Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

27.4.14

Tatws cynnar hwyr...

Yn ol fy arfer, roedd y tatws cynnar yn hwyr yn mynd i'r ddaear eto eleni. Ta waeth, maen nhw i mewn rwan, a ga'i edrych ymlaen at godi'r rhai cynta' a chael desgliad o datws newydd poeth efo dim byd ond menyn hallt arnynt....

Tyllau ar gyfer pob tysan had eto; dim pwrpas agor rhych ar hyd y rhes. Gwaith di-angen ydi hynny. Duke of York ydi'r hanner dwsin coch yn y gwaelod. Sharpe's express ydi'r lleill.


Y tatws wedi'u plannu a gorchudd o wellt dros y cwbl. Y rhwyd yno i gadw'r gwellt sych rhag hedfan hyd yr ardd, nes mae'n dechrau pydru. A'r peli lliwgar ar gyfer codi gwen, a rhwystro neb rhag stabio'i hun yn ei lygad ar y cansenni wrth blygu!


Persli llydanddail (flat-leafed) sydd ym mlaen y llun. Maen nhw'n trio'u gorau glas i redeg i had am eu bod wedi dod trwy'r gaeaf... finna'n trio'u rhwystro, ond am eu bod nhw'n blanhigion eilflwydd mae'n debyg fod y genetics yn benderfynol o gwblhau'r cylch tyfu. Bydd angen hau eto i dyfu persli newydd rhag ofn.

20.4.14

Blodau'r ffrwythau

Llwyth o bethau'n blodeuo ar hyn o bryd: dwi'n falch bod yr haul a'r gwenyn a'r pryfaid allan i'w peillio, er i rhywfaint o law gyrraedd heddiw wrth i mi grwydro efo camera.

Dyma ambell lun yn dangos cyflwr y blodau ar goed ffrwythau'r ardd gefn....

Tyrd 'nol mewn bythefnos... cnau codog:  braidd yn gynnar i'r planhigyn diarth yma. Dagrau Adda, a bladdernut yn enwau eraill (Staphylea pinnata). Poblogaidd ar y cyfandir. Amser a ddengys a ddaw hadau gwerth eu hel arni yma yn Stiniog.


Aros mae... afal Enlli: roedd 2013 yn flwyddyn sal; gobeithio am well cnwd eleni.

Barod amdani...  ceiriosen morello: dwi wedi cael gwell hwyl ar y tocio y tro 'ma, a chasgliad da o flodau yn tynnu dwr i'r dannedd yn barod.

Llawn addewid...  gellygen conference: wedi cael y ffrwythau cynta llynedd, mae llwyth o flodau ar hon eleni. Mmmmm.
 
Bin dder, dyn ddat....  eirinen Ddinbych: y gwenyn wedi bod wrthi, a'r blodau wedi gorffen. Gobaith am ffrwyth cyntaf ar hon yr haf yma.

Daw hyfryd fis...  hefinwydden: hon yn edrych yn wych eleni hefyd, a hen edrych ymlaen yma.




13.4.14

Gwely lasagne

Cynhwysion:

  > cardbord
  > dwr
  > hops
  > gwellt
  > deilbridd
  > tail

Offer:

  > styllod pren 8" x 2"
  > rhaw a morthwyl a hoelion a ballu

 1. Tynnwch y gorchudd sydd wedi bod ar lawr i ladd rhywfaint o'r glaswellt ers Ionawr. Dim angen tyllu a phalu. Dim ond troi y tywyrch ben i lawr, a lefelu'r ardal yn fras iawn.


2. Rhowch haen ddwbl o gardbord gwlyb ar lawr i ladd y glaswellt a'r chwyn, yna adeiladu'r gwely pren. Os allwch chi gysgu'n dawel wedi joban rywsut-rhywsut, peidiwch a thrafferthu efo spirit-lefal a tha^p mesur ac ati: rhywle i dyfu llysiau ydi o, nid celf.
Wedyn taenwch hops ar ben y cardbord. Ar ol cyrraedd adra bydd angen perswadio'ch partnar na fuoch chi yn y dafarn trwy'r pnawn oherwydd yr ogla cwrw mawr.


3. Rhowch haen o leiaf dwy fodfedd o wellt dros bopeth, yna'i wlychu'n dda.


4. Ar ben y gwellt, mae haen o gachu ceffyl yn mynd, neu os ydych chi'n fwy posh na fi, gallwch chi roi tail ceffyl os liciwch chi...


5. Wedyn, ychwanegwch drwch o ddeilbridd neu gompost.


6. Gweinwch efo tatws. Wedyn ail gwrs o ddail salad neu frocoli piws.






7.4.14

Gwell hwyr na hwyrach

Ddiwrnod yn hwyrach na'r ddwy flynedd ddwytha' -ac roedd hynny'n hwyr- dwi wedi dechrau hau o'r diwedd!

 A hithau'n ddiwrnod gwlyb, diflas ddoe, mi es i allan i'r ty gwydr, o gywilydd, a'i glirio a golchi'r ffenestri. Mi fuodd y Fechan allan efo fi yn golchi potiau a labeli aballu hefyd chwarae teg iddi. Gawson ni gwmpeini cacynen gynnar.


Mi fuon ni'n hau pys a ffa a chorn a phwmpenni. Dwi wedi cychwyn dwy dysan mewn sach a dau ddwsin o sets nionod coch mewn potiau yn y ty gwydr. Hefyd hau courgettes, nasturtiums, chilis, pupurod, tri math o domatos, aeron goji a mefus gwyn.

Mae rhai ohonynt ar ffenest y gegin (peth amhoblogaidd iawn bob gwanwyn), efo tatws sy'n dal i fagu llygaid (chitio),  a'r lleill ar fyrddau a silffoedd y ty gwydr, ond dwi ddim hanner ffordd trwy'r hau eto..


Dwi wedi prynu compost di-fawn, fel pob blwyddyn, ond hen stwff bras iawn ydi o eto, yn llawn darnau pren. Felly ar gyfer hadau, dwi'n gogri'r naddion allan ohono fo a chymysgu'r deunydd mân
efo compost pridd John Innes rhif 1 neu JI Seed. Mae'r naddion yn mynd ar ben y sach datws, ac mi welwch o'r llun pa mor fras ydyn nhw.


Sharpes express ydi'r tatws- rhai cynnar; bydd y gweddill ohonynt yn mynd allan i'r ardd erbyn dydd Gwener Groglith. Mae gen i hanner dwsin o datws had coch Diwc-of-iorc; cynnar ydi'r rhain hefyd, dwi ddim am drafferthu efo tatws diweddar eleni.



Mae'r cyffro a'r edrych ymlaen wedi dechrau eto!
 Diolch byth am wanwyn.

 



Pryfetach...
Nid y gacynen oedd yr unig bryf yn y ty gwydr. Dwi heb weld gweirloyn y cloddiau* (wall brown) yma o'r blaen, ac roedd yr un oedd yn y ty gwydr wedi marw'n anffodus: yn amlwg wedi mynd i mewn rywbryd y llynedd. Roedd gloyn gwyn wythiennog (green veined white) wedi marw yno hefyd.

Doedd y gacynen ddim wedi marw ond doedd ganddi fawr o egni chwaith, wedi bod yn y ty gwydr trwy'r nos dwi'n amau. Aeth y Fechan i nol diferyn o fêl o'r ty ac ar ol llyfu ychydig mi hedfanodd y gacynen tua'r gorwel.

Dim ond dau ddwsin o fathau o gacwn sydd ym Mhrydain i gyd, felly bysa rhywun yn meddwl ei bod yn hawdd nabod p'run 'di p'run, ond gan fod y frenhines a'r gweithwyr a'r cacwn gwrywaidd yn aml iawn yn edrych yn wahanol i'w gilydd ond yn debyg i rywogaethau eraill, mae'n reit anodd bod yn sicr. Dwi'n meddwl taw'r gacynen gynnar, Bombus pratorum oedd hon, ond dwi ddim gant-y-cant yn siwr. Mae'r llun yma'n dangos yn well mai un rhesen felen sydd ar y thorax (ar yr ysgwydd), a'r abdomen yn ddu, melyn, du, coch.


Efo'r paill ar y coesau ol, mae hi'n amlwg yn fenywaidd, felly dim ond B. terrestris ydi'r posiblirwydd arall ond mae honno'n fwy, a'r melyn yn fwy llachar.

Mae'r enw Cymraeg am bumblebee yn achosi trafferth weithiau. Cacynen, cachgi bwm, gwenynen, hwrli bwm. Mae'r Bumblebee Conservation Trust wedi cynhyrchu taflen yn Gymraeg**, ac yn anffodus maen nhw'n eu galw yn 'wenyn mawr'!!

* tudalen gweirloyn y cloddiau ar wicipedia
   gwefan Gymraeg ymddiriedolaeth Butterfly Conservation

** bumblebee conservation.