Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.6.15

Hwyl fawr hanner cyntaf 2015!

Anodd credu bod chwe mis cynta'r flwyddyn wedi mynd i rywle mwya' sydyn! Mae'r diwrnod hiraf wedi bod... "downhill o hyn ymlaen" medda rhywun!

Twt lol, dyma adeg orau'r flwyddyn. Mae wedi c'nesu digon i rywun fedru aros allan yn yr ardd ar ôl i'r haul fachlud dros Graig Nyth y Gigfran, heb i'r gwybaid ddod allan o fewn eiliadau!

Nosweithiau hir, unai yn chwynu a gweithio, neu -rhywbeth nad ydym yn gwneud hanner digon ohono- ymlacio a mwynhau'r ardd. O na fyddai'n haf o hyd.

Y bordor lafant yn prifio'n dda
Gwely wedi llenwi i'r ymylon efo mefus alpaidd.


Y Fechan a fi wedi penderfynu ail-adrodd yr arbrawf i weld pa mor bell fedr malwod deithio'n ôl i'r ardd, ac yn ychwanegol y tro 'ma: faint o amser mae'n gymryd!





24.6.15

Dilyn y Llwybr Llechog

Mae'r gwaith ar lwybrau'r ardd gefn bron a gorffen, diolch i'r drefn, ac mae gwell trefn yma o'r diwedd.


Mae'r gwely bach onglog tua top y llun yn wely newydd. Glaswellt oedd yn fanno tan wsos dwytha. Ardal flodau gwyllt i fod; ond weithiodd o ddim ar ôl y flwyddyn gynta.

Gwely i dyfu blodau i'w torri ar gyfer y tŷ fydd hwn, ond mae'n rhy hwyr i wneud hynny'n iawn eleni, felly 'dan ni wedi plannu cymysgedd o bethau oedd yma ac acw mewn potiau: blodau haul, blodau ŵy, lobelia, marigold, pys pêr.

Mae'r gwely uchaf yn y llun -gwely'r tŷ helyg- wedi cael coed newydd hefyd. Mae llawer i'w wneud eto, ond dwi'n hapus iawn efo be wnaed hyd yma. 'Dwn 'im be 'swn i'n neud heb gymorth y Pobydd a'r Fechan.

Elfen fawr o'r gwaith, cyn creu y llwybrau newydd, oedd llnau'r chwyn o'r ardal gorau fedrwn ni. Gwaith di-ddiwedd myn coblyn i.






Tri chwynnyn poenus: dail arian; blodyn menyn; pumnalen ymlusgol. Bob un yn lledu trwy bob peth arall, ac achosi gwaith diflas trwy'r gwanwyn a'r haf.


Dau fath arall o chwyn diflas ydi glaswellt a marchrawn. Mae'r llun yma'n dangos gwreiddiau gwydn y ddau yn ymledu rhwng brethyn gwrth-chwyn a llechen fawr dwi newydd ei chodi o lwybr, yn chwilio am le newydd i sefydlu, ac i ngwylltio i!

Ond OMB! Dwi ddim isio meddwl am y chwyn sydd ar y rhandir....

21.6.15

O fewn tafliad malwan

Ydi malwod yn medru nofio dwad?



O fewn tafliad carreg i'r ardd gefn acw, mae Afon Bowydd. Handi iawn.
Neu o leia, dyna dwi 'di bod yn feddwl... oherwydd pan dwi'n hel malwod, dwi'n eu taflu dros yr afon i'r lan bellaf.  Na, ddim i ardd rhywun arall: i dir gwyllt. Wir yr.

Ond, does dim diwedd i'w niferoedd nhw nagoes. Diawlad!

Er inni fwynhau cyfnod sych-ar-y-cyfan trwy'r mis, ac wedi cael llonydd gan y pla llysnafeddog,  'dan ni 'di cael tywydd malwod dros y dyddiau dwytha: hen niwl a smwclaw mân.


Un planhigyn sy'n diodda'n arw yma ydi banhadlen bînafal (Cytisus battandieri). Mae dail hon yn feddal ofnadwy, ac yn amlwg yn flasus iawn, iawn. Dwi'n gorfod hel malwod bob dydd odd'arni, ond dio'm otsh faint dwi'n drio, mae rhywfaint ohonyn nhw'n llwyddo i wneud llanast bob nos! Ma' isio 'mynadd.


Mi es i allan gyda'r nos neithiwr eto, a thaflu 23 o'r ffernols dros yr afon. O le ddiawch maen nhw'n dod? Ydyn nhw'n croesi'r afon yn ôl, 'ta malwod newydd ydyn nhw bob tro?

Yn 2010, mi baentiodd y Fechan a fi rifau 1 i 5, ar gregyn pump o falwod yn yr ardd, a'u taflu ddegllath i ffwrdd (ddim dros yr afon). Mi ddychwelodd falwod rhif 4 a 5 at y bresych a'r ffa.

Dyna pryd ddechreuon ni eu taflyd dros y dŵr. Roedd Radio 4 wedi cynnal ymchwil a awgrymodd fod gan falwod y reddf i 'ddychwelyd adref' o 10 metr, ac o bosib o hyd at 30m, ond heb ganfod ateb i ba mor bell oedd ddigon pell! Meddai'r adroddiad: "on the evidence so far, it would be safe to take and place them elsewhere at a distance of say, 100 to 200 metres."

Bysa'n well i mi eu taflu YN yr afon yn hytrach na drosti e'lla!


13.6.15

Dim Clem

Mae rhai pethau'n llwyddo yn yr ardd gefn acw trwy mwy o ffliwc na dim byd arall.

Mi fuon ni'n tocio'r Clematis montana ar ôl blodeuo bob blwyddyn yn gynnar yn yr haf. Ar y cychwyn, tocio'n arw gan adael dim ond troedfedd o fonyn; wedyn ychydig llai egar, ond yn dal i dynnu llwyth o'r tyfiant.

Ond llynedd ddaru ni ddim tocio o gwbl. Eleni mae'r planhigyn yn wych!


Marjorie ydi enw hon. Mae cannoedd o flodau bach ar ei hyd hi, o waelod y planhigyn i ben y pergola; bob un efo petalau hardd sy'n atgoffa rhywun o fferins ceiniog rhiwbob-a-chwstard ers talwm.


Clematis viticella 'Madame Julia Correvon' ydi'r llall sydd yma. Mae hon yn blodeuo'n hwyrach ar dyfiant newydd, ac yn medru tyfu ar dalcen y cwt sy'n wynebu'r gogledd. Blodau bychain eto, fel Marjorie, y tro hwn yn goch dwfn fel gwin.

Am ryw reswm, does gen i ddim lluniau ohoni. Mi gymraf rai eleni.

Mae angen tocio'r ddwy yma'n wahanol iawn i'w gilydd. Bydd yn rhaid i mi ddysgu sut i wneud yn iawn rhyw ddydd, yn hytrach na dibynnu ar lwc mul i gael sioe ragorol o flodau.