Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

16.12.13

Dydd Llun(-iau). Oca eto

Fel arfer ar Ddydd Llun, dyma 'chydig o luniau, a llai o fwydro.

Daeth yn amser codi rhywfaint o oca* eto, gan fod y gwlydd wedi marw ar ol y barrug ddiwedd Tachwedd. Mi godais ddau blanhigyn, a gadael dau at wsos nesa (byddai'n cadw rhai i'w plannu eto o'r cnwd olaf).




Coch oedd un, a melyn oedd y llall.


Dyma nhw wedi'u torri'n ddarnau gweddol gyfartal a'u berwi am ddeg munud.


Ac wedi'u pobi efo 'chydig o olew rep, chili a halen.


Blasus iawn.


* os ydych yn newydd i'r blog yma, a ddim yn gyfarwydd efo'r llysieuyn, gwthiwch ar 'oca' yn y cwmwl geiriau ar y dde i weld ambell beth dwi wedi fwydro amdano o'r blaen.



9.12.13

Dydd Lluniau- pentymor

Masarnen Siapan ydi hon dwi'n meddwl -Acer palmatum. Does gen' i ddim syniad pa gyltifar ydi hi, ond mae hi'n hardd tu hwnt dan awyr las yn yr hydref.


Ddiwedd Tachwedd dynnais i'r lluniau.
Dyma edrych ymlaen am ddyddiau braf, oer dros y gaeaf.


Ac edrych ymlaen am ddeilbridd da y flwyddyn nesa eto.


Anaml fyddai'n blogio rwan tan ddechrau'r tymor nesa' mae'n siwr. Peidiwch a bod yn ddiarth, a hwyl am y tro!

25.11.13

Barn a rhagfarn

Dwi wedi gwneud chydig o glirio aballu yn yr ardd a'r lluarth, ond dim byd sy'n werth ei gofnodi,  felly wna'i mo'ch diflasu chi efo hynny.

Y Moelwyn Bach; Craigysgafn; Moelwyn Mawr; Moel yr Hydd; Craig Nyth y Gigfran, o ffenast llofft ar fore oer y 25ain.
Daeth y rhew cynta' ar fore'r 19eg. Roedd hi wedi bwrw eira a chenllysg yn y nos, a hwnnw wedi rhewi'n gorn ar lawr erbyn y bore, ond y 23ain oedd y bore caleta' hyd yma.

Mae'r oerfel yn esgus da i ddal i fyny efo rhywfaint o deledu, a darllen o flaen y t^an gyda'r nosau. Be oeddech chi'n feddwl o'r gyfres Tyfu Pobl? Beth am Y Gwyll? Oes rhywbeth arall wedi'ch diddanu'n ddiweddar? Gyrrwch air; peidiwch a bod yn swil!

Dwi am fod yn hy' a mentro efo ambell i feicro-adolygiad.


TYFU POBL. Cwmni Da. S4C.
Wedi edrych ymlaen trwy'r haf am hwn. Ond roedd y natives yn flin o'r darllediad cynta..  Mae pobl Dyffryn Nantlle wedi digio efo'r gyfres, am ddangos ochr negyddol yr ardal. Hen dric diog gan gynhyrchwyr rhaglenni ydi hynny braidd, ac un y mae bro Stiniog wedi'i ddiodde' sawl gwaith hefyd yn y gorffennol.

Ta waeth, bai golygyddol oedd hynny am wn i, a'r cyflwynwyr yn gwneud eu gorau i ddiddanu ac addysgu. Mae egwyddor sylfaenol y gyfres yn un dda tydi: annog trigolion ardal benodol i dyfu eu bwyd eu hunain, a dilyn eu hynt a'u helynt trwy'r tymor.

Roedd yna ddarnau difyr iawn yn ystod y gyfres, ond y brif wendid yn y pen draw oedd y diffyg amser gafodd ei dreulio yn dangos pobl yn paratoi, hau, plannu, a thyfu. Doedd syniad y siop undydd ddim yn gweithio i mi, na chwaith y vox pops di-ddim ar strydoedd Penygroes a'r cylch. Rhy fyr oedd pob pennod yn anffodus: roedd dau funud (wel 1'50 os 'da chi'sio hollti blew) o gyflwyniad union yr un fath bob wythnos, gan adael rhaglen oedd yn ddeg munud o hyd cyn yr hysbysebion ac unarddeg munud wedyn. Dim ond 21 munud yr wythnos. A chyfres o dim ond chwe rhaglen. Diolch S4C! Felly bysa'i 'di bod yn well iddyn nhw dreulio pob eiliad yn y gerddi.

Mae Bethan Gwanas yn son ar ei blog bod y gynulleidfa wedi cynyddu wrth i'r gyfres ddatblygu, felly dwi'n mawr obeithio y bydd ail gyfres -efo pennodau hirach a mwy o ganolbwyntio ar dyfu! Dwi'n gobeithio y caiff Craig ab Iago ran fwy y tro nesa, mae ganddo gyfraniad difyr i'w gynnig yn y maes paramaeth/permaculture dwi'n siwr.


GARDENER'S WORLD. BBC2.
Mi fydd yn chwith gen' i heb hwn rhwng rwan a mis Mawrth, fel pob gaeaf, ond mi fues i'n rhegi at y teledu yn rheolaidd tra oedd o ymlaen. Roedd cyfran rhy uchel o'r gyfres yn dod o ardd Monty Don yn fy marn i, a'r diffyg amrywiaeth o gyflwynwyr yn ddiflas weithia'. Tyrd 'n^ol Alys Fowler. Cer i chw'thu Nigel (ci y prif gyflwynydd). Dyna fy rhagfarn gynta- cwn ar y teli. Nid pawb sy'n gwirioni 'run fath Monty.

BEECHGROVE GARDEN. Tern Productions. BBC Scotland.
Gwell na Gardener's World eleni, efo acenion Albanaidd braf. Gwefan y gall S4C ddysgu llawer ganddi. Hwn wedi gorffen am y gaeaf hefyd.

DARWIN, Y CYMRO, A'R CYNLLWYN. Telesgop. S4C.
Clincar o raglen am Alfred Russel Wallace. Ymchwil a chyflwyniad ardderchog. Rhaglen ddewr i herio'r sefydliad wyddonol. Yn haeddu mwy o sylw na gafodd. Yn haeddu darllediad is-deitlog hefyd ar BBC4 a sianeli lloeren fel Discovery ac ati.

RIVER COTTAGE TO THE CORE. KEO Films. Channel 4.
Er ein bod yn saff o gael eitemau diddorol ym mhob un o gyfresi Huw Ffernol-Rhwngdwystol -a fo fu'n rhannol gyfrifol am ail-gynnau t^an tyfu a hela bwyd ynof i, efo'i anturiaethau hunangynhaliol yn Escape to River Cottage (1997)- dwi wedi colli 'mynadd braidd efo fo.

Ers talwm, hel a thyfu bwyd oedd ei brif ffocws. Chef teledu ydi o rwan, a chwcio sy'n bwysig i chi gael dallt! Ffrwythau oedd y thema eleni, ond fel pob rhaglen/cyfres o'r stabal yma, mae hwn yn dilyn yr un fformat, sef arwain at ryw ffug-ddigwyddiad mawreddog, fel ffair, neu wledd. Ac wrth gwrs, mae yna lyfr ar werth i gyd-fynd efo bob cyfres. (A phlanhigion a hadau a DVDs, a chyrsiau coginio, a thri bwyty i'w hyrwyddo, a phenblwyddi, priodasau a barmitsfas ar gael...)  Ba hymbyg.

Wedi deud hynna, mae'r rysait am Curd Cyrins Duon o'r gyfres yn flasus iawn iawn!


Y GWYLL. Fiction Factory et al. S4C.
Gwych. Does gen' i ddim llawer o amser i ffuglen; Gwaith Cartref a The Newsroom yn eithriadau prin, ond mi wnes i fwynhau hwn. Edrych ymlaen am fwy.
Adolygiad manylach gan Cath Asturias yn fan hyn.

PODLEDIAD GALWAD CYNNAR. BBC Radio Cymru.
O'r diwedd, mae mwy o bodlediadau ar gael gan Radio Cymru. Dim llawer cofiwch, ond mae Betsan Powys yn gaddo mwy...
Mae Galwad Cynnar yn rhy gynnar i mi (0630 ar fore Sadwrn) felly dwi wedi bod yn gwrando trwy wasanaeth iPlayer ar y we, ond o'r diwedd mi ga'i wrando ar yr adeg pan dwi'n mwynhau 'radio' fwya, sef ar y ffor' i ngwaith. Mae'r BBC wedi dewis rhoi awr olaf y rhaglen fel podlediad, ac mae anfanteision yn codi o hyn. Mae o angen ei olygu. Ar adegau o'r flwyddyn mae'r BBC yn rhoi rhaglen o uchafbwyntiau Galwad Cynnar ar nos Fawrth (Galwad Eto). Efallai y byddai hwn yn well fel podlediad. Fy mhrif gwyn efo'r podlediad fel mae o, ydi fod darn garddio John Glyn ymlaen cyn 7 o'r gloch fel rheol, ond (efallai oherwydd bod caneuon yn hanner awr cynta'r rhaglen hefyd), mae hwn yn cael ei hepgor. Biti. Mae cyngor tymhorol JG yn werth ei glywed. Mae darn Awen Jones o ganolfan arddio yn cael lle am ei bod hi'n ymddangos yn ystod yr awr olaf.
Annwyl Betsan, beth am roi Galwad Eto fel podlediad natur, a phodlediad arall arwahan efo eitemau garddio'r wythnos: JG, AJ, ac unrhyw gyfraniadau eraill a fu ar raglenni eraill?

GWREIDDIAU. Medwyn Williams. Gwasg Gomer.
Fy ail ragfarn. A'r trydydd! Seiri-rhyddion, a theulu brehinol Lloegr. Roedd gen' i ofn dechrau efo hunangofiant y mason a'r garddwr-efo-gong o Lanfairpwllgwyngyll a deud y gwir, ond trwy lwc, dim ond ychydig o sylw a roir i'r naill a'r llall, neu mae'n siwr bysa'r llyfr wedi cael ffluch trwy'r ffenast. Tasa fo'n llyfr Saesneg, go brin y byswn wedi'i gyffwrdd efo polyn!

Mae o'n llyfr deniadol iawn, efo lluniau da ac wedi'i ddylunio'n dda yn gyffredinol. Mae'n fwy na hunangofiant hefyd, efo adran cyngor tyfu ar ddiwedd pob pennod. Dwi wrth fy modd efo patrwm y penodau, efo cyfnodau o fywyd 'Archdyfwr y ffrwythau a'r llysiau' yn dwyn teitlau fel 'Yr hadyn'; 'Gwreiddio'; 'A heuir a fedir', ac ati. Mae idiomau cyfoethog yn britho'r is-benawdau hefyd, fel 'Bach yw hedyn pob mawredd' a 'Heb bridd, heb ddim'.

Sgwenwyd o ar y cyd efo Mari Emlyn, efo troeon trwstan a straeon difyr iawn, a hanesion am ffordd o fyw sydd wedi mynd am byth. Byswn i wedi licio gweld ehangu ar yr adrannau cyngor garddio, ond wedyn hunangofiannau sy'n gwerthu orau yn y Gymraeg mae'n debyg, a dyna ydi prif bwrpas y llyfr. Mae'n costio ugain punt i'w brynu, ond dwi ddim yn gweld hynny'n arbennig o ddrud. Wedi'r cwbl mae rhywun yn medru gwario mwy na hynny ar lyfrau Hugh Fearnley-Whittingstall a Monty Don. Argraffwyd o yng Nghymru, ac mae lle i longyfarch Gwasg Gomer am gynhyrchu llyfr unigryw. Peidiwch a'i ddarllen yn y gwely; mae o'n pwyso tunell ac mi gewch uffar o fraw pan fydd o'n eich taro ar eich trwyn wrth bendwmpian!
Beth bynnag, hanner can ceiniog gostiodd o i mi; o'n i bump diwrnod yn hwyr yn mynd a fo 'nol i'r llyfrgell!


Mae llwyth o stwff am dyfu a hel bwyd ar You Tube, ond mae bywyd yn rhy fyr i fwydro am bob un. Oes yna rywbeth ar y we sy'n werth ei weld yn eich barn chi? Rhywbeth sy'n berthnasol i'r blog yma dwi'n feddwl yn amlwg!

Gadewch i mi wybod. Diolch.


10.11.13

Trio cael trefn ar niwl y Migneint

Argian, roedd hi'n braf heddiw. Braf a chynnes.
Y math gorau o ddydd Sul.

Dwi wedi bod yn trio rhoi'r ardd a'r rhandir i'w gw'lau am y gaeaf, heddiw a'r Sul dwytha rhwng cawodydd.

Mae'r ffa olaf wedi eu hel a'u bwyta/rhewi, a dyma'r bwmpen y soniais amdani wsos dwytha. Ddim yn un i'w chadw ar gyfer y sioe sir, ond 'da ni'n edrych ymlaen i'w rhoi hi mewn cyri efo cig oen Cwm Cynfal.

Fel gwelwch o'r llun isod dwi wedi rhoi gorchudd/mulch o ryw fath ar bob un o welyau'r rhandir. Brethyn du gwrth-chwyn ar un o'r gw'lau mawr ac ar y gwely gwsberins; haen o ddeilbridd ar y gwely mafon; a thrwch o hopys ar y ddau arall, ym mlaen y llun.



Mae nifer o'r deiliaid rhandir wedi bod yn cael hopys gan fragdy'r Mws Piws ym Mhorthmadog, a dw innau'n cael sacheidiau gan fragdy Cwrw Cader yn Nolgellau, bob tro maen nhw'n bragu.

Dew, mae o'n drewi! A'r gwenyn meirch wrth eu boddau efo fo, hyd'noed yn ail wythnos mis Tachwedd.
Welis i 'rioed nunlla fatha'r rhandir am chwyn: glaswellt yn arbennig. Mae cymaint o'r plots heb eu trin, does ryfedd bod miliynau o hadau o gwmpas y lle bob dydd o'r flwyddyn. Ond dwi ddim yn helpu fy hun mae'n siwr, trwy beidio rheoli'r gwair sy'n tyfu yn y llwybrau rhwng bob gwely... bydd yn rhaid i mi dynnu'r bysedd o'r blew.



Bydd y brethyn chwyn 'ma rywfaint o help dros y gaeaf gobeithio.


Son am lwybrau, dyma sut maen nhw'n edrych ar hyn o bryd. Dwi wedi bod rhwng dau feddwl i dorri 'nghalon yn y bali lle.....


Mae'r gymdeithas randiroedd wedi cynnal dau ddiwrnod gwaith yno'n ddiweddar mewn ymgais i wella'r draeniad efo ffosydd a phibelli. Mi es i i'r cynta', ond methais fynd i'r ail.

Dwi'n ofni bod yr ymdrech fel cau giat mewn wal fylchog, neu drio cael trefn ar niwl y Migneint.

Pwy ddiawl feddyliodd roi rhandiroedd ar gors?!










Wedi deud hynna'i gyd, pan mae rhywun yn cael teirawr yn yr haul, efo robin goch a llwyd y gwrych yn gwmni, mae'n anodd cwyno tydi!


Tafod yr ych -borage- a Charreg Flaenllym dan awyr las.




31.10.13

Ti'n meddwl lici di yma?


Dwi'n ymwybodol nad oes llawer o son am arddio wedi bod ar y blog 'ma'n ddiweddar. Mi fues i'n mwydro am jam a chrwydro, a hel cnau a madarch a ffrwythau gwyllt, ond heb son rhyw lawer am yr ardd na'r rhandir.


Mae'r calan gaeaf yn gyfle i edrych 'nol ar y flwyddyn mae'n siwr tydi, a dwi wedi mynd ati i greu cynlluniau bras o'r ardd gefn a'r rhandir; rhywbeth dwi wedi bod isio'i wneud ers talwm. Mi ro'i gopi o'r rhain yn barhaol ar dudalen arwahan hefyd.

Yn yr ardd gefn, roedd y ffrwythau meddal yn lwyddiant mawr, gan ddechrau efo cnwd ryfeddol o riwbob. Mi gawson ni datws golew a dail salad bron hyd syrffed, ond methiant oedd yr arbrawf efo'r gwely cymysg. Roeddwn wedi cymysgu hadau letys efo moron, panas a betys, gan feddwl y bysa digon o le i'r llysiau besgi wrth i'r letys gael eu hel dros yr haf. Be ddigwyddodd oedd bod y radish a'r letys wedi mynd yn wyllt bost a doedd yna ddim digon o le na golau i ddim byd arall. Mi gawson ni foron, ond m^an oedden nhw braidd. Bychain ydi'r panas hefyd, ac maen nhw dal yn y ddaear, ond dim ond dail betys gawson ni. Dim betys i'w rhostio: dyma brif siom y flwyddyn o bosib.

Mae'r bresych coch a'r sbrowts wedi diodda'n ddiawledig efo lindys eleni, a'r bresych deiliog (kale) wedi eu llarpio gan falwod. Mae'r oca dal yn y ddaear, ond y tyfiant dail yn wanach o dipyn na'r llynedd, felly dwi ddim yn disgwyl gwyrthiau.

Dwi wedi son digon am siom y ffrwythau coed. Un peth dwi heb gyfeirio ato ydi'r llond dwrn o gellyg ges i am y tro cynta'. Mae'r goeden dal mewn twb, ac yn torri ei bol isio'i phlannu allan yn iawn.

YR ARDD GEFN, 2013


3- afal Enlli; ceiriosen morello; mafon.

8- ffrwythau meddal. Hefyd 14CH- llus mawr.

10- ty gwydr; dwy goeden gellyg mewn twbiau tu allan.

13- eirinen Ddinbych.

14A- tatws: charlotte a sarpo miro.

14B- gwely cymysg.

14C- bresych; sbrowts; nionod; oca; persli.

16- hefinwydden












Ar y rhandir, bu'n flwyddyn eitha' da am ffa eto eleni, er gwaetha'r dechrau hwyr. Roedd yn flwyddyn drychinebus am bys ar y llaw arall. Malwod eto. Un bwmpen sy'n werth ei hel a'r lleill heb dyfu digon i fod yn werth eu codi. Pwmpen las yw'r un sydd wedi tyfu -crown prince- er na fyddai'n ennill unrhyw wobr!

Mi ges i ddau flaguryn oddi ar y marchysgall er mawr syndod, ond er bod pawb arall (ar y teledu a'r radio a'r cylchgronnau) yn brolio blwyddyn anhygoel o ran courgettes, ychydig iawn ges i!


 Y RHANDIR, 2013

2- cyrins duon.

3- blodau haul; gellyg daear (artichokes Jeriwsalem)

4- ffa dringo; ffa piws; pwmpen; brocoli piws; courgette.

5- marchysgall; tafod yr ych.

7- ffa melyn; pys; pwmpen.

8- gwsberins.

9- mafon.



Pan o'n i'n gweithio yn yr atomfa* 'stalwm iawn yn ol, roedd rhywun yn gofyn i mi ryw ben bob dydd, neu bob shifft, "ti'n meddwl lici di yma?" -a hynny flynyddoedd ar ol dechrau gweithio yno!
"Bydd o'n neis ar ol ei orffen", oedd yr ateb yn amlach na pheidio.
Dwi wedi byw yn fan hyn am dros ddegawd, a chael dwy flynedd ar y rhandir bellach, a dwi'n eitha' bodlon yma. Ond fydd yr ardd na'r rhandir FYTH wedi gorffen!

*Atgoffwyd fi wedyn bod hyn yn arferiad ym mhwerdy Tanygrisiau hefyd -yn wir, wedi tarddu'n fanno... 
Peth mawr ydi cof gwael!

21.10.13

Dydd Lluniau- Crwydro

Ychydig o luniau a llai o fwydro..

Gwenynen hwyr ar feillion, ar y rhandir. Mae'n talu i beidio chwynnu gormod!

Crwydro 1, Waunfawr:

13 Hydref. Helfa ffwng ym Mharc Dudley, wedi ei drefnu gan Gymdeithas Edward Llwyd, a'i arwain gan Gareth Griffiths, Prifysgol Aberystwyth.

Braf cael rhannu diddordeb efo criw Cymraeg, brwd.



Ffwng draenog. Un o'r madarch gwyllt hawddaf i'w nabod, efo'r pigau dan y cap, a'r unig rai oeddwn yn medru dod adra o Waunfawr efo fi. Blasus iawn wedi'u ffrio mewn menyn.


Crwydro 2, bryniau Llyn Tegid:

19 Hydref. Owain a Gareth; rhuthro o flaen y cymylau duon.
Methu ddaru ni, a chael socsan hen ffasiwn cyn cyrraedd tafarnau'r Bala.

Fel llynedd, araf braidd oedden ni:

yn ol technoleg Gareth, 4 awr a 57 munud gymrodd y daith, ond dim ond am 3 awr ac 8 munud oedden ni'n symud! Mae hel clecs a dal i fyny'n waith caled tydi!

'Mond 11.55 cilomedr oedd y daith, ond pob un ohonyn nhw'n hwyliog a difyr.





Llyn Tegid dan awyr ddu.
Mae gan Gareth luniau gwell o lawer na'r rhain a dynnais ar y ff^on, ond dwi heb ganfod sut i'w sbachu nhw oddi ar ei gyfrif  flickr  hyd yn hyn!


Cerflun Tom Ellis, Stryd Fawr Y Bala. 
 
Fel mae'n digwydd bod, dyma arwyddair fy ysgol uwchradd hefyd, Ysgol y Moelwyn, Stiniog. 
Does gen' i ddim cof bod neb wedi egluro i mi be mae cynysgaeth yn feddwl. Pan o'n i ddigon call i edrych amdano fy hun rai blynyddoedd ar ol gadael y twll lle (twll ar y pryd; ond chwip o ysgol erbyn hyn, dwi'n falch o ddeud), mi ddois i werthfawrogi'r motto. 
Etifeddiaeth, neu gyfoeth yn wir ydi amser. Yn enwedig yr amser ryda' ni'n gael ei dreulio efo teulu a ffrindiau da.




Crwydro 3, o Stiniog i Feddgelert:

Hon yn daith hy^n, ar ddiwrnod olaf Awst, efo Carey a Dewi. O Ddolrhedyn i Gwmorthin; Chwarel Rhosydd, Cwm Croesor; Nantmor, Glaslyn a Beddgelert. (Lluniau gan Dewi)


Lindys y gwyfyn blaen brigyn (buff-tip) ydi'r rhain, ar dderwen. Cannoedd ohonyn nhw!


 Iechyd da!

Diolch bawb am ddyddiau difyr eto.





12.10.13

Dros y mynydd i hela cnau

Yn rhifyn 4ydd Hydref o bapur Y Cymro, mae Duncan Brown yn ei golofn Llen Natur, yn gofyn:
"Pwy sy'n hel cnau y dyddiau hyn?"

...fi!


Poeni mae'r colofnydd bod y boblogaeth wedi troi cefn ar "bethau cyffredin cefn gwlad". Hefyd, bod wiwerod llwyd yn "llarpio pob cneuen", ac mae hynny'n eitha' gwir yn amlach na pheidio. Ond dim pob blwyddyn chwaith.

Do, bu eleni'n flwyddyn sal am gnau ffor' hyn, efo ychydig iawn yn llwyddo i aeddfedu'n iawn, ond mi ges i hel digon i roi desglad ar y bwrdd, yn ogystal a'r drefn arferol o dorri'r cnau yn y fan a'r lle efo'r plant, a mwynhau'r cnewyllyn melys.
 
Pan gyll y call...
Yr hyn dwi wedi methu a'i wneud hyd yma, ydi llwyddo i gadw cnau cyll yn eu plisgyn ar gyfer y Nadolig. Dyma faint o gnau oedd ar ol acw pan ddarllenais i ysgrif Duncan, a da oedden nhw hefyd, ond eisoes roedd rhai ohonyn nhw wedi crebachu.  Dwi wedi gorfod lluchio rhai yn y gorffennol hefyd am eu bod wedi llwydo. Os wyddoch y gyfrinach, gyrrwch air os gwelwch yn dda!


Fel coed derw a ffawydd ac eraill, mae coed cyll yn mwynhau blynyddoedd toreithiog, (ar gylch o rywbeth rhwng 5-12 mlynedd yn ol rhai). Mast year, chwedl y botanegwyr. Ar yr achlysuron prin hynny mae cnau yn ddigon helaeth fel bod gormod i'r wiwerod, sgrechod coed a llygod, ac felly rhywfaint ar ol i ni. Mae gwyddonwyr yn defnyddio'r ymadrodd predator satiation (syrffed) i ddisgrifio hyn -nid bod y coed yn ei wneud o ar ein cyfer ni wrth reswm! Mae llawer o anghytuno am be'n union sy'n achosi i goed gydamseru cnwd toreithiog, ond beth bynnag sy'n gyrru'r broses, diolch amdano.

Dwi'n cofio cael fy ysbrydoli gan Duncan pan ddaeth yn ddarlithydd gwadd i'r coleg, yn son am gysylltiad ein perthynas ni fel cenedl a'r byd natur o'n cwmpas, o'r son am hela anifeiliaid yn y Gododdin, i'r mesobrau, sef yr arfer o droi moch i'r coed i besgi ar y mes oedd ar lawr mewn blynyddoedd toreithiog.

A son am ddylanwadau, bu diweddar daid y Pobydd yn cystadlu mewn eisteddfod rywdro efo casgliad o ddywediadau lleol, ac ymysg y perlau, mae hwn: 'Blwyddyn dda am gnau, blwyddyn dda am blant siawns'. Nid bod pobl yn cael blynyddoedd mast chwaith am wn i, ond bod cariadon yn mynd yn amlach i'r coed...

Roedd eleni'n flwyddyn doreithiog ym Meirionnydd am afalau a mwyar duon a bu'n ail flwyddyn dda yn olynol i griafol, ac roedd Gerallt Pennant yn son yn yr un rhifyn o'r Cymro, am ddiod feddwol oedd pobl Mallwyd yn fragu efo aeron cochion criafol, a'r schnapps a wneir yn Awstria. Rhywbeth i'w ystyried i'r dyfodol e'lla.

Eto yn yr un rhifyn o'r Cymro, roedd Lyn Ebenezer (mewn modd ychydig yn fwy Victor Meldrewaidd) yn cwyno fod plant heddiw yn dewis bod yn gaeth i'w stafelloedd, yn lle hel cnau a mwyar.

Dim pob un Lyn bach. Ond rhyfedd bod tri o'r colofnwyr wedi sgwennu am hela bwyd.

Dwi wedi son o'r blaen fy mod yn mwynhau'r Cymro, er mor denau ydi o am newyddion. Wrth brynu'r rhifyn uchod mewn siop sydd dafliad cneuen o'r ty acw, yr hyn ddywedodd y llanc mewn syndod tu ol i'r cowntar oedd "ffiffti-piii am bapur mor dena?!" Ia, gyfaill, ond y cynnwys sy'n bwysig 'de, ac mae'r colofnwyr rheolaidd, fel yn achos Yr Herald Cymraeg hefyd, yn werth pob ceiniog.




6.10.13

Melys Moes Mwyar

Dwi'n casau mwyar duon.
Ond dwi wrth fy modd efo nhw hefyd.

Y planhigyn ydi'r cocyn hitio.  Mae'n frwydr barhaus yn y cefn acw i gadw'r mieri rhag tyfu o'r cae drws nesa i mewn i'r ardd. Sglyfath o beth ydi o! Pigog hefyd.

Ond mae'n blanhigyn gwych 'run pryd tydi.
Blodau hardd sy'n denu gloynod a gwenyn a phryfed.
A chnwd anhygoel o ffrwythau. Yn enwedig eleni.

Gallwch son am fitamin C a gwrth-ocsidau,
ond brolio ydw i'n bennaf am eu blas nhw.

Soniodd rhywun wrthai'n ddiweddar am y maeth sydd mewn hadau mwyar duon a mafon ac ati...ond ga'n nhw fynd i chw'thu! Mae 'na ormod o lawer o hadau mewn mwyar duon does; ych, damia nhw!

Mae'n bendant yn fy marn i felly, yn werth yr ymdrech ychwanegol o wneud jeli yn hytrach na jam.
Dim ond hanner dwsin o botiau ges i'r tro hwn, ac mae dau wedi eu rhannu a dau wedi eu bwyta gan y plant (oce, a gen' i hefyd) ac un arall wedi'i ddechrau, fel welwch yn y llun.

Cadw un tan y Dolig ydi'r gobaith, felly bydd yn rhaid i mi ei guddio tu ol i'r potiau jeli criafol nad oes neb ond fi'n fwyta!

Mae Bethan Gwanas* wedi gwneud jeli mwyar duon efo chili, i fynd efo caws a chig a phate medda hi. Swnio'n glincar o syniad at flwyddyn nesa. Neu (gan bod rhai'n dal ar gael) yr wythnos yma ...os fydd gen i fynadd gwneud mwy eto!







Mi fues yn nhy fy rhieni ar ol gwaith un diwrnod hefyd yn gwneud chutney efo Mam, efo rhywfaint o'u cnwd anferthol nhw o afalau Enlli.

Tydi'r Pobydd na'r Arlunydd methu diodda finag, felly does fiw imi drio gwneud picls o unrhyw fath acw! Ges i ddigon o swnian pan ddois i adra a 'nillad yn drewi!

Ond ew: stwff da ydi o! Bydd yn anodd iawn ymatal rhag agor pot cyn iddo gael cyfle i aeddfedu'n iawn. Gin i awyd bechdan gaws rwan deud gwir...

Melys moes mwy.


* Jeli Bethan Gwanas




22.9.13

Fel gwydr o ffwrnais awen

rhosyn Siapan
Er mai tlawd braidd ydi'r cnwd afalau Enlli acw, eto'i gyd mae'n flwyddyn aruthrol am afalau tydi. Mae'r afalau cochion ym mherllan gymunedol Plas Tanybwlch, ac ambell ardd yn demtasiwn direidus!

Mae arwydd 'Cytunwyd ar werthiant' wedi ymddangos ar y ty drws nesa' a neb yn siwr pwy ydi'r prynwr, felly dwi ddim yn debygol o gael hel afalau'r diweddar Deio eleni.

Rhaid bodloni ar helfa o afalau surion felly, ac mae'n flwyddyn arbennig i'r rheiny hefyd ym Meirionnydd, a'r ffrwythau'n tyfu fel grawnwin ar ambell goeden.





Mi helis i driphwys er mwyn gwneud jeli.
Dwi'n reit hoff o'u cyfuno nhw efo eirin tagu i wneud jeli siarp i fynd efo caws a chig, ond mae'n flwyddyn ddifrifol o sal i eirin o bob math o'r hyn wela' i yn lleol.






Dyma fentro felly, am y tro cynta', i ychwanegu egroes (mwcod; rosehips) i'r sosban efo'r afalau bach.



Rhwng y ffrwythau tew oddi ar y rhosyn Siapan (Rosa rugosa; isod) yn yr ardd gefn, a llond poced (!) oddi ar rosyn gwyllt gerllaw, roedd gen' i bwys o egroes.


Mae ambell un ohonoch yn ddigon caredig i ddychwelyd at y blog yma o dro i dro, ac wedi sylwi efallai, 'mod i'n gwneud fy ngora glas i beidio gwario pres yn ddiangen! Gall rhywun wario bom ar offer i wneud jeli, ond yr unig beth sy'n hollol angenrheidiol ydi bag mwslin. Yn enwedig os yn delio efo'r hadau a'r blewiach sydd mewn egroes. Da chi ddim isio hwnnw yn eich jam! Ond heblaw am hynny a sosban dda, does dim wir angen tacla a dyfeisiau drud.

Dwi'n hongian y bag ar fachyn o dan un o gadeiriau'r gegin, a honno wedi ei gosod ar y bwrdd efo cwpan o dan bob coes!


Rhywbeth arall dwi ddim yn talu fawr o sylw iddo ydi'r angen i adael i'r trwyth ddiferu dros nos. O 'mhrofiad i, mae'r llif yn arafu i ddim o fewn awr, a dim ond llond gwniadur ddaw ohono wedyn.

Lolbotas ydi'r pwyslais ar beidio gwasgu'r bag hefyd yn fy marn i. Isio bwyta'r jeli ydw i, dim edrych arno, felly os nad ydych yn bwriadu cystadlu yn eich sioe leol, gwasgwch y stwff i ebargofiant. Ond gadwch iddo oeri 'chydig gynta: mae o'n beryg bywyd am awr neu ddwy!

Mi wnes i gamgymeriad y tro yma dwi'n meddwl. Bysa 'di bod yn well taswn i wedi berwi'r egroes arwahan i'r afalau, er mwyn eu meddalu chydig mwy. Ta waeth. Gorau arf, dysg.

Mi ges i 1.2 litr o hylif, felly dyma'i ddychwelyd i sosban lan, ac ychwanegu 900g o siwgr wrth iddo g'nesu. Dyma lle mae'r alcemi rhyfeddol yn digwydd. Mae'r siwgwr yn troi'r hylif o fod yn gymylog a gwael ei flas, i fod yn sudd gloyw, blasus, gwych.

Hud a lledrith. Fel toddi gwydr ar gyfer ffenest eglwys. Llond potiau o ambr melyngoch hyfryd.


Byddai berwi'r egroes yn hirach wedi rhoi mwy o gochni i'r jeli mae'n siwr ond dwn 'im faint yn fwy o flas fyddai wedi ychwanegu. Fel y mae pethau, mae hanner dwsin o botiau o jeli hynod flasus acw rwan. Ac mi gawson ni rhywfaint efo sgons yn gynnes o'r popdy, a menyn hallt Cymreig.

Mwyar duon fydd nesa, ar ol imi hel digon o fynadd i olchi'r holl lestri a geriach eto!


21.9.13

Bore glawog..

Da 'di Steve Eaves. *
Mae digon o ddeunydd penawdau yn ei ganeuon i gadw blogiwr yn hapus!

"Bore glawog. Cymylau uwchben.
Hel meddyliau: maen nhw'n troi yn fy mhen..."

Mae'n ddydd Sadwrn. Cyfle i ddal i fyny efo cant o jobsys sy'n aros am sylw ar y rhandir. Ond na;  wrth gwrs, mae'n bwrw glaw eto! Niwl at y llawr; a glaw, glaw, glaw.

Typical. Pan oedd yn braf ddydd Sadwrn dwytha, o'n i 'di mynd i Wrecsam i weld Mantell Aur yr Wyddgrug, cyn iddi orfod mynd yn ol i'r ogof lladron yn y Brijis Miwsiym.
Roedd yn syfrdanol o hardd, a dirgelion ei chreu a'i chladdu yn ychwanegu at y wefr o'i gweld.


O wel, gan ei bod yn bwrw, mae'n gyfle i wneud 'chydig o jam a phobi. Mwy ar hynny fory e'lla. Cyfle prin hefyd i roi traed i fyny efo panad a phapur, a syrffio rhywfaint ar y we, yn ogystal a mwydro'n fan hyn!

Braf ydi gweld blog newydd yn ymuno a'r blogfyd Cymraeg. Mae digon o'u hangen nhw.

Ewch draw i safle 'Cadw Rhandir' i weld sut hwyl mae Arfon a Marika'n gael wrth sefydlu rhandir newydd yn y Groeslon.+


Mae cael ail arddwr yn amlwg yn talu ar ei ganfed wrth glirio a thyllu. (Taro'r post i'r Pobydd glywed...)  Pob lwc iddyn nhw. Dwi'n edrych ymlaen yn arw i ddilyn eu hynt.

Gweld hefyd o flog Bethan Gwanas, bod S4C wedi claddu'r enw 'Byw yn yr Ardd', wrth i'r gyfres newydd ddilyn ymdrechion pobl dda Nyffryn Nantlle i dyfu bwyd. Mae datganiad y sianel ar arlwy'r hydref yn deud: "nid cyfres arddio gyffredin mo hon. Mae Tyfu Pobl yn gysyniad cwbl newydd ddylai apelio at gynulleidfa fodern a blaengar.' Hmm, iawn.. amser a ddengys, ond dwi'n edrych ymlaen yn arw beth bynnag.

Wnes i fwynhau cyfweliad Dewi Llwyd efo Medwyn Williams yn ddiweddar. Ar y cyfan. Mae'r garddwr o Fo^n yn siaradwr huawdl a hwyliog. Yn angerddol am ei lysiau, a dywediadau ac idiomau cyfoethog ein hiaith yn britho'i sgwrs. Biti ei fod o'n mynnu cyffwrdd ei gap i deulu brenhinol drws nesa..

Dwi'n dal i gario tomatos o'r ty gwydr, er bod nifer ohonyn nhw'n dangos ol cam-ddyfrio. Ew, maen nhw'n dda hefyd. Felly ar ol pwdu efo tomatos ddwy flynedd yn ol, dwi'n falch bod y Pobydd wedi dod a nhw eleni.

Digon o bys a ffa i ddod eto o'r rhandir, a thatws ac oca, a gyda lwc pwmpen neu ddwy. Os can nhw lonydd gan y slygs melltith!

Dyna ddigon o falu awyr! Mae'r sgons a'r jam yn galw.



Gan fod hwn yn ysgrif rhif 101, dwi'n meddwl y galla'i fentro i roi rhywbeth yn ystafell fondigrybwyll 101, sef y lle i yrru cas bethau.

Be' dwi'n ddewis felly? Tlodi? Rhyfel? UKIP?

Nage: ci Monty Don sy'n ei chael hi. Mae o'n da^n ar 'y nghroen i sut mae cyflwynydd Gardener's World yn siarad efo'i gi, Nigel, bob wythnos, fel petai o'n gyd-gyflwynydd. Hurt bost a diflas!
Hwyl am y tro.

* Un o amryw o ganeuon Steve Eaves ar Youtube efo'r lyrics ar y sgrin yn fan hyn.

+ Blog Cadw Rhandir.

4.9.13

Mafon Gwin a blog rhif 100

Tydi mafon yr hydref ddim yn gynhyrchiol ar y rhandir eleni, ond tydi hi ddim yn ddiwedd y byd, gan fod y mwyar duon yn gwneud yn dda yn yr ardal. Mae'r Fechan a finna wedi hel digon i wneud potiad bach o jam yr wythnos d'wytha, ac mae o wedi mynd yn gyflym iawn. Cawn gyfle eto'r penwythnos nesa 'ma, os cadwith yn sych, i hel cnwd, er mwyn gwneud jeli.

Ar hyn o bryd hefyd, mae planhigyn arall sy'n tyfu'n wyllt yn lleol yn llawn ffrwythau cochion tlws; fel goleuadau bach llachar dan ganghennau coeden ddolig. A deud y gwir, dyma'r flwyddyn orau imi weld erioed yma.

Mafon gwin ydi'r ffrwyth -Rubus phoenicolasius. Japanese wineberry ydi'r enw Susnag arno. Dwi'n meddwl mae planhigion wedi denig o ardd sydd yma, neu o gynllun plannu trefol ar gyrion maes parcio neu rywbeth.. ond maen nhw'n blanhigion ymledol iawn, sy'n gwreiddio -fel eu perthynas, mwyar duon- bob tro mae cangen yn cyffwrdd y llawr.

Geiriadur yr Academi sy'n cynnig mafonen win fel enw Cymraeg, ond (er nad ydw i'n gwybod be ydi geneteg y planhigyn, Rubus ydi bob un) mae ei natur tyfu yn debycach i fwyar nag i fafon. Byddai mwyar cochion yn enw addas efallai.. ond dwi ddim yn mynd i golli cwsg dros y peth chwaith!
Bydd yn werth gwneud gwin efo nhw yn y dyfodol e'lla, ond mae nhw'n sicr yn flasus fel pwdin syml.


Gemau cochion. Dyma faint fedrwn gario mewn dwy law, cyn mynd yn ol i hel mwy!
Berwi'n ysgafn am bum munud efo 'chydig o ddwr a 'chydig o siwgwr brown meddal. Gwasgu trwy ridyll er mwyn tynnu'r hadau, a'i dywallt ar ol oeri dros iogwrt tew groegaidd.   Arbennig!
Hel digon i wneud ychydig botiau o jeli fydd y gamp rwan.


Mae'r Arlunydd wedi dathlu canlyniadau TGAU a phenblwydd ddiwedd Awst. Esgus i'r Pobydd greu campwaith o gacen eto! Ffordd dda iawn hefyd o ddathlu bod y blog wedi cyrraedd cant o ysgrifau!


"Yn olaf", fel maen nhw'n ddeud ar y newyddion... un o ffa Nain a Taid Cae Clyd wedi codi gwen!