Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.2.13

Dydd Lluniau


Deffro

Mae'r lili wen fach wedi blodeuo; yr adar wedi dechrau canu...
-daw eto haul ar fryn.








Cynffonau wyn bach cyfarwydd, a blodyn benywaidd coch yr un goeden, yn barod i dderbyn y paill.




Grifft llyffant


 Ambell lun oddi ar y ffo^n, wrth grwydro Coed Tafarn Helyg ddoe.

















Ges i nhwyllo gan arwyddion y gwanwyn i feddwl am ddechrau dwy neu dair o datws mewn sach yn y ty gwydr ddoe, ond roedd y pridd wedi rhewi'n gorn, a hithau wedi bod -2.3 gradd C dros nos. Bu cawodydd o eira bob hyn a hyn trwy'r dydd hefyd, gan gadw cawnen wen denau ar y Moelwynion.

(Diwedd Ionawr)

17.2.13

Crwydro -Harlow Carr

Gan ein bod ni yn Swydd Efrog y dydd o'r blaen, mi lusgais y Pobydd i erddi Harlow Carr, ger Harrogate, a chael diwrnod hamddenol o grwydro ac yfed te a bwyta sgons aballu.


Byswn i ddim yn rhuthro 'nol yno ym mis Chwefror, ond dwi'n siwr bod y pris mynediad (£8.50 yr un) yn ymddangos fel llai o sgam yn yr haf pan mae 'na flodau yno!






Ta waeth, roedd y ty Alpaidd yn werth ei weld, ac mi ges i ambell i syniad i'w efelychu o'r ardd lysiau, ond y peth gorau yno heb os oedd yr ardd aeafol, efo blodau pren bocs y gaeaf (Sarcoccoca, christmas box) yn llenwi'r aer efo ogla' anhygoel, a'r gollen felys (Hamamelis, wych hazel) yn cyfrannu at arogl melys hyfryd y lle hefyd.


Un o nifer fawr o gafnau cerrig yr ardal Alpaidd


Mi brynson ni lwyn bocs y gaeaf i ddod adra efo ni, druan ohono!

Hefyd gellesg (iris Katherine Hodgkin -y llun gyntaf, uchod, ac iris purple gem) ar ol rhyfeddu atyn nhw ymysg y cerrig yn y ty Alpaidd.


Y 'Royal Horticultural Society' sy' bia gerddi Harlow Carr, ac unig boen y dydd oedd gorfod osgoi'r staff a'r gwirfoddolwyr oedd yn annog pawb i ymaelodi a'r RHS.



Dim pawb sy'n deall pam fysa rhywun yn gwrthod tanysgrifio i gorff efo 'Roial' yn ei deitl! Tydi tref posh Harrogate ddim yn enwog am weriniaethwyr am wn i!

Sarcoccoca -bocs y gaeaf
Hamamelis





9.2.13

Hel briwsion

'Ti'n gweud winwns, dwi'n deud nionod'

Rhaff o nionod brynis i gan rhyw fath o Sioni Winwns ddydd Gwener.
Dwi'n cofio Sionis yn galw o ddrws i ddrws pan o'n i'n blentyn, a'r rheiny'n siarad Cymraeg. Roedd hyn fel hud a lledrith i mi; bodolaeth gwlad arall lle'r oedden nhw'n siarad iaith debyg i ni, wedi wynebu'r un gorthrwm. Ac roedden nhw'n dod ar eu beic (oeddwn i'n gredu) bob cam efo nionod!

Erbyn heddiw tydyn nhw ddim yn cnocio drysau. Maen nhw'n tynnu hen feic allan o gefn transit, a hwnnw'n feic sy'n amlwg heb gael defnydd iawn ers degawdau, ac yn ei orchuddio efo nionod, a sefyll yn yr unfan trwy'r dydd.

Dwi heb gyfarfod un yn y blynyddoedd d'wytha sy'n siarad na chyfarch mewn Llydaweg, heb son am Gymraeg. Pwy a wyr na ddont o bedwar ban Ewrop, wedi gwisgo crys streipiog a beret i ymddangos fel Sioni traddodiadol a denu'r Cymry rhamantus i wario mwy na maen nhw eisiau ar nionod!


'Does yna bob math o dwyll yn y diwydiant bwyd 'dwad?
Wedi'r cwbl mae yna gwmni bisgedi enwog sy'n talu pobl dda Llanfihangel Llantarnam yn sir Fynwy i roi "raspberry-flavoured plum jam" (darllenwch o eto) yn eu dojars tydyn!

Mae'r strach diweddar efo cynnyrch cig eidion yn anochel mae'n siwr tydi, pan nad oes neb eisiau gwario ar fwyd da. Dwi wedi bwyta cig cheval yn Ffrainc. Braidd yn rhy wydn i mi rhaid cyfaddef, ond os ydym yn bwyta gwartheg a moch, pam ddim ceffylau? Ia, dwi'n gwybod mai'r ddadl ydi nad oedd y cwsmer yn gwybod be' oedd yn brynu, ond os ti isio gwbod be sy'n dy fwyd, gwna fo dy hun, a chefnogi cigydd lleol 'run pryd!

Ffigyrau cyfrifiad y filltir sgwar:
y canrannau sy'n siarad Cymraeg yn nhair ward Stiniog ydi 77%,  79.3%  a 78.5%, sy'n swnio'n iach iawn, ond bu dirywiad yma yng nghadernid Gwynedd hefyd, ers 2001 yn anffodus. [Manylion o wefan ONS]

Roedd manylion y cyfrifiad o sir Gaerfyrddin yn ddigalon, ond mae modd i bawb gyfrannu at fater ieithyddol yn Shir Gâr:
Mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn ymgynghori ar eu cynllun iaith drafft ar hyn o bryd. Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ol i gynnig sylwadau (cyn y 15fed o Chwefror).
Dwi wedi ymateb gan awgrymu mai dwy flaenoriaeth amlwg sydd ganddynt yn fy marn i: gwella'r wefan rhag blaen; a sicrhau bod pob aelod o staff sy'n delio'n uniongyrchol efo'r cyhoedd yn ddwyieithog. 'Does dim esgus i gorff sy'n cael cymaint o arian cyhoeddus beidio a gwneud.
Llun o fy ymweliad cynta' -Mehefin 2010

Saesneg ydi prif dudalen y wefan ar hyn o bryd, efo'r ddolen Gymraeg ar waelod y dudalen o'r golwg. Mae'r hafan Gymraeg yn dal i son am weithgareddau Ionawr, ac mae'r dwyieithrwydd yn denau iawn y tu ol i'r tudalennau cyntaf. Felly y bu hi ers blynyddoedd, a hyn ydi'r prif reswm nad wyf i erioed wedi talu am aelodaeth flynyddol o'r Ardd, cymaint yr hoffwn wneud hynny.

Mae'r cynllun iaith yn ymrwymo i gywiro'r gwendidau uchod i gyd a gaddo "newid sylweddol" yn eu darpariaeth ar-lein. Pryd medde chi?  Yr ateb anfoddhaol ydi "..dros y 24 mis nesaf". Gwaeth na hynny- mae'r ateb yma'n amodol, gan ddefnyddio'r hen esgus "fel mae adnoddau yn caniatau".

Dwi'n falch o fodolaeth yr Ardd Genedlaethol, mae'n rhan arall o'r gwaith o adeiladu cenedl. Tydw i ddim yn gwarafun y pres anferthol sydd wedi mynd i'r lle chwaith, ond mae'n rhaid iddyn nhw adlewyrchu dwy iaith Cymru'n gyfartal, os ydyn nhw isio i mi fynd yno'n rheolaidd.


Criw bach ddaeth i gyfarfod blynyddol Cymdeithas y Rhandiroedd, ond mi gawson ni sgwrs ddifyr gan wirfoddolwraig efo'r Bumblebee Trust.
Gwell na phydru o flaen y bocs am awr.
Dwi wedi talu'r rhent am flwyddyn arall, felly mae'n rhaid nad oedd 2012 mor wael a hynny.....




Dyma eliffant ges i'n anrheg penblwydd gan y Fechan. Teclyn i hel briwsion ydi o. Finna'n meddwl 'mod i'n bwyta'n reit daclus!


Hwyl am y tro.





1.2.13

Egin

    Mehefin 1979:    Rhandir 'Nhad, Maentwrog.   Y prentis ifanc yn palu a charrega am bres poced.



"Yr Ardd" oedden ni'n galw'r lle, cyn i mi glywed y geiriau 'rhandir' a 'lluarth' erioed mae'n siwr gen' i. Dim ond dwy ardd oedd yno, dros 600 o droedfeddi'n is, a dwy filltir yn nes at y môr, na 'Stiniog. Nefoedd!  Un o'i gyd-weithwyr, o bwerdy Tanygrisiau: y cymeriad diweddar, G'ronwy Post, oedd yn trin y llall.



Y ddau ohonyn nhw'n feistri ar dynnu coes, yn dadlau pwy oedd wedi cael y plot orau, ac yn chwarae triciau ar eu gilydd, fel ffugio llythyr cas gan adran gynllunio'r cyngor am dŷ gwydr plastig a godwyd heb ganiatâd; a phaentio chwilen i edrych fel y Colorado beetle yr oedd panig mawr amdani fel pla tatws yn y cyfnod!


Mae'n chwedl yn ein teulu ni sut y bu i'n tad dalu 10 ceiniog y bwcad i mi a 'mrawd hel cerrig o'r pridd, a phob bwcediad yn cymryd amser maith i'w lenwi am eu bod yn bwcedi tyllog. Bryd hynny wrth gwrs, tra oedd Dad yn palu a phlannu, chwynnu a chynaeafu, roeddwn i'n amlach na pheidio yn crwydro a chwarae a 'sgota hyd lannau'r afon Cynfal gerllaw, gan feddwl bod garddio yn beth digon diflas! Er, roeddwn yn mwynhau cyfrannu rhywfaint, a dwi'n edrych yn ddigon bodlon yn y llun tydw. Mae'n amlwg fod yr hadyn wedi ei blannu yn barod i aeddfedu efo fi!

Ar ol tua saith mlynedd o dendio'r tir yno, daeth lladrata llysiau yn draul ar yr ymdrech, ond mae o'n dal i arddio adra', er iddo addo peidio cyboli eto ar ol dilyw 2012. Gawn ni weld..

Mae'n barddoni hefyd -crefft nad oes gobaith gen' i ei efelychu- a dyma gerdd berthnasol ganddo, sy'n dweud llawer am ei deulu yn ogystal a'i ardd. Hyfryd. Diolch Dad!



Gardd

Rhois dro yma ac acw
i'r gwys, pan oedd raid,
rhwng chwynnu a thendio
a'r meithrin ddi-baid.

Maent yma'n blodeuo,
yn dysteb i mi
o'r gofal a gafwyd
yn f'Eden fach i.

Daeth amser i fedi,
fel cynhaeaf ar ddôl,
a'r gost, ar ei chanfed
ad-dalwyd yn ôl.

VPW, Chwefror 2010