Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.9.15

Plannu dan gysgod

Ges i gyfle dros y Sul i blannu'r gwely bach newydd wnes i yng Ngorffennaf wrth ail-adeiladu grisiau lawr i waelod yr ardd (Cwt Coed a Draenogod).

Bydd y gwely bach yma yn y cysgod am y rhan fwyaf o'r dydd, ond digwydd bod, roedd rhywfaint o haul wedi dod rownd ato erbyn i mi dynnu llun, tua hanner awr wedi dau.

Dros y blynyddoedd, 'da ni wedi bod yn euog o ffansïo planhigion mewn meithrinfa, neu ganolfan arddio, a'u prynu nhw heb le addas i'w plannu nhw. Roedd hanner dwsin o bethau o gwmpas y lle 'ma angen amodau lled-gysgodol, ond wedi eu plannu -dros dro- mewn llefydd oedd yn llygad yr haul, a ddim yn hoffi eu lle.
 (Ahem: dim jôcs am haul a Stiniog plîs...)


Maen nhw wedi cael eu symud rwan, a gobeithio y gwna'n nhw'n well yn eu cartref newydd!

Mae'r tormaen London pride ar y chwith, a'r sedums ac ati yn y wal yno ers tro. Y planhigion ymysg y pridd noeth sy'n newydd. Wel, ddim yn newydd chwaith ... heblaw'r ddwy friallen -Primula vialii- sydd yng ngolau'r haul yn y llun.  Ges i'r rhain am deirpunt yr un yn Ffair Fêl Conwy ganol Medi.

Hefyd yn y gwely (efo'r cloc o'r briallu) mae
llysiau'r 'sgyfaint Pulmonaria blue ensign;
Heuchera sydd a'i enw wedi hen fynd o'r cof;  
Pulmonaria pinc a glas anhysbys;
blodyn ewyn Tiarella spring symphony;  
Heloniopsis orientalis;
a Cardamine trifolia -berwr tribys



Yn ôl fy arfer, wedi'i hailgylchu mae'r wal. Pennau llifiau llechi ydyn nhw. Deunydd pobogaidd yn ardaloedd llechi Gwynedd. Daeth  y cerrig o'r wal arall sydd i'w gweld yn y llun. Honno oedd wal derfyn gwaelod yr ardd, cyn inni brynu'r triongl ychwanegol. Tynnais hanner y wal i lawr, a gosod coed derw o hen arwydd arni, fel mainc, a chafn planhigion alpaidd hefyd. Defnyddio'r cerrig wedyn i godi wal newydd ar lethr er mwyn creu gwely blodau gwastad.

Does dim byd yn mynd yn wâst yma!!


27.9.15

Ffa -rwel haf

Daeth ha' bach Mihangel. A da ei gael.

Bu'n hyfryd y penwythnos yma, ac o'r diwedd mi gawson ni gyfle i fwyta allan yn yr ardd. Dyma un o bleserau bywyd: bwyta bwyd ti 'di tyfu dy hun, a chael gwneud hynny allan yn yr awyr iach.


Mae'r ffa melyn wedi gorffen rwan. Mi heliais yr olaf ohonynt, a chodi courgettes bach del 'run pryd, a'u coginio efo'u gilydd a darn o facwn. Mae digon yn y rhewgell i'n cadw'n fodlon am sbelan hefyd.


Mi fues i'n clirio'r planhigion ffa, oedd erbyn hyn wedi magu gorchudd go hyll o rwd. I'r bin compost cyngor sir aeth y rheiny yn hytrach na'n twmpath deilbridd ni.

Wedi clirio'r olaf o'r coed pys hefyd. Y Fechan a'i ffrindiau wedi bod yn 'dwyn' y pods olaf wrth chwarae allan yn y cefn!

Mae'r ffa dringo ar y llaw arall yn dal yn gynhyrchiol iawn ar hyn o bryd, felly bydd digonedd o ffa i ddod eto tra pery'r tywydd da.

Hir oes i'r haul!


13.9.15

Seren yr wythnos

Jasmin yr haf.


Jasminum officinale affinum


Yn llenwi'r ardd gefn ar hyn o bryd efo'i arogl sbeislyd arbennig, er mor fach ydi'r blodau.
Mmmmm..

Mae'n tyfu ar wifrau yn erbyn ffens, yn wynebu'r gogledd. Gyda lwc, efo 'chydig o docio priodol yn Chwefror, mi fydd yn llenwi'r lle sydd ar gael iddi efo blodau yn hytrach na changhennau a dail.


10.9.15

Llwyddo a methu

Mae darn a sgwennais rywbryd dros y Pasg yn son am gystadleuaeth fawr i dyfu'r blodyn haul talaf, yn ogystal a son am hau hadau diarth. (Rhuthr goddaith a.y.b)

Mi gawson ni lwyddiant efo un, a methiant llwyr efo'r llall.

Bu hen dynnu coes a thaflu llwch, a bwydo a thendio; brwydro efo malwod ac adar a gwyntoedd cryfion, a chyhuddiadau lu o dwyllo, ond o'r diwedd, daeth diwedd ar yr aros. Diwrnod olaf Awst oedd diwrnod mawr y mesur.

Fel hyn oedd hi ar yr awr dyngedfennol:

Cae Clyd. 70 modfedd. Medal efydd!



                                                             Rhiwbach. 77". Dyfarnwyd y fedal arian,
                                                             -ar ôl apêl yn erbyn y tâp mesur unigryw...

...ac, ar ôl hau yn hwyr a chychwyn yn araf...

Neigwl (tŷ ni) oedd pencampwyr teilwng 2015! Efo tri neu bedwar blodyn haul dros 90" roedd y fedal aur yn haeddianol. Er aros yn amyneddgar, ddaeth Dafydd Êl ddim acw i gyflwyno'r gwobrau, ond cyflwynwyd desgil wydr 'amhrisiadwy'  (wel, un fu'n hel llwch yn yr atig am ddegawd a mwy!) i'r pencampwyr i'w chadw am flwyddyn.


Dyma'r ddesgil, ahem, 'hyfryd' a'i gwaith llythrennu, ym..cywrain... ?!
Mae trigolion tŷ ni yn ysu am gystadleuaeth 2016 rwan, er mwyn i rywun arall orfod ei chael hi...

 

Ychydig o hwyl diniwed gwerth chweil. Be gewch chi'n well 'de. Bydd yn rhaid dewis testun cystadleuaeth 2016: moronen hiraf? Pwmpen drymaf efallai? "Bydd raid cytuno ar reolau o flaen llaw tro nesa" medd y ddau daid... nid eu bod nhw'n gollwrs sâl o gwbl! 

Beth am y methiannau ta?
Mi wnes i hau hadau pys merllys (asparagus peas) dair gwaith, ond pydru fu hanes bob ymgais. Rhy oer am yn hir iawn eleni doedd. Mi driwn ni eto'r flwyddyn nesa.

Tyfodd y ciwcymbar lemwn yn blanhigyn dwy droedfedd, cyn pydru yn ei bôn a marw. Gor-ddyfrio efallai, ond yn sicr wedi diodde'r oerfel hefyd.