Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.4.22

Trwyn yn y cafn

Dwi wedi bod isio pwll erioed. Ar gyfer gweision neidr yn fwy na llyffaint aballu. Ond does dim lle yma. Yn sicr, dim digon o le gwastad i dyllu pwll naturiol.

Felly mi wnaethon ni greu rhyw fath o bwll, mewn cafn gwartheg o'r co-op ffarmwrs yn Llanrwst, ar ôl codi'r clo cyntaf yn 2020. 

Ew, roedd o'n edrych yn dda..!

 

 Buddsodwyd mewn pedwar planhigyn a photiau pwrpasol:

Saethlys -Sagittaria i ddarparu tyfiant sy'n codi o'r dŵr. Pwysig iawn i weision neidr.

Lili'r dŵr eddïog -Nymphoides. Dail bach ar wyneb y dŵr a blodau bach melyn.

Sgorpionllys (neu nad-fi'n-angof) -Myosotis.  Cwmwl o flodau mân, glas.

Dail croen oren -Houttuynia. Wedi prynu hwn ar ôl ymweliad â gardd yr Agroforestry Research Trust. Cafodd ei ddisgrifio fel perlysieuyn sy'n dda efo pysgod, ond sydd hefyd yn wych i leddfu clwy'r gwair. Ond da chi peidiwch a phlannu hwn yn y ddaear, gan ei fod yn achosi problemau ymledol mewn rhai amodau.

Ond buan iawn aeth pethau i'r gwellt. Planhigion yn marw. Malwod dŵr yn marw. Am ryw reswm, roedd waliau metal y cafn yn gollwng llwyth o bowdwr gwyn i'r dŵr, a hwnnw -oeddwn i'n dyfalu- yn newid ei ansawdd neu'n ei lygru. 

Erbyn mis Medi, roedd y planhigion unai wedi marw neu ddim yn iach o gwbl, ac algau afiach oedd prif nodwedd y pwll :(

Y camgymeriad wnes i mae'n debyg oedd rhoi blociau concrit yn y cafn er mwyn codi uchder rhai o'r planhigion yn y dŵr. Mae'n amlwg rwan wrth gwrs, ond ar y pryd wnes i ddim meddwl am eiliad fod y sment sydd yn y blocs yn mynd i adweithio efo'r metel, ond dyna, mae'n debyg, oedd ar fai. Hyd yn oed ar ôl gwaredu'r blociau, wnaeth pethau ddim gwella, a digon truenus yr olwg oedd y pwll trwy 2021, er inni brynu planhigion newydd, yn enwedig rhai i gynyddu'r ocsigen.

Y powdwr gwyn yn amlwg ar y waliau, ac ar wely'r cafn

Tydi'r cafnau yma ddim yn bethau rhad iawn, ond yn amlwg roedd rhaid cael un arall os oeddwn eisiau pwll o unrhyw fath yma. Felly erbyn hyn, mae'r cafn gwreiddiol wedi ei addasu a'i symud, ac yn cynnal meryswydden (medlar) a choeden glesin (quince), yn ogystal â rhosyn mynydd. Gwnaed lle iddo trwy roi'r biniau a'r bocsys ail-gylchu y tu allan i'r giât, rhywbeth y dylid fod wedi gwneud ers talwm, ac mae'r llwyfan bach yn edrych llawer gwell ers gwneud.



 

Prynwyd cafn newydd ddechrau Ebrill eleni, am £108, er mwyn rhoi cynnig arall ar greu pwll. 

 Mae o wedi llenwi ar ôl deuddydd o law.

Mi awn ni dow-dow i edrych am blanhigion wrth i'r tywydd gynhesu eto, a gawn ni weld sut hwyl gawn ni arni tro 'ma!


7.4.22

Tyfu eirin ar y mynydd

Ar ôl cadarnhau y llynedd fod y goeden eirin Ddynbych ddim yn hunan-ffrwythlon 700 troedfedd uwchben lefel y môr, mi brynais goeden eirin arall dros y gaeaf.

Mae'n rhaid fy mod i'n mwynhau cosbi fy hun, neu'n wirion neu rywbeth, oherwydd yn hytrach na phrynu coeden eirin hawdd a dibynadwy -victoria, er enghraifft- dwi wedi prynu eirinen werdd; greengage. (Dwi wrth fy modd efo eirin gwyrdd, ac yn prynu fesul tunnell ar yr achlysuron prin y gwelai nhw ar werth mewn siop neu farchnad).   Reine Claude Vraie ydi enw hon, ar foncyff lled-fychan, semi-dwarf, a dwi wedi ei phlannu hi mewn pot mawr oherwydd diffyg lle yn y ddaear yma. Ffrwyth ardaloedd deheuol cynnes ydi eirin gwyrdd mewn gwirionedd, felly dwi ddim yn siwr be' i'w ddisgwyl!

Beth bynnag, ar ôl mwynhau tair wythnos o dywydd braf a chynnes ym mis Mawrth eleni, mae'r Ddinbych wedi cael ei themptio i flodeuo yn fuan, ac erbyn heddiw mae mwy o flodau arni na welais i erioed o'r blaen.

Blodau ac eira ar ganghennau'r Eirinen Ddinbych. Diwrnod olaf Mawrth 2022
Haul llwynog oedd o, ac wrth gwrs, mae'r tywydd wedi troi yn wlyb ac oer fel oedd y blodau yn agor. Typical! Cyn hynny, cafwyd tair wythnos o brysurdeb cacwn a gwenyn a phryfaid yn yr ardd, ond mwya' sydyn, mae'r peillwyr wedi diflannu ar yr union adeg yr oedd eu hangen! Amseru gwael.

Mae'r eirinen werdd yn blodeuo rwan hefyd, yn ei gwanwyn cynta' hi yma, sy'n rhoi hyder i mi y daw hon yn gymar peillio da i'r Ddinbych, ond pryder hefyd ei bod hithau'n blodeuo'n rhy gynnar o lawer i fyny'n fan hyn, ar ochr y mynydd!

Blodau eirin gwyrdd, yn y glaw

 

Er mwyn profi'r angen am groes beillio y llynedd, roeddwn i wedi torri cangen flodeuog oddi ar goeden damson sy'n tyfu'n wyllt rai milltiroedd i ffwrdd, a'i rhoi mewn jwg o ddŵr o dan ganghennau'r Ddinbych. 

Bu hynny'n llwyddiant, fel dwi wedi adrodd mewn dau bost ym mis Awst llynedd, ac felly, i geisio manteiso ar y berthynas honno bob blwyddyn, mi godais ddarn o dyfiant oedd yn codi o wreiddyn y goeden wyllt dros y gaeaf, a'i dyfu ymlaen mewn pot yn yr ardd.

Does yna ddim golwg o flagur blodau ar y damson hyd yma, ond sucker gwyllt oedd honno, ac mae hi'n buddsoddi ei hegni i wneud gwreiddiau newydd eleni gobeithio.

 

Ond gyda lwc, mi fydd tair coeden eirin yma yn y blynyddoedd i ddod, a'r rheiny -gobeithio- yn peillio eu gilydd i roi cnydau o eirin mawr Dinbych; eirin bach gwyrdd; a damsons. Daliwn i gredu!