Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

6.11.18

Cwm Hyfryd

Cyfres o gardiau post o'r Ariannin.
Dolen i'r gyntaf ar y gwaelod


Wrth gyrraedd lleoliad nesa'r daith, mae'r olygfa trwy ffenest y bws yn gwneud i mi eistedd i fyny'n sydyn. 'Croeso i Drefelin' medd yr arwydd yn Gymraeg yn ogystal â'r Gastilaneg a'r iaith frodorol.


Tu hwnt i'r arwydd, yn wynebu pawb sy'n cyrraedd y dref, mae canolfan wybodaeth a thair baner yn chwifio: y ddraig goch sy'n hawlio'r polyn canol, a baneri'r Ariannin a'r brodorion Tehuelche-Mapuche bob ochor iddi. Yno hefyd mae cerflun mawr o ddraig rhag ofn nad ydi pawb wedi deall eu bod wedi dod i ardal Gymreig.


Trwy gyswllt â Noe, cymwynaswraig leol, cawsom groeso cynnes gan griw o Wladfawyr Esquel, ond rhaid i rywun chwilio'n go ddyfal i ganfod unrhyw Gymraeg ar y stryd yno. Nid felly Trefelin!
Dyma le sy'n arddel ei Gymreictod yn falch. Mae llawer o'r siopau yn gwneud hynny'n amlwg; ac mae pob arwydd cyhoeddus yn ddwy- neu'n dairieithog.

Heb hostel, rhaid talu ychydig yn fwy i aros mewn llety gwely a brecwas yn Nhrefelin, ac er yn groesawgar iawn, mae'n anodd perswadio'r perchennog nad oes raid iddo fo ein diddanu trwy gydol ein harhosiad! Yn garedig iawn, mae'n rhoi gwibdaith o'r dref i ni, ac ein tywys at lan afon Futaleufú i dynnu llun, ac i weld fflamingos ar lan pyllau ar gyrion y dre'.

Gyda'r nos, cawn stecan anferth efo Ernesto a'i deulu, ac er nad oes ganddo gysylltiad Cymreig o fath yn y byd, mae'n holi'n daer am hanesion o Gymru fach ac yn awyddus i rannu ei frwdfrydedd am yr Ariannin hefyd. Mewn bwlch yn y sgwrsio, dwi'n ymddiheuro gorau fedrwn ac yn dianc i'r llofft i gael rhoi fy nhraed i fyny o'r diwedd!

Ym Mharc Cenedlaethol Los Alerces, mae ardaloedd eang nad yw'n bosib crwydro heb dywysydd swyddogol, ac ar ôl edrych ymlaen yn arw ers wythnosau, mae'n siom garw i ddeall nad yw'r trek at rewlif Torrecillas ar gael yr adeg yma o'r flwyddyn!

Dan awyr las gwych, mae ymweld ag argae trydan-dŵr San Martin rhwng mynydd trawiadol Gorsedd y Cwmwl, a chadwyn Mynyddoedd y Cymry yn lleddfu rhywfaint ar y siom am wn i, a dwi'n gwneud y gorau o'r cyfle i dynnu cant o luniau, ond mae'n drysu 'mhen i na fedraf ddilyn trwyn lle mynnwn am y dydd.


Boddwyd y dyffryn heb glirio'r coed oedd yn tyfu yno, a rwan mae ambell fae a glan Lago Amutui Quimey fel mynwent boncyffion gwyn, yn sgerbydau noeth blith-draphlith ar y graean.  Nôl yn y llety, mae Ernesto yn disgrifio sut mae'r coed yn ffrwydro'n rheolaidd i wyneb y llyn yn ddirybudd ar ôl blynyddoedd o ddadwreiddio araf dan y dŵr. Nid yw'n ddiogel rhoi cwch ar y llyn o'r herwydd.

Ddiwedd y pnawn mae tacsi'n ein codi o'r plaza i fynd i weld tiwlips enwog Cwm Hyfryd, tua deg milltir o Drefelin ar ffordd Bwlch Futaleufú i Chile. Mae o'n fodlon aros am dri chwarter awr i ni gael edmygu stribedi lliwgar y blodau'n siglo fel un yn awel ysgafn gyda'r nos, wrth i'r haul araf ddisgyn at gopaon gwynion y gorwel.


Heb gar ein hunain, mae'n profi'n anymarferol i ni gyfuno ymweliad i Nant y Fall a Melin Nant Fach; mae bar bach yn y dref yn galw beth bynnag, a phump bragdy lleol yn gwerthu cwrw artesanal  yno. Da ydyn nhw hefyd.

Drannoeth, mae cael crwydro Lôn y Rifleros efo Gwion -hogyn o Besda sy'n byw yma- yn uchafbwynt heb os.

O weithio yn y byd cadwraeth adra yng Nghymru, bu'n gwirfoddoli efo awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ôl symud allan yma, ac yn ogystal a chyfoeth o wybodaeth am fywyd gwyllt yr ardal ac enwau Cymraeg y mynyddoedd, mae'n fraint cael gweld rhai o leoliadau hanesyddol y Cymry efo fo.

Ond, daeth diwedd ein hamser yn Nhrefelin hefyd.

Cyn gadael, mae Amgueddfa'r Andes yn werth ymweliad, a the bach Cymreig yn un o'r Tai Te yn ddigon dymunol. Mae'r deisen ddu yn flasus, ond mae'n brofiad rhyfedd iawn clywed 'Cân Walter' Meic Stevens, a chasgliad rhyfeddol o ganeuon Cymraeg, fel 'Fydd y chwyldro ddim ar y teledu, gyfaill' ymlaen yn y cefndir, a ninnau mor bell o adra.

O gymharu â'r frechdan gaws-pôb a ham sydd ar gael yn rhad ymhob man, braidd yn ddrud ydi'r te Cymreig, felly cip sydyn ar y llyfr ymwelwyr ac allan a ni.

Methiant ydi'r trydydd cynnig, dros dri diwrnod, i gael Amgueddfa Cartref Taid a bedd y ceffyl enwog -Malacara- ar agor;  ac ychydig iawn iawn welis i o Wladfawyr Trefelin hefyd yn anffodus; ond bu'n bleser cael bod yma am gyfnod byr serch hynny.

Y plaza amdani felly, i ddal bws lleol 'nôl am Esquel. Mae taith wyth awr dros y paith o'n blaenau.

Cwm Bagillt a Mynyddoedd y Cymry ar y chwith, a Gorsedd y Cwmwl ar y dde













3.11.18

Gweddi Wladgarol

Cyfres o gardiau post hwyr o'r Ariannin.
Dolen i'r gyntaf ar y gwaelod

Dwi heb dywyllu gwasanaeth capel ers blynyddoedd, ond tra yn Esquel mi gawson ni wahoddiad i ymuno efo nhw yng ngwasanaeth Seion.


Bach oedd y gynulleidfa, ond roedd y gwasanaeth yn un hyfryd a hithau'n Sul y Mamau yn yr Ariannin. Darllenodd Emyr englyn, a'r linell ola'n fy nharo wrth i mi feddwl am fy mam i, a mam y plant acw, filoedd o filltiroedd i ffwrdd.

'A lle bu hon, mae gwell byd.'

Er braidd yn nerfus am fynd o'n i'n falch ein bod wedi derbyn. Ac os dwi'n onest, mi wnes i fwynhau'r canu hefyd! Emynau fel Gweddi Wladgarol: 'Cofia'n gwlad, Benllywydd tirion'; a Gwahoddiad ac ati.

Roedd pawb yn hynod groesawgar, ac mi gawson ni awr neu ddwy o sgwrsio difyr iawn dros de bach yn y festri efo pawb wedyn.

Bryn y Groes o Esquel
Y bore hwnnw, roedden ni wedi dringo i ben Cerro la Cruz -Bryn y Groes- craig sy'n sefyll yn geidwad dros y dref, ac wedi tynnu sylw ers inni gyrraedd, fel rhywle i anelu amdano.

Rhaid cerdded trwy gyrion y dre' i ddechrau; strydoedd blêr o dai bach di-gynllun a chytiau chwit-chwat o bren a theiars a phlastig. Mae perchennog ambell un yn sefyll yn y drws yn gwylio'r gringos diarth: rhai'n ymateb i'n "bon día" ni; eraill ddim, a chŵn diarth yn rhuthro atom yn gobeithio cael sylw neu fwyd.


Dringo wedyn yn igam-ogam trwy blanhigfa o goed pîn a'r llethrau'n llawn adar mân yn canu, fel côr y wawr ym mis Mai adra. Mae'r Loica -y 'robin goch' fel mae'r gwladfawyr yn ei alw, yn syfrdanol o hardd efo'i frest yn goch fel fan bost; mae'n clwydo ar lwyn isel gan ganu fel eos heb falio dim ein bod ni yno ddegllath o'i flaen.

Esquel o Fryn y Groes!
Does dim enaid byw arall allan ar y mynydd, a does ryfedd; mae yna wynt main yn chwipio'r copa, ac mae'n rhy oer o lawer i gael ein brechdan yno, felly'n ôl a ni i lawr trwy'r coed. Mi gymrodd llai o amser i ddringo nag oedd rhywun wedi'n cynghori, felly mae amser i chwilota a thynnu lluniau rhai o'r planhigion ar y ffordd i lawr.



Blodau fel y seren fach, estrellita yn lleol (Tristagma patagonicum) a'i betalau cul gwyn, yn blodeuo ar bridd noeth y tir uchel lle mae'r eira'n meirioli yn y gwanwyn. Mae tegeirian melyn hardd iawn yma hefyd, a dwi angen mynd i fodio llyfrau i'w nabod ar ôl cyrraedd adra. Un arall sy'n dechrau blodeuo rŵan ydi'r llwyni calafate (Berberis microphylla), ac er 'mod i'n rhy fuan i hel yr aeron duon, dwi wedi llwyddo i brynu pot o'r jam, ac mae'n werth ei gael!

Diwrnod arbennig arall, mewn gwlad arbennig.
------------------------


Y cerdyn post cynta'

1.11.18

Troi am y Wladfa

"Ydech chi'n siæred Gymræg?" medd yr acen hyfryd tu ôl i mi. Roedd y bws o Bariloche i Esquel awr a thri chwarter yn hwyr, felly tîn-droi yn y Terminal Autobus oedden ni, ac mi welodd o'r ddraig goch ar y rycsac.

Doedd Mervyn Melin Nant Fach, ddim yn hyderus yn iaith ei dad, felly cymysgedd o Gymraeg, Sbaeneg ac iaith ryngwladol y chwifio dwylo gafwyd ar y daith bump awr i'w filltir sgwâr o yn y Wladfa Gymraeg. Dyna ein profiad cyntaf o siarad Cymraeg efo brodor yn yr Ariannin, a hynny gannoedd o filltiroedd i'r gogledd o'r cymunedau Cymreig.


Roedd y bws yn foethus i gymharu â siarabangs budr a swnllyd bysus cyhoeddus Cymru, a'r siwrna braf yn y seti blaen ar y llawr ucha' ddim yn costio fawr mwy na thocyn o Stiniog i Gaernarfon ac yn ôl!

O fewn tri chwarter awr, ar ôl 5 diwrnod o gymylau a glaw, mae'r awyr yn clirio'n las a'r mynyddoedd yn cyrraedd eu huchder llawn. Mae'r angar wedi clirio o'r ffenest erbyn hyn hefyd, i ni fedru edmygu'r olygfa: llethrau claerwyn wedi'u torri gan greigiau duon, ac ambell gopa a chrib fel coron dywyll ar ben y mynydd. Dyma'r ucheldir welson ni o'r awyren wrth gyrraedd wythnos ynghynt.

Bu dipyn o ddifyrwch o'n cwmpas ar y bws wrth i mi ymateb i gais Mervyn i ddysgu 'chydig o Gymraeg iddo, trwy ganu cân berthnasol Plethyn: 'Melinydd oedd fy nhaid', a 'nghyd-deithiwr yn cyfieithu iddo fo. Er canu hon fil o weithiau i'r plant pan oedden nhw fychain (pennill y chwarelwr yn benodol), wnes i erioed ei chanu hi'n gyhoeddus o'r blaen. Roedd o'n gwerthfawrogi'r geiriau fwy na'r llais dwi'n meddwl!

O ben y bwlch mae'r bws yn disgyn yn droellog i lawr i'r dyffryn coediog, a'i ochrau'n codi'n serth a'r coed yn teneuo efo uchder, i haen sy'n frith o lwyni bychain, nes ei bod yn rhy uchel i blanhigion preniog, a'r tirwedd yn troi'n sgri llwm, neu'n graig noeth. Collodd Cymru ei 'treeline' naturiol ganrifoedd yn ôl, a dwi'n difaru na fedraf neidio oddi ar y bws i gerdded a dringo am y diwrnod, efo llond bag o lyfrau i nabod y planhigion a'r adar yma.


Daw'r bws i stop mewn man archwilio Gendarmería Nacional a'm deffro fi o'r synfyfyrio. Ai dyma'r ffin rhwng taleithiau Rio Negro a Chubut tybed? Roedd Mervyn yn chwyrnu felly doedd dim modd holi; ac wedi ychydig funudau yn unig o oedi, ymlaen â ni.

Mae'r tirlun yn drawiadol bob cam ar y daith, ac ambell lecyn arall yn dal y sylw, fel rhaeadrau Cascada de la Virgen a'r eglwys wen; dŵr Rio Foyel yn wyrdd; gwair pampas yn ei gynefin naturiol, yn hytrach na gardd yn suburbia; gwartheg yn y ffordd, fel defaid y Migneint (ond ddim digon call i symud pan ddaw cerbyd); a golwg cynta ar rai o'r estancias a'r ffermydd mawr, sef rhesi o goed talsyth, cul, y poplys -alamo fel mae'n nhw'n cael eu  nabod yma.

Erbyn gyda'r nos, mae'r bagiau yn yr hostel yn Esquel, a chawn chwilio am gwrw oer a thamaid o fwyd.
---------------------------------------


[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #5. PW Hydref 2018]