Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label llechi. Show all posts
Showing posts with label llechi. Show all posts

10.10.20

O'i Walia Hoff ar Wely Hedd

Dwi'n ddigon bodlon efo 'nghwmni fy hun. Cael amser i hel meddylia' a chrwydro fel liciwn i.

Ar ein hail ddiwrnod llawn yn y Gaiman, roedd fy nghyd-deithiwr yn cynnal gweithdai celf -ac yn cael croeso cynnes iawn- yn Ysgol y Gaiman, gan roi'r rhyddid i mi ddilyn fy nhrwyn a phlesio neb ond fi fy hun.

I'r fynwent amdani felly! Pawb at y peth y bo.


Mae beddi rhai o arloeswyr y Wladfa yno, a beddi pobol Stiniog i ddenu'r sylw hefyd, wrth i'r haul ddisgleirio'n isel yn awyr y gogledd, gan ei gwneud yn anodd iawn tynnu lluniau da o'r cerrig. 

'Evan Williams. Gynt o Ffestiniog'

'William R.Jones, Gwaenydd. Ganwyd yn Pen Llwyn, Ffestiniog'

'Griffith Williams, Uwchlawrffynnon, Blaenau Festiniog'

A mwy...

Eraill wedyn efo englynion gan y bardd o Stiniog, Bryfdir ar eu cerrig, gan gynnwys Gutyn Ebrill:


A mwy -heb gysylltiad amlwg- efo llechi o Stiniog ar eu beddi. Tybed be' oedd cost comisiynu a mewnforio cofeb o'r henwlad bryd hynny? Anodd iawn dychmygu y byddai'n bosib i neb ond y mwyaf cyfoethog heddiw!

Marc y saer maen, ar gefn rhai o gerrig beddi'r Gaiman

Tydi mynwentydd y Wladfa -ar y cyfan- ddim ar safle capel neu eglwys, ac mae mynwent y Gaiman tua milltir o Bethel, capel mwya'r dyffryn, yn y tir sych y tu allan i'r dre'. Roedd y capel ar gau yn anffodus, felly ar ôl sbec sydyn, ymlaen a fi i chwilio am Sgwâr y Cymry a Chylch Gorsedd y Wladfa. 


Capel Bethel, Y Gaiman

Cynhaliwyd seremoni gyhoeddi Eisteddfod y Wladfa yno ychydig ddyddiau ynghynt, ond di-gyffro oedd hi pan fues i yno, a glaw trwm ddoe wedi troi'r llwybrau yn bwll mwd llithrig.

Maes yr Hen Wladfawyr a chylch yr orsedd yn y cefndir
 

Gutyn Ebrill (Griffith Griffiths) oedd sylfaenydd Gorsedd y Wladfa a'r Archdderwydd yno tan ei farwolaeth, ac er na fagwyd o yn Stiniog, o fanno gadawodd o Gymru am y Wladfa. Roedd yn adeiladwr ac arweinydd cymunedol uchel ei barch mae'n debyg ma'i angladd o oedd un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y gymuned Gymraeg. 

Y Gaiman cyn y glaw...


 Y Gaiman ar ôl y glaw!

Ar y ffordd 'nôl i'r dre' am banad dwi'n sefyll ar y Puente Sobre el Rio ('Pont Dros yr Afon' -enw llawn dychymyg!) a gweld fod Afon Camwy wedi chwyddo ers ddoe hefyd, a'i dŵr yr un lliw a choffi-trwy-lefrith. Mae'r dair faner yn chwifio ar lan yr afon wrth i mi adael Y Gaiman. Tan tro nesa.

Baneri'r Mapuche-Tehuelche; Yr Ariannin; a Chymru


"Mae lle i bawb yn y Gaiman. Mae gwahaniaethau yn ein cyfoethogi". Neu rwbath felly! Nid dim ond enwau pontydd sy'n ddi-ddychymyg yno... yn yr achos yma 'Ysgol Rhif 125'


[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #10. PW 29 Hydref 2018]

-------------------------

Mae llawer o hanes Gutyn Ebrill yn ymddangos mewn cyfres 'Stiniog a'r Wladfa' yn Rhamant Bro (cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog) rh.35 2016 gan Vivian Parry Williams; mae erthygl fer (cyfres Stolpia gan Steffan ab Owain) hefyd ar wefan ein papur bro lleol Llafar Bro

 

 

30.9.15

Plannu dan gysgod

Ges i gyfle dros y Sul i blannu'r gwely bach newydd wnes i yng Ngorffennaf wrth ail-adeiladu grisiau lawr i waelod yr ardd (Cwt Coed a Draenogod).

Bydd y gwely bach yma yn y cysgod am y rhan fwyaf o'r dydd, ond digwydd bod, roedd rhywfaint o haul wedi dod rownd ato erbyn i mi dynnu llun, tua hanner awr wedi dau.

Dros y blynyddoedd, 'da ni wedi bod yn euog o ffansïo planhigion mewn meithrinfa, neu ganolfan arddio, a'u prynu nhw heb le addas i'w plannu nhw. Roedd hanner dwsin o bethau o gwmpas y lle 'ma angen amodau lled-gysgodol, ond wedi eu plannu -dros dro- mewn llefydd oedd yn llygad yr haul, a ddim yn hoffi eu lle.
 (Ahem: dim jôcs am haul a Stiniog plîs...)


Maen nhw wedi cael eu symud rwan, a gobeithio y gwna'n nhw'n well yn eu cartref newydd!

Mae'r tormaen London pride ar y chwith, a'r sedums ac ati yn y wal yno ers tro. Y planhigion ymysg y pridd noeth sy'n newydd. Wel, ddim yn newydd chwaith ... heblaw'r ddwy friallen -Primula vialii- sydd yng ngolau'r haul yn y llun.  Ges i'r rhain am deirpunt yr un yn Ffair Fêl Conwy ganol Medi.

Hefyd yn y gwely (efo'r cloc o'r briallu) mae
llysiau'r 'sgyfaint Pulmonaria blue ensign;
Heuchera sydd a'i enw wedi hen fynd o'r cof;  
Pulmonaria pinc a glas anhysbys;
blodyn ewyn Tiarella spring symphony;  
Heloniopsis orientalis;
a Cardamine trifolia -berwr tribys



Yn ôl fy arfer, wedi'i hailgylchu mae'r wal. Pennau llifiau llechi ydyn nhw. Deunydd pobogaidd yn ardaloedd llechi Gwynedd. Daeth  y cerrig o'r wal arall sydd i'w gweld yn y llun. Honno oedd wal derfyn gwaelod yr ardd, cyn inni brynu'r triongl ychwanegol. Tynnais hanner y wal i lawr, a gosod coed derw o hen arwydd arni, fel mainc, a chafn planhigion alpaidd hefyd. Defnyddio'r cerrig wedyn i godi wal newydd ar lethr er mwyn creu gwely blodau gwastad.

Does dim byd yn mynd yn wâst yma!!


23.8.15

Tywallt ac arllwys

Wedi cymryd gair y dyn tywydd bore 'ma, a mentro allan am dro cyn cinio efo dwy o'r genod, gan ddisgwyl iddi aros yn sych tan ddau o'r gloch.


Difaru wedyn!


Crwydro uwchben tref 'Stiniog heibio'r Fuches Wen a Hafod Ruffydd, ac wrth ddringo'r domen i chwarel Maenofferen, cyrraedd gwaelod y cwmwl, fel cerdded trwy ddrws i stafell wahanol...



Ymhen dim, a ninnau ar ein ffordd 'nôl i lawr, roedden ni'n wlyb at ein crwyn, yn rhedeg a chwerthin bob-yn-ail.


Bwrw hen wragedd a ffyn dros graig Garreg-ddu, a ninnau 'nôl yn y dref yn 'mochal mewn drws siop yn gwylio mellt a rhyfeddu at y dŵr ddaeth o nunlle i lenwi'r gwterydd i gyd.


Diwrnod arall ym Mlaenau Ffestiniog! Diwrnod cofiadwy cyn gorfod mynd 'nôl i gwaith.


31.5.15

Y mae'r haf yn hir yn dyfod

Ar ôl deuddydd braf ar ddechrau'r wythnos hanner tymor, mae hi wedi bod yn ddifrifol yma. Dim ond ganol pnawn heddiw cododd y tymheredd yn ôl uwchben 11 gradd C.

Dwi ar ei hôl hi'n ddiawledig felly, ac yn dal i aros iddi gynhesu cyn hau pethau'n syth i'r ddaear.   Er bod llwyth o bethau'n aros yn y tŷ gwydr i'w plannu allan, go brin ga'i flwyddyn gynhyrchiol iawn  bellach.

Mi gymris fantais o'r cyfle i newid y coed ar ddau o'r gwelyau llysiau yn yr ardd gefn. Y bwriad yn wreiddiol oedd gwasgu blwyddyn arall o fywyd ohonynt, ond a deud y gwir roedd gwir angen newid y coed.


Preniau sgaffold oedden nhw. Wedi eu gosod bron union naw mlynedd yn ôl, ar y 1af o Fehefin 2006. Erbyn hyn, roedd darnau ohonynt wedi pydru nes bod twll trwyddynt, fel gwelwch chi yn y llun cynta'.



Dwi wedi newid y coed wrth ymyl ambell lwybr hefyd, a rhoi brethyn chwyn newydd a llechi glân dan draed.

Roeddwn wedi methu codi'r tatws i gyd o'r gwely llynedd yn amlwg a llwyth ohonynt wedi dechrau tyfu eto, ond dwi eisiau tyfu moron a betys ac ati yn y gwely yna, felly rhaid oedd eu codi a'u taflu.

tatws gwyllt...wedi methu llwyth o datws llynedd!

Roedd y gwely yma'n hawdd ei wneud, gan ei fod yn wag, ond y gwely canol yn fwy o strach gan fod tatws, sorel a garlleg ynddo. Ta waeth, maen nhw wedi eu gwneud rwan ac yn iawn am naw mlynedd arall gobeithio. Mae'r ddau wely arall yn iawn am flwyddyn.

Dim ond angen tywydd gwell rwan....





29.1.15

Tywydd lobsgows

Ai lobsgows ydi fersiwn y gaeaf o'r barbaciw? Mae dynion yn aml iawn yn cael eu cyhuddo o beidio cyfrannu at ddyletswyddau coginio'r teulu, heblaw am gynnig byrgyrs a selsig amheus yn yr ardd ar ddyddiau poeth yn yr haf.

Yn y gaeaf, ydi lobsgows yn rhywbeth gweddol macho i'w goginio? Mae o'n rhywbeth hawdd i'w wneud tydi, a ddim yn ormod o dreth ar feddyliau syml dynion! Pario llysiau; eu torri a'u taflu mewn sosban efo 'chydig o gig a stoc a llond dwrn o lentils coch. Be sy' haws? Pryd poeth am ddyddiau.

Daeth yr eira heddiw. Tywydd lobsgows.

Erbyn i mi gyrraedd 'nôl o 'ngwaith, doedd gan Dafydd y cigydd lleol ddim cig oen ar ôl, cymaint oedd y galw heddiw am gynhwysion cawl hen ffasiwn. Ta waeth, mae cig eidion yn gwneud y tro, felly cafwyd llond crochan o botas poeth blasus.




Ond y newyddion gorau ydi bod digon ar ôl at fory, ac mae lobsgows wastad yn fwy blasus y diwrnod ar ôl ei goginio.

Be ydi trefn lobsgows eich tŷ chi: pwy ydi'r cogydd? Cig oen ta cig eidion, ynta' lobsgows llysieuol (lobsgows troednoeth fel ddywedir ar lafar yma)? Bara menyn ta bara ceirch? Caws? pupur gwyn ta du? Mmmm, wedi meddwl, efallai na fydd dim ar ôl at fory wedi'r cwbwl!




Llun uchod o daflen 'Diwylliant Ymysg Diwydiant. Dathlu treftadaeth Blaenau ar y stryd', sef y daflen sy'n egluro'r dywediadau ac idiomau sydd wedi eu naddu ym mhalmentydd Stiniog.





31.7.12

Adnewyddu

Mae'r gwaith ar ail-ddylunio'r stryd fawr yn Stiniog yn dod yn ei flaen yn dda, efo nodweddion trawiadol iawn fel colofnau llechi ac ati.

Gallwch ddilyn hynt y gwaith ar dudalen Gweplyfr, neu ar wefan y siambr fasnach.

Ymysg y dwsinau o ddywediadau lleol a dyfyniadau o gerddi a chaneuon sydd wedi naddu yng ngherrig y palmentydd mae hwn:



Rhwng yr ail-ddatblygu, a'r cynllun llwybrau beicio, sydd eisoes wedi cael canmoliaeth uchel, mae'n gyfnod cyffrous iawn yma yn Stiniog. Mae'r hen dref wedi cael mwy na'i siar o ddirywiad dros y tri degawd d'wytha, ac yn haeddu ychydig o newyddion da.

11.4.12

Gwrychoedd

Mi gawson ni ddiwrnod gweddol sych ddoe, a'r joban gafodd flaenoriaeth oedd gosod paneli ffens newydd rhwng yr ardd a drws nesa. Pan brynson ni'r tŷ yma, gwrych privet anferthol oedd ar y terfyn rhwng y ddwy ardd. Yn fylchog oddi tani, yn rhy uchel o lawer, ac yn dwyn o leia’ metr o ymyl yr ardd, roedd yn rhaid iddo fynd! Yn yr ail wanwyn yma, roeddwn wedi gorffen y rhan fwya’ o’r gwaith yn y tŷ, ac yn barod i wneud rhywbeth efo’r gors llawn montbretia allan yn y cefn. Cytunodd C, y cymydog, i fynd i’r afael â’r gwrych efo fi. Cafodd y privet glec, ac mi fuon ni’n chwysu i godi’r gwreiddiau styfnig. Roedden ni wedi cytuno i osod ffens yno o bolion concrit. Wedyn rhoi paneli chwe throedfedd o feather boards rhyngthyn nhw, am eu bod yn rhatach na dim byd arall. Wrth gwrs, mae hynny’n golygu eu bod yn salach na phopeth arall hefyd, ond doedd C a fi ddim isio gwario mwy nag oedd rhaid. Twyllo’n hunain oedd hynny. Pryn rad, pryn eilwaith yn ‘de, felly dyma ni saith mlynedd yn ddiweddarach yn gorfod prynu stwff gwell yn eu lle. Yr unig beth oedd yn cymhlethu’r gwaith oedd y coed a’r tair weiren sydd ar ein hochr ni o’r ffens: lelog Califfornia (Ceonothus) a gwyddfid yn y pen agosa’ i’r tŷ, coeden afal Enlli wedi’i thyfu fel espalier blêr, ceiriosen morello wedi’i thyfu fel ffan, mafon, a rhosyn anhysbys.

Cawodydd gafwyd heddiw, felly mi  es i’r rhandir i ymuno yn yr ymdrech i blannu gwrych o amgylch y safle. Pan oeddwn yn blentyn, cors oedd yno, ac roeddem yn hel penabyliaid a genau goeg yno. Ym 1975 roedd yn ffasiwn i ‘dirlunio’ ardaloedd diwydiannol yng Nghymru, ac fe dynnwyd tomen lechi Glan-y-don i lawr, gan lenwi cyfres o gorsydd yn y fro, gan obeithio denu cwmnïau newydd i sefydlu ar y tiroedd newydd. Taenwyd ychydig bridd a gwrtaith ar ben y llechi, ac roedd yna oglau cachu iar neu mochyn cofiadwy iawn yn y dref am gyfnod!
Ta waeth, mae’r olwyn fawr yn troi tydi, ac mae fy sgwaryn i o randir yn ymddangos fel cors eto. ‘Dim ond reis a watercress fedri di dyfu’n fan hyn’, medd un o’r plant ar ein hymweliad cynta’! Mi welwch o’r llun faint o ddŵr sy’n sefyll ar yr wyneb yno. 
Dwi wedi prynu cansenni mafon a choed gwsberins, ond dwi wedi digalonni efo’r amodau braidd, a ddim yn fodlon rhoi dim yn y ddaear nes dwi wedi gwneud rhywbeth am y draeniad gwael.
Dwi wedi eu rhoi dros dro felly mewn hen dwbiau plastig porthiant defaid. Felly hefyd ambell i beth arall dwi’n tyfu fel arbrawf, fel gellyg y ddaear (jerusalem artichokes), a rwbath o’r enw oca, perthynas i’n blodyn suran y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron blasus medden’ nhw. Mae’n tyfu mewn pridd sâl (check), mewn ardaloedd glawog (check), ond angen haf hir, di-farrug (damia! Wel, amser a ddengys yn de).