Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

28.3.22

Crwydro Ceunant Llennyrch

Bob dydd rwan, mae arwyddion y gwanwyn yn codi’n calonnau, felly be well na chrwydro un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ein hardal? Mae digon o ddewis o lwybrau yn y ceunant yma, ar y ddwy ochr i’r afon: gallwch ddechrau o’r ffordd fawr ger pwerdy Maentwrog, neu ddod ar i lawr o argae Llyn Traws. Ond cylchdaith fer ar ochr Maentwrog y ceunant sydd dan sylw y tro hwn.

Ychydig uwchben fferm Felenrhyd Fach, mae safle parcio i lond dwrn o geir. Cerddwch o fanno i fyny’r allt am ganllath a hanner, a gadael y ffordd trwy’r giât mochyn ar y dde. Yna i lawr ar waelod y cae mae giât i mewn i Warchodfa Ceunant Llennyrch, ac mi gewch wybodaeth am y safle ar arwydd yn fan hyn.


Ddiwedd Chwefror, roedd y coed derw dal yn foel, ond roedd robin goch yno i’n croesawu efo cân fer, a theulu o ditws cynffon hir yn gweithio’u ffordd trwy’r brigau uchaf, gan symud o gangen i gangen yn chwilio am bryfaid a pharablu’n brysur ymysg eu gilydd wrth fynd.

Dilynwch y llwybr gan droi i’r chwith yn fuan. Mae llwybr da dan draed yn y rhan yma, a phont bren hir i hwyluso croesi nant mewn hafn dwfn yn hawdd. Ar bob ochr i’r llwybr mae coed llus yn drwch, ond y rhain hefyd yn ddi-ddail am ychydig wythnosau eto.


Cawn gip o brif atyniad y ceunant bob hyn a hyn trwy’r coed, a swn y Rhaeadr Ddu yn cynyddu wrth i ni fynd yn nes. Mae grisiau cerrig a grisiau derw wedi eu gosod yn y llethr er mwyn ei gwneud yn haws i’r rhai sydd am fentro, gyrraedd glan yr afon wrth bwll dwfn y Rhaeadr Ddu. Gofal pia hi! Byddwch yn ofalus wrth fentro i lawr y grisiau serth, ond yn bwysicach fyth, cymrwch bwyll ar y cerrig llyfn ar lan y dŵr, gan gofio y gall y llif gynyddu’n gyflym os ydyn nhw’n gollwng dŵr o’r llyn uwchben.

P’run ai ewch chi lawr at y graean wrth droed y pistyll, neu’n mwynhau’r olygfa o bellter diogel ar y llechwedd, mae grym y rhaeadr yn wefreiddiol! Mewn llif mi fyddwch yn gweld -a theimlo’r lleithder yn yr aer wrth i’r afon fyrlymu’n wyllt dros y graig a chwalu’n filiynau o ddafnau dŵr mân sy’n llenwi’r aer. Pan mae’r coed derw yn llawn dail, mae’r goedwig fel nenfwd i gadw’r lleithder yma yn y ceunant, a dyna pam fod y safle yma ymysg y lleoliadau mwayf cyfoethog ei mwsoglau yng Nghymru, nifer ohonyn nhw’n brin iawn. Dyma un o goedwigoedd glaw -rainforest- Cymru.

Mae arwydd y Warchodfa -safle sy'n un o nifer yng ngofal Cyfoeth Naturiol Cymru yn lleol- yn dweud bod 230 rhywogaeth o fwsoglau a llysiau'r afu yma. Yn ogystal mae dau gant a hanner gwahanol fath o gen (lichens) i'w cael yma hefyd, yn arwydd o aer clir yr ardal hon.

Pan oeddwn yn fy arddegau, mi ddois yma am dro efo 'nhad a dod oddi yno yn siomedig fod cyn lleied o adar a 'bywyd gwyllt' amlwg yno; gwarchodfa dwy-a-dime oedd hi yn fy marn anaeddfed i bryd hynny. Dwi'n deall bellach nad y pethau amlwg sy'n bwysig yno, ac yn gwerthfawrogi gogoniant y warchodfa fel un o'n llefydd gwirioneddol wyllt olaf ni yng Nghymru...

Oddi yma, rydym yn parhau tuag i fyny ac yn dilyn y llwybr at ymyl y ceunant unwaith eto. Tu hwnt i’r rhwystrau diogelwch mae olion Pont Llennyrch. Safle trawiadol a ddewiswyd fel man croesi oherwydd fod y graig ar y lan ogleddol yn cynnig sylfaen ardderchog i’r bont, ac felly dim ond ar un ochr y bu’n rhaid adeiladu pentan o gerrig. Disgynnodd y bont i’r ceunant tua chanol y ganrif ddiwethaf, a’r union ddyddiad yn ansicr*, ond mi fydd raid i chi gymryd fy ngair i, gan na feiddiwn i awgrymu eich bod yn anwybyddu rhwystrau diogelwch a mynd yn rhy agos at ymyl y ceunant!

Pentan Pont Llennyrch

Er bod modd dilyn llwybrau eraill, mae’n cylch ni yn golygu troi tua’r gogledd ac allan o’r Warchodfa, ac mae’n werth oedi i edmygu’r giât newydd a osodwyd yn ddiweddar dan ofal Graham a Gareth sy'n rheoli'r Warchodfa. Dylunwyd hi i adlewychu elfennau’r Warchodfa: y mynyddoedd yn gefndir, dail derw a mes, a’r Rhaeadr ddu yn tasgu yn y canol.


Mae’r llwybr yn dilyn wal gerrig tua’r gorllewin yn ôl i gyfeiriad cychwyn y daith. Mae’n wlyb dan draed mewn mannau, ac o’r herwydd roedd digon o grifft llyffant i’w weld yn y pyllau ar ddiwedd y mis bach. 

Mae’r dringwr bach fel pelan o blu yn cerdded yn acrobataidd i fyny ac o amgylch y bonion derw uwch ein pennau yn chwilio’i damaid, a bwncath yn mewian yn y pellter. Erbyn y gwanwyn mi fydd yr adar ymfudol wedi dychwelyd i’r goedwig o'r Affrig, gan gychwyn efo'r siff-saff a thelor yr helyg, ac wedyn triawd clasurol y goedwig law Geltaidd: gwybedog brith; telor y coed; a’r tingoch. 

Esgus da i fynd yn ôl eto!

Pellter y daith: tua milltir a chwarter.  

Amser: Awr i awr a hanner. 

Parcio: £1.50.

Map o'r daith ar arwydd Cyfoeth Naturiol Cymru

- - - - - - 

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2022, Llafar Bro, papur bro cylch 'Stiniog, yn rhan o gyfres achlysurol ar lwybrau Bro Ffestiniog.

*Mae dwy erthygl ar wefan Llafar Bro yn rhoi dyddiadau gwahanol i ddymchweliad Pont Llennyrch.