Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.1.16

Byr bry'd

Fy hoff afal ydi afal croen mochyn. Russet.

Maen nhw'n afalau blasus, persawrus, sy'n cadw'n dda yn y gaeaf. Ond, heb dyfu rhai eich hun, mae'n ddiawl o job cael gafael arnyn nhw fel arfer. Mae gen i goeden afal croen mochyn acw, ond mae hi'n talu 'nôl ar hyn o bryd am gael ei chamdrin yn y gorffennol. Bu mewn twb am gyfnod rhy hir, a dwi wedi ei symud fwy nac unwaith, felly tydi hi ddim yn gynhyrchiol o gwbl.

Plannwyd hi o'r diwedd llynedd, a dwi yn gobeithio am gnwd eleni, ond yn y cyfamser, dwi'n falch o fod wedi gweld yr afalau ar werth mewn mwy o lefydd nac erioed. Tri lle i fod yn fanwl gywir; un yn Port, un ym Mangor, ac un yng Nghaerdydd.

Mae yna 'ond' efo hynny hefyd. Bob tro dwi wedi llwyddo i'w prynu yn ddiweddar, mae yna bryfaid wedi bod ar bob afal.


Cenbryfed cragen ydyn nhw (mussel scale insects). Mae yna lwyth o bryfaid bach a/neu wyau o dan bob un plisgyn, sy'n debyg iawn i gragen las. Mae'r enw Saesneg yn gweddu'n berffaith, ond mae Geiriadur yr Academi yn cynnig 'cenbryf y llwyfen' fel enw Cymraeg. Debyg eu bod yn gyffredin ar goed llwyf (elms), ond yn ôl yr RHS maen nhw'n gallu bod yn bla ar goed ffrwythau hefyd.

Tua 3mm o hyd ydyn nhw
Mae'n siwr 'mod i wedi bwyta mwy nag un ohonyn nhw, a dwi ddim gwaeth hyd yma, ond ych a fi, tydi o ddim y math o beth sy'n apelio nac'di..

Peidiwch a deud wrth heddlu gogledd Cymru, ond dwi weithiau'n bwyta afal wrth yrru car. Mae rhywun eisiau bod yn weddol hyderus o beidio dod ar draws syrpreisys fel'na wrth drio gyrru'n ddiogel!

Welis i erioed mohonyn nhw ar ddim byd yn yr ardd acw, ond be sydd gen' i ofn ydi eu bod yn medru dod yma ar afal o siop, deor, a chanfod y coed ffrwythau allan yn y cefn.

Un peth ydi gorfod edrych amdanyn nhw cyn bwyta afal; poen tîn go iawn fysa gorfod delio efo heidiau ohonyn nhw yn yr ardd!

10.1.16

Crwydro- lawr yn y ddinas

Trip arall i Gaerdydd ddoe. Danfon yr hynaf 'nôl i'r brifysgol ar ôl mis o gael ei bwydo adra!


Torri'r siwrna trwy biciad i Abaty Cwm Hir, a dod o'na yn fwd a cachu defaid i gyd. 'Does dim uffar o beryg bysa safle sy'n bwysig i'r Saeson mewn cyflwr mor druenus. Ma' isio 'mynadd efo Cadw.
Dod o'na hefyd yn pendroni pryd fues i ddwytha...


Mis Mawrth 1989! Efo Jôs Mawr, Dei Mur, Prysor, a Ffredo, ar y ffordd adra o benwythnos rygbi yn y brifddinas.

Cyfnod cyffrous o fynd mewn criw yn achlysurol i wylio rygbi; dro arall i rali Cilmeri, ac i gigs ac yn y blaen.

Mynd tro cynta i'r ddinas tua 1986 dwi'n meddwl efo addewid o fynd i gig yn rhywle egsotig o'r enw Clwb Ifor Bach, a chyri ganol nos.

Gwylio'r rygbi mewn tafarn. Wedyn mynd ar goll. Dim syniad pam. Na sut. Tydi'r cof ddim wedi cadw manylion felly. Colli pawb, wedyn crwydro am oes heb nabod neb na nunlla. Esu: lle di-gysur ydi dinas ddiarth os ti ar ben dy hun, ac uffar o neb yn siarad dy iaith! Petha handi ydi ffôns symudol rwan 'de.

Ffeindis i'r 'ogia tua dau y bore mewn lle burgers os dwi'n cofio'n iawn. Diolch byth, achos doedd gen i ddim clem sut i ffeindio'n ffordd 'nôl at y tŷ lle oedden ni'n crashio ar hen three-piece-suite.

O'n i ddim ar frys i fynd 'nôl i'r brifddinas wedyn.

Ond da ydi'r ymenydd am faddau pethau annifyr, oherwydd yn ôl mae pawb yn mynd yn'de. Flynyddoedd wedyn, dod i werthfawrogi llefydd fel y Square Club ar Westgate Street. Twll o glwb nos tywyll, ond yn chwarae'r gerddoriaeth indy oedd yn llenwi fy myd i ar y pryd, yn gwerthu cwrw tan 2 y bore, a ddim yn cau am oriau wedyn! Es i adra i'r gogledd ar ôl un penwythnos tua 1990, a ffeindio'r tŷ yn chwilboeth am fy mod i wedi gadael y gril ymlaen ers 48 awr...

Treulio blynyddoedd digalon hefyd yn gwylio bob gêm gartref tîm pedroed Cymru, pan oedden nhw'n boddi wrth ymyl y lan ac yn chwarae'n ddiawledig o sâl bob-yn-ail.

Gweithio bore dydd Mercher, gyrru am dair awr a hanner i gael bwyd a pheint cyn yr anthem; rhuthro i Barc yr Arfau a thynnu gwallt ein pennau am awr a hanner o beldroed difrifol; gyrru 'nôl ar ôl peint arall a chyrraedd adra tua 2 y bore, a chodi i weithio eto dydd Iau.

Brwdfrydedd ifanc. Breuddwyd Gwrach, a gwastraff amser, pres a phetrol. Ond, fyswn i ddim wedi newid hynny am bris y byd 'radag hynny.


Mae lwc y tîm peldroed cenedlaethol wedi newid erbyn hyn; ac mae Caerdydd wedi newid hefyd. Er gwell. Y Gymraeg yn fwy amlwg ym mhob man ac ar bob dim.

Sticeri stryd Caerdydd, Hydref 2015

Rhaid i mi ddeud 'mod i wrth fy modd efo'n prifddinas ni rwan. Dwi ddim yn un o'r gogs 'na sy'n swnian bod pob peth yn mynd i Gaerdydd (o fewn rheswm...). Mae'n bwysig i'n cenedl ni gael prifddinas fodern a chyffrous.

Mi fuon ni yno sawl gwaith ers i'r hynaf o gywion y nyth hedfan i'r brifysgol. Gwyn ei byd. Aethon ni gyd ati am dro hanner tymor, a phiciad allan o'r ddinas i weld Gardd Berlysiau'r Bont-faen ar ddiwrnod olaf Hydref a'r haul yn gynnes.


Lle difyr, yn sicr yn werth ymweliad arall yn yr haf. O, am gael byw yn nes at y cyhydedd!




1.1.16

Addunedau i'w torri...

1. Gwneud mwy o gompost.

Rhaid dechrau trwy droi hwn.
Dwi ddim wedi rhoi bwyd wedi'i goginio yn y twmpath erioed, ond ar gais cymydog, dwi heb roi unrhyw wastraff gegin ynddo ers tua dwy flynedd chwaith oherwydd llygod mawr. Dim parion tatws, dim plisgyn ŵy, dim croen bananas. Tydi o heb stopio'r diawled rhag twrio yn y compost wrth gwrs. Dim ond toriadau gardd a dail te a choffi sy'n mynd iddo rwan. Wrth roi popeth mewn un bin fesul chydig, tydi o ddim yn c'nesu digon i bydru'n iawn. Dwi'n dal i ddysgu. Hira'n byd y byddi fyw, mwya gweli, mwya glyw.

2. Rhoi trefn ar y rhandir!

3. Darllen mwy.
Fel bob tro, mae gen' i lwyth o ddeunydd darllen ar eu hanner ar yr un pryd. Dwi ddim yn gweld hynny'n wahanol i rywun sy'n gwylio Pobl y Cwm ar y teledu, wedyn Y Gwyll; gwylio dogfen yfory efallai, a Rownd a Rownd a drama arall ar ôl hynny. Ar hyn o bryd mae 'Antur i'r Eithaf' Eric Jones, 'Cam i'r Gorffennol' Rhys Mwyn, 'The Man Who Made Things Out of Trees' Rob Penn, 'A Year of Good Eating' Nigel Slater, a 'Sesiwn yng Nghymru' Huw Dylan Owen, i gyd ar y gweill. Dau yn y gegin, un yn y parlwr, un wrth y gwely, ac un yn y lle chwech- gewch chi ddyfalu pa un.
Mae llawer iawn mwy yn aros...

Beicio mwy. Diogi llai. Cyfrannu. Gwrando. Cyfri' i ddeg ac ymlacio.

Gawn ni weld!