. ‘Mynadd pia hi...

[Dyfynnu: "Annwyl wlad mam a thad, os nad yw hi'n fawr mae hi'n ddigon, i lenwi, i lenwi fy nghalon!" Cymru Fach. Elfed, 1920au]

27.8.12

Glaw; mi ddaw fel y mynn


Gŵyl banc gwlyb arall; dim byd yn newydd yn hynny! Roedd Dydd Sul yn eitha’ braf o leia, ac mi ges i gyfle i glirio’r gwely tatws yn yr ardd gefn, a hau rhesi o ddail salad yno. Dwi wedi tynnu rhwyd dros y cwbl wedyn i warchod rhag y cathod sy’n felltith yma. Cnwd tatws difrifol o sâl ges i eleni, efo pob un o'r gwlydd wedi dioddef blight. Dim ond dwy dysan gwerth eu cadw ges i o ambell wlyddyn, a’r lleill yn rhy fân.

 
 

Mi fuo ‘na storm fellt wych yma nos Wener, a’r drws cefn yn clecian ac ysgwyd efo bob taran, a’r glaw yn hyrddio’r ffenestri. Bore trannoeth roedd y rhandir fel pwll. Mae prif lwybrau’r rhandiroedd yn gwaethygu. (Tydi teiar fflat ar y ferfa ddim yn helpu chwaith!) Mae tri o’r pedwar rhandir sy’n ddibynnol ar lwybr salaf y safle yn parhau heb eu trin, (fi sydd ar y llall), a dwi’n eitha’ sicr fod cyflwr y llwybr wedi cyfrannu at ddiffyg gweithgaredd arnynt.
Bnawn Sadwrn, mi fuon ni yng Nghaergybi, yn mwynhau barbaciw yn yr haul. Ia, haul! Roedd hi wedi bod yn pigo bwrw yn Stiniog cyn i ni gychwyn, ac roedd hi fel nos yn Nyffryn Ogwen dan gymylau duon bygythiol iawn. Erbyn croesi cob Ynys Gybi, roedd yr awyr yn las.  ¡#*¤! Mae’n ddigon i yrru rhywun i regi... Ta waeth, mi gawson ni bnawn hyfryd yng nghwmni’r teulu estynedig, er ‘mod i’n genfigennus iawn o’u agapanthus anferth nhw, a’n rhai ni nunlle agos i flodeuo ar hyn o bryd!
Tair blynedd yn ôl, mi fuon ni fel teulu ar Ynys Skye am wyliau, a chael glaw bob dydd. Y llynedd mi aethom ni i Lydaw a chael glaw yn fanno am ddeuddydd cynta’r wythnos. Fel wnes i ddyfynnu yn fy mlog cyntaf un, mae’n beryg fod y bardd Gwyn Thomas yn reit agos ati wrth awgrymu bod pobl y Blaenau ‘wedi eu tynghedu i fod yn wlyb’!

Tra'n mochel rhag y glaw efo gwydriad o seidar yn Llydaw, mi ddarllenais am y Santig Du (Sant Bach Du) yn eglwys gadeiriol Kemper. Roedd yn arferiad gan bobl y fro honno fynd a bara at ddelw y sant, ar gyfer y tlodion, yn gyfnewid am ffafrau syml. Doedd y Santig Du ddim yn un am gynnig gwyrthiau anhygoel, ond os oeddech chi eisiau dymuno taith ddiogel adre’ i rywun, neu dywydd da ar gyfer y cynhaeaf; fo oedd y boi i chi. Mi aethom ni felly ar bererindod i gyfarch y Santig Du yn yr eglwys hardd: gadael darn o baguette iddo (ac un Ewro yn y blwch i fod yn saff), a gofyn am dywydd gwell. Coeliwch neu beidio, roedd gweddill yr wythnos yn hyfryd a phoeth!
Un diwrnod, roedden ni ar ben goleudy Penmarc’h, yn methu gweld y môr wrth ei droed oherwydd y glaw a’r niwl, a’r diwrnod canlynol roedden ni’n torheulo yn y môr.
Mi ‘da ni wedi mabwysiadu’r Santig Du ers hynny, gan ddod a llun ohono adra i Gymru, i’w osod ar ochr y gist fara yn y gegin. Tydi’r cr’adur ddim yn teithio’n dda yn amlwg, oherwydd fedra’i ddim yn fyw myw a’i gael o i wella tywydd Stiniog!

[Dyfynnu: "Glaw; mi ddaw fel y mynn" allan o 'Blaenau', Gwyn Thomas] 

21.8.12

Cacwn yn y ffa

 Ar ôl penwythnos arall i ffwrdd, mi aeth yn hir eto rhwng dau ymweliad â’r lluarth. Mi fues i yno rhwng cawodydd y bore ‘ma o’r diwedd, a chael pedwerydd gnwd o bys. Mae’r rhain yn eu hunain yn golygu fod yr ymdrech ddim yn gwbl ofer. Mi helis i ‘chydig o ffa melyn hefyd, ac mi gaiff y Pobydd a finna’r rheiny efo’n te ni heno.
Tra oeddwn i ffwrdd yn gweithio, mi gafodd y merched dri o’m hoff bethau, sef bara cartra’ Ddydd Gwener; cyri tecawê Nos Sadwrn; a chrempog Ddydd Sul. “Dio’m yn deg” meddwn wrth y Fechan mewn protest dros y ffôn; ac ‘roedd ‘na hen dynnu coes ganddi! ‘Mond yn iawn felly i mi gael fy hoff beth yn y byd i gyd heno, sef ffa melyn. Ac mae wythnosau o’u bwyta o ‘mlaen i yn ôl y cnwd sy’n datblygu..
Dwi wedi plannu’r brocoli piws allan, yn lle’r india corn/pys melyn digalon, ac wedi cario dŵr i lenwi casgen, rhag ofn y cawn gyfnod braf a sych ddiwedd yr haf ‘ma (...ha! Doniol iawn Wilias!). Fel arall, dim ond rhyw ‘chydig o chwynnu oedd ei angen heddiw. 

Mae’r planhigion marchysgall wedi dod at eu hunain ar ôl y sioc wreiddiol o gael eu plannu ar ochr mynydd! Gyda lwc bydd blagur ar y rhain erbyn yr haf nesa’. ‘Roedd yn rhaid i mi brynu deg ohonynt trwy’r catalog, a finna dim ond eisiau dau neu dri. Mi brynis i blanhigion trwy’r post yn hytrach na’r hadau oedd tipyn rhatach, gan feddwl y cawn glôb artichoke neu ddwy eleni. Dyna dwi’n gael am fod yn rhy ddiamynedd i feithrin planhigion fy hun o had am ddwy flynedd yn’de! Beth bynnag, mi rannais i chwech ohonynt ymysg ffrindiau, ac mae’r rheiny’n cael gwell hwyl ar eu tyfu nhw yn ôl y son. Diawlad uffar!
Marigolds digon truenus sydd ar y dde, a thafod yr ych, neu borage sy’n tyfu ar y chwith. Blodau glas ar un a gwyn ar y ddau arall. Mi ges i flodau serennog glas borage ynghanol ciwbiau rhew mewn diod ryw dro, gan gyd-weithiwr: brandi ysgawen oedd o wedi’i wneud adra, os dwi’n cofio’n iawn.
Heblaw am yr atgof braf hwnnw, dwn ‘im pam ddois a’r hadau deud y gwir. Go brin ‘mod i am fwyta’r dail blewog sydd arno. Blas ciwcymbar medden nhw, ond waeth i chi fwyta ciwcymbar os ydach chi isio blas hwnnw, am wn i. Maen nhw’n flodau digon del, ac yn siŵr o helpu i ddod â gwenyn a chacwn atynt ac i beillio’r ffa. Efallai y gallwn greu lawnt croquet acw ar gyfer rhannu Pimms efo’r garddwyr eraill dan haul Stiniog!
Mae’r llun ar ben y darn yma wedi gwneud i mi fynd i bori eto mewn llyfr o’r enw ‘Cacwn yn y ffa. Casgliad o ysgrifau Wil Jones y naturiaethwr’, (Carreg Gwalch, 2004). Roedd y diweddar Wil yn gwmpeini difyr ar deithiau yng ngwarchodfeydd natur y fro, ac yn medru rhannu ei frwdfrydedd dros fywyd gwyllt a’i wybodaeth eang efo pawb o’i gwmpas. Mae un o ysgrifau’r llyfr yn son am ddiffyg cacwn (bymbl-bîs) i beillio ei ffa yng Nghroesor. Er bod Stiniog ddau gant o droedfeddi’n uwch eto na Chroesor, mae digon o gacwn, gwenyn, a phryfed hofran acw i hel paill a helpu’r garddwr.
Dyddiau hirfelyn tesog sy’n brin!

12.8.12

Yno mae fy seithfed nef


Daeth i ben deithio byd; wel, Bro Morgannwg beth bynnag. Cawsom wythnos o wyliau o fewn tafliad malwan i arfordir de Cymru, ac mi ddaeth i ben yn rhy gyflym o lawer. Mae’n braf serch hynny cael cysgu yn eich gwely’ch hun tydi, a mwynhau panad efo dŵr glan Llyn Morwynion. Tydi panad ddim ‘run fath yn nunlle arall!
Erbyn dydd Mawrth –er ei bod hi’n tywallt y glaw ar faes yr eisteddfod ac ar siroedd y de, mi glywsom edliw o’r filltir sgwâr, ei bod hi’n braf yno, ac erbyn gwres dydd Gwener, mi ffeindiais fy hun yn poeni sut oedd y rhandir yn mynd i gael dŵr...ond dychwelodd y glaw neithiwr (nos Sadwrn).
Cyn cychwyn ar ein taith, wythnos yn ôl, mi es i draw i’r lluarth i hel llond bag o bys, i’w bwyta efo’n picnic; ac mi fues i yno eto’r bore ‘ma i hel bagiad arall. Mae mwy ar eu ffordd: er imi gwyno am amodau’r rhandiroedd, tydw i erioed wedi gweld cymaint o bys a ffa!






 
Mae’r pys melyn/india corn ar y llaw arall, yn mynd i gael clec. Fel welwch chi yn y llun, troedfedd o daldra ydi’r cryfaf ohonynt, a does ‘na ddim gobaith cael cnwd bellach. Mae gen i blanhigion brocoli piws yn barod i gymryd eu lle. Mi gaiff y ffa piws sydd rhwng y corn aros, ‘chos hyd’noed os na ddaw ffa arnynt, mi fydd y planhigion yn cyfrannu rhywfaint o nitrogen i’r pridd. Mae’r ffa dringo, i’r chwith, wedi altro’n dda ers wythnos ac yn blodeuo o’r diwedd.


Ambell lun o’r gwyliau:

 

Melys moes mwyar. 
Dyma fwyar cynta’r flwyddyn i mi; dim mwyar duon, ond mwyar Mair (dewberry, Rubus caesius), ar dwyni tywod gwarchodfa natur Cynffig. Lle arbennig.


 


 

‘Dere'r seren atai'n llawen’. 
Celynnen y môr, Eryngium maritimum, ar draeth Sker. Lle braf os fedrwch chi anwybyddu gweithfeydd Port Talbot i’r gorllewin.  (Daw’r dyfyniad o gân werin Y Ferch o’r Scer).





 
E-coleg. 
Maes gwyrdd yr eisteddfod. Digon o bethau’n mynd ymlaen yno i gadw rhywun yn ddiwyd am ddiwrnod cyfa’. Gobeithio y bydd ym mhob Steddfod o hyn ymlaen.







Trefn yng Ngerddi Dwnhrefn. 
Ffrwyth meryswydd yng ngardd furiog ‘castell’ Dunraven. Medlar (ffrwyth y mae’r Ffrancwyr yn ei alw’n dwll tîn ci, mae’n debyg. Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig ‘afal agored’, ond hefyd ‘afal tindwll’!) er fod y plasdy wedi ei ddymchwel, mae’r gerddi’n cael eu cynnal yn llwyddianus iawn gan y cyngor sir. Mi ges ddianc yno am orig tra oedd y plant a’r Pobydd ar y traeth eto. 



Amryw byd; am ryw hyd.
Mi ges i grwydro i ben safle hen fryngaer hefyd, lle bu Caradog yn cynnal cynulliad i drefnu gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid; ac i ben Trwyn y Wrach i edmygu’r hyn sydd ar ol o'r glaswelltir blodeuog cyfoethog yno, a’r milltiroedd o glogwyni calchfaen trawiadol bob ochr iddo.




Fel sy’n draddodiadol, mi fuon ni’n canu ‘Mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog’ yn y car wrth gychwyn ‘nôl tua’r gogledd, canys –er mor wych ydi cael ymweld ag ardaloedd eraill trawiadol ein gwlad hardd- yno mae ein seithfed nef.

Lolbotasmaip

Pawb arall yn gwylio seremoni gau y 'Lympics... a finne'n dathlu'n ddistaw fod yr holl beth bron ar ben.
Mwya'n byd o fedalau oedd Prydain yn gael, mwy' Prydeinig oedd pobl Cymru a'r Alban yn deimlo dwi'n siwr. Cam yn ôl yn nyddiau datganoli.

Roedd saith o Gymry ymysg yr enillwyr medalau. Pob lwc iddynt. Ond fy arwr i heddiw ydi Guor Marial, y rhedwr marathon o Dde Swdan, gwlad a ennillodd annibynniaeth oddiwrth Swdan yn ddiweddar ar ôl rhyfel erchyll. Meddai yn yr Huffington Post:

"Some things are more important than Olympic glory. If I ran for Sudan, I would be betraying my people. I want to bring honour to my country. I'm not a citizen of Sudan. That's not my country. Would you represent England because England once ruled America? It's as if the IOC thinks South Sudan and Sudan are the same country. We are our own nation, with our own president and our own flag."

Dwi am wneud cais i'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol i gael cynrychioli Cymru yn Rio 2016 dan faner 'Athletwyr Annibynnol yr Olympics', fel wnaeth Marial eleni, ynghŷd a thri athletwr o Antilles yr Iseldiroedd. Be wna'i dwad...dressage, neu nofio syncronedig? Pwy sy' awydd ymuno? Mi gawn wisg o frethyn cartref ar gyfer y seremoni agoriadol.

47fed oedd Marial yn y marathon heddiw...ond fel welis i ar grysau yn y Steddfod: Gwell colli dros Gymru, nag ennill dros GB!

Mae deiseb ar wefan ein Cynulliad yn galw am gydnabyddiaeth i Gymru fel cenedl i gystadlu yn Olympics y dyfodol. Cerddwn (neu Rhedwn) Ymlaen gyfeillion!


"Penderfynodd pwyllgor Olympaidd Rio 2016 wella ar ddarpariaeth Llundain trwy gyflwyno cystadleuaeth Synchronised Equestrian Swimming, er mwyn rhoi gobaith i wledydd bach gael medal ar draul cewri fel China a'r Unol Daleithiau.." (Cerflun ar stryd fawr Porthcawl!)



4.8.12

Morforynion

 Mae gwaith a glaw wedi nghadw fi o'r ardd a'r lluarth trwy'r wythnos eto. Wrth chwilota hen luniau, mi ddois i ar draws hwn ar y chwith, a dynnwyd flwyddyn yn ol ar draeth Pentraez yn Llydaw. Yr Arlunydd wedi bod yn brysur.

Ar ol dod adra, mi fuodd hi a'r Pobydd yn addurno talcen y cwt, yn yr ardd gefn, efo darnau o hen deils wedi eu malu. Hen shanti o dy gwydr oedd yn fan hyn cyn hynny, ond dyma bellach lle fydden ni'n eistedd allan yn yr ardd. Ges i balet o lechi ail-law i'w rhoi ar lawr, fel patio bach yno.
Nid 'mod i'n cwyno am yr haul, ond mae'r ardd yn wynebu'r de, a'r haul yn taro yno'n ofnadwy weithiau. Dyma'r unig le yn yr ardd lle fedrwn ni gael cysgod pan fo angen hynny! Mae o'n lle braf i ymlacio gyda'r nos efo potel o gwrw hefyd. Byddai nosweithiau braf yn wych rwan, i mi gael dianc oddi wrth y 'Lympics.






Llun gweddol 'random' (chwedl y plant) i orffen heno: bwrned chwe smotyn yn gwledda ar driaglog goch. Gwyfyn trawiadol sy'n hedfan yn ystod y dydd. Cynnig cyntaf Awst am lun y mis efallai.