Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

Yr ardd gefn

Rhywbeth tebyg i hyn oedd yr ardd gefn yn edrych yn ystod 2013:

YR ARDD GEFN


Wynebu'r de-orllewin. Yn llygad yr haul.

Dau ddarn:

> y rhan hirsgwar ydi gardd wreiddiol y ty. 18m x 6m.

> y triongl yn ddarn ychwanegol a brynais er mwyn cael mynediad i'r ffordd gefn (ymyl chwith) ac i gael mwy o le i dyfu, cyn bod safle rhandir yn bod yn y dref.



1- decin wrth ddrws cefn y ty. Perlysiau, olewydden, a blodau blynyddol mewn potiau. Pergola efo gwyddfid a clematis yn dringo. Bachau ar gyfer hamog. Mainc. Tap dwr. Ar y chwith, 'cwpwrdd' tegannau, efo to gwyrdd (sedums ac Erinus yn bennaf).

2- gwely tywyll. Rhedynnau; briallu; lelog Califfornia (Ceonothus).
3- afal Enlli [espalier]; ceirios morello [ffan]; mafon. Blodau blynyddol.     
[Lawnt.]

4- gwely cul. Planhigion parhaol.

5- gwely crawia' (ffens lechi ar yr ymyl dde).  Planhigion parhaol.

6- patio llechi. Bwrdd bwyd. Mainc. Coeden gelyn uwchben.
7- hwylfan. Patio llechi arall, wrth dalcen y cwt. Yr unig le lle gallwn gysgodi o'r haul. Hwyl drionglaidd uwchben. Gwely rhedyn wrth fon y ffens.

8- ffrwythau meddal. Rhiwbob; mefus; cyrins coch; cyrins duon.
9- cwt/gweithdy. Wastad angen ei glirio!
10- ty gwydr; dwy goeden gellyg mewn twbiau tu allan. Hefyd ffenel; bladdernut; crib y pannwr; pren bocs y gaeaf. Hefyd, dwsinau o botiau eraill yn cynnwys planhigion digartref! Mainc arall.
 


11- cwt coed tan. lle i gadw cansenni dros y gaeaf. To gwyrdd. Gwely bach efo banhadlen binafal (Cytisus). Gwely'r giat gefn: llwyni a blodau parhaol.

12- ardal deilbridd a chompost; rhosyn.

13- gwely pabi. Planhigion parhaol. Hefyd, eirinen Ddinbych. 
14A- tatws: charlotte a sarpo miro. 14B- gwely cymysg. Letys a dail salad amrywiol; radish; moron; panas; betys. 14C- bresych; sbrowts; pys; nionod; oca; persli.    Llwyni ar hyd y terfyn.14CH- llus mawr.
15- trampolin.
 16- ty helyg. Arbour helyg a mainc. Gwely alpaidd; hefinwydden; coeden afal step-over; cwt bach coed tan.

X- safle'r goeden ffawydd ddeheuol wnes i lifio ym mis Mawrth 2013.

9fed Mehefin



Edrych 'nôl dros gyfnod creu'r ardd gefn:

Ebrill 2002- y gwanwyn cyntaf ar ôl symud i mewn. Roedden ni'n dal i weithio a gwario ar y tŷ, a'r ardd dal yn le i gadw hen deils a brics a ddaeth allan o'r gegin, a phob math o bethau eraill fel bath a thanc dŵr poeth, ac ati. Y ddau wrych yn dwyn gormod o le. Roedd yr ardaloedd pridd yn wlyb iawn iawn.


Erbyn Pasg 2003 roedden ni'n barod i fuddsoddi amser a 'chydig o bres i greu gardd i'r teulu. Wedi pigo'r hen blastar oddi ar wal gefn y tŷ, mi gyfunwyd yr angen i osgoi talu cannoedd am sgips i gludo'r rwbal o'no, efo'r angen i godi lefel yr ardd uwchben y tir corsiog. Adeiladwyd wal efo'r brics a dynnwyd o barwydydd mewnol y gegin, a rhoi'r rwbal fel haen isaf y gwely newydd. Rhoddwyd haen o dywod ar ben y rwbal...

 
...wedyn pridd erbyn diwrnod cynta' Mehefin 2003, a'r wal wedi'i gorffen. Mae'r gwrych ar y chwith wedi mynd, a'r ffens ar ei hanner. Mae'r gwrych ar y dde dan reolaeth o'r diwedd hefyd!
Y lle yn dechrau tacluso o'r diwedd!


22ain Mehefin 2003: y tywyrch wedi dechrau plethu'n ei gilydd, ac ambell blanhigyn wedi'i blannu. Erbyn diwedd Gorffennaf, roedd mwy wedi'i plannu; decin a pergola wedi eu hadeiladu wrth y tŷ; llechi wedi gorchuddio'r llwybrau; a thŷ gwydr wedi'i godi efo hen ffenestri wrth dalcen y cwt. Y ni wnaeth y gwaith i gyd, ac o'r herwydd mae'r ardd yn lle mwy arbennig a phersonol.


Neidio i Awst 2011. Yr ardd wedi aeddfedu a llawer wedi newid ers 2003, ond fydd hi fyth wedi'i gorffen. Bydd rhywbeth angen ei newid hyd dragwyddoldeb!






No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau