Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

11.10.19

Waw! Trelew

Dipyn o dwll oedd yr hostel ar stryd Edwin Roberts yn Nhrelew, o'i gymharu efo bob man arall.

A deud y gwir, roedd Trelew dan anfantais braidd, a'r 'mynadd yn brin wedi i ni gyrraedd y ddinas tua awr yn gynt na'r disgwyl, am chwech y bore: dim byd yn agored ond caffi oer, di-groeso yr orsaf fysiau, a hen grinc o hogan anserchog yn gwerthu coffi sâl wysg ei thîn i gwsmeriaid cynta'r dydd.

Ond ar ôl tri chan milltir, a noson di-gwsg mewn bws yn croesi'r paith hir, mae'r hostel yn hafan i roi pen i lawr am awr neu ddwy, a manteisio ar gysylltiad wi-ffi da i wneud trefniadau'r dyddiau i ddod.

Ar ôl cael ail wynt, mae canol y dref yn galw. Mae'r amgueddfa baleontoleg newydd sgleiniog yn werth ei gweld, ac mae'r amgueddfa leol dafliad carreg i ffwrdd hefyd. Dwi'n diawlio fy niffyg Sbaeneg, ac yn drist am fethu gwerthfawrogi'r wybodaeth yn llawn.

Am ryw reswm (ymwelwyr o'r Unol Daleithiau yn cynyddu meddan nhw), mae'r amgueddfa newydd wedi cynnwys rhywfaint o Saesneg ar rai o'u paneli, ond dwi fawr callach wedyn, a'r cyfieithu ar ambell un yn codi gwên...

Yn achos panel y deinosor mwyaf yn y byd -y Patagotitan- doedd eu mathemateg ddim yn dda iawn chwaith!

Roedd yn siom i ddallt bod Parc Ffosiliau Bryn Gwyn, sy'n gysylltiedig efo'r amgueddfa, wedi cau ar gyfer ei ail-ddatblygu, ond o leia gawson ni fwynhau gwylio David Attenborough wedi'i isdeitlo mewn Sbaeneg, a'r gair ¡Guau! yn fawr ar y sgrîn wrth iddo ebychu 'wow' am faint anferthol y Patagotitan.

¡Guau! fuodd hi ryw ben bob dydd wedyn, am rywbeth neu'i gilydd!

Fel Trefelin, mae ambell arwydd Cymraeg yma, ar yr adeiladau cyhoeddus, ond gan fod Trelew yn ddinas fawr mewn cymhariaeth, tydi'r iaith ddim mor amlwg yma. Gwirion a naïf fysa disgwyl mwy mae'n siwr gen i.


Mae'r cinio bach yng ngwesty Touring Club yn plesio'n iawn. Mae pawb yn deud bod yn rhaid ymweld â'r lle... Ond, heblaw am fwynhau chwarter awr o roi'r byd yn ei le efo pedwar o Gymry eraill oedd yn crwydro Patagonia, anti-cleimacs ydi'r profiad ar y cyfan. Dwn 'im pam.

Ta waeth, mae Eisteddfod y Wladfa yn galw!

Ac am brofiad emosiynol. Tydw i ddim yn eisteddfodwr mawr. Gweithgareddau'r ffrinj: bar y maes a'r gigs sy'n denu mwy na'r pafiliwn. Ond yma, saith mil a mwy o filltiroedd i ffwrdd, roedd gwylio pobol a phlant yn canu a llefaru yn Gymraeg, ac yn dawnsio gwerin, bron a'm llorio. Eisteddais yn y neuadd yn crïo a gwenu fel giât bob-yn-ail.

¡Waw! yn wir.


Er y blinder, mi fuo ni yn yr Eisteddfod tan yr anthem, ganol nos; a mynd yn ôl am fwy drannoeth!

Tydi diwrnod a hanner yn sicr ddim yn ddigon i werthfawrogi lle newydd yn iawn, felly mae Trelew wedi'i ychwanegu at restr hir o lefydd i ddychwelyd iddyn nhw.

[Cerdyn post hwyr o'r Ariannin. #8. PW 26-27 Hydref 2018]