Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

Pwy 'di pwy?

Paul Williams ydw i, yn garddio ym Mlaenau Ffestiniog. Gallwch fy nghanfod ar FB ac X
 
Cymeriadau'r ddrama:
(Lluniau gan Yr Arlunydd, sef y ferch hynaf. Rhagfyr 2013)

 
Y Garddwr: 
Jac of ôl traed; meistr ar ddim byd na neb.

Snob coffi a breuddwydiwr.

Yn edrych ymlaen am haf rywbryd cyn yr oes ia nesa’. Plîs.

Mae hwn yn bortread caredig iawn, sydd wedi tynnu blynyddoedd a phwysi oddi arnaf, ac wedi adfer rhywfaint o liw i'r gwallt brith sydd gen' i!


Y Pobydd:   
Mylti-tasgwraig go-iawn a phencampwr chwynnu.

Dim digon o ddyddiau mewn wythnos.

Het chef sydd ganddi yn llun y Fechan isod!



Yr Arlunydd; y Pry’ Llyfr, a’r Fechan:
Plant gorau’r byd. Siopwyr esgidiau brwd iawn, fel eu mam.




Dyma lun (Ebrill 2012) gan Y Fechan.
Tydi'r plant ddim yn dalach na'u rhieni mewn difri, ac mae gan pob un ohonom set gyfa' o ddwylo, a thrwyn bob un, diolch i'r drefn.

2 comments:

  1. Anonymous2/6/14 21:59

    Dwi yn dalach na ti rwan dad ti jyst im isho cyfadda na shorty ti :P

    ReplyDelete

Diolch am eich sylwadau