tag:blogger.com,1999:blog-7134772446733942182024-03-16T01:09:51.291+00:00Ar Asgwrn y GraigWiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.comBlogger271125tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-2157463058607538062024-03-14T23:30:00.001+00:002024-03-14T23:30:00.303+00:00Titw Tomos Las a BluetoothCyn mentro at y blwch nythu ar wal y cwt acw, mae’r titw tomos las yn canu’n bryderus o’r goeden helyg tu draw i ffens derfyn yr ardd. Ymhen hir a hwyr, mae’n gwibio o fanno i’r goeden gelyn gyferbyn â’r cwt, ac aros eto. Edrych o’i gwmpas rhyw ‘chydig; gwylio; gwrando’n hir. Yn betrus mae’n symud cam yn nes eto: i’r lein ddillad y tro hwn, lathan yn unig o’r twll crwn ym mlaen y bocs pren. Ydi oWiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-25351617745958470272024-02-22T23:30:00.001+00:002024-02-22T23:30:00.254+00:00Boda a BrogaDim ond hanner esgus oeddwn i angen i adael clydwch y tŷ i grwydro ar un o weunydd mwyaf Meirionnydd ddechrau’r wythnos. Roedd llygedyn o awyr las rhwng haenau o gymylau yn ddigon i’m denu fi allan ar ôl dyddiau o dywydd gwael eto! Dwi’n hoff iawn o fynd i’r un lleoliad ynghanol ardal fawr wyllt a chorsiog, tua diwedd Chwefror, er mwyn gwrando ar gân hyfryd yr ehedydd a chael teimlo fod y gwanwynWiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-65207951791005143092024-02-01T23:30:00.001+00:002024-02-01T23:30:00.256+00:00Crwydro'r BannauHyd yn oed cyn cychwyn am y bwlch, roedd y gwynt yn rhuo a chymylau duon yn hel yn y pellter. Roeddwn i lawr ym Mynwy wythnos dwytha, rhwng stormydd Isha a Joslyn ac wedi trefnu crwydro dipyn ym mryniau dwyrain Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mi anelais yn gyntaf am Fynydd Llangatwg a Gwarchodfa Natur Craig y Cilau. Mae clogwyni’r Darren, Darren Cilau, Disgwylfa, a Chraig y Cilau yn Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-43922158954027971542024-01-11T23:30:00.008+00:002024-03-12T16:21:16.738+00:00Blwyddyn Newydd, Camerâu NewyddA dyna ni. Daeth gwyliau’r nadolig i ben; rhestrwyd addunedau i’w torri eto; rhoddwyd y tinsel ‘nôl yn yr atig; a bu’n rhaid dychwelyd i’r gwaith. Ba hymbyg!A dweud y gwir, dwi’n ffodus iawn i fedru dweud fy mod yn mwynhau fy ngwaith, ar y cyfan. Bysa rhai yn dadlau mai dim ond surbwch fyddai’n cael trafferth codi o’r gwely i fynd i reoli gwarchodfeydd natur! Mae’n fraint i fod yn onest, yn Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-32682921438520316272023-12-21T23:30:00.020+00:002023-12-21T23:30:00.144+00:00Rhestr NadoligAnnwyl Sion Corn, tybed fyddech chi’n ystyried danfon ambell un o’r rhain i mi eleni?Haul ydi fy nghais gynta’. Yn ôl gwefan Omniglot, mae dros 40 ffordd o ddisgrifio glaw yn Gymraeg, a ‘Glaw Stiniog’ yn un ohonyn nhw. Glaw trwm ydi’r ystyr yn ôl y wefan, a phwy ydw’i i daeru efo’r ‘online encyclopedia of writing systems and languages’? Fel un o drigolion y Blaenau mae’n anodd dadlau efo Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com3tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-87936769740917472482023-11-30T23:30:00.020+00:002023-12-13T12:43:29.305+00:00Apus DyrfaTua diwedd Gorffennaf eleni, fel can Gorffennaf o’r blaen, mentrodd cyw gwennol ddu (swift, Apus apus) i olau dydd, a gollwng ei hun o’i nyth uchel, dan do hen adeilad yn ‘Stiniog, ac ymestyn ei adenydd am y tro cyntaf i ymuno efo’i deulu uwchben y dref. Mae’r cyw hynnw dal yn yr awyr rwan, rywle yng Ngweriniaeth y Congo. Tydi o heb lanio o gwbl! Mae o’n bwyta, yfed a chysgu yn yr awyr, a Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-85173448640294599312023-11-09T23:30:00.001+00:002023-11-09T23:30:00.164+00:00Digon i’w wneudCastanwydden bêr -sweet chestnut- yn Wrecsam ydi coeden y flwyddyn yng ngwledydd Prydain eleni! Bydd y goeden 480 oed rwan yn ‘cystadlu’ yn erbyn coed eraill trwy Ewrop. Dyna reswm da dros fynd am dro i Barc Acton y penwythnos hwn. Cyfle i biciad i lecyn lleol i hel y cnau blasus i’w rhostio ar y tân dros y gaeaf hefyd!Os ydych yn chwilio am weithgareddau amgylcheddol eraill, mae llawer iawn ar yWiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-23351915912857484572023-10-19T23:30:00.002+01:002023-12-13T12:42:48.739+00:00Brain Arthur a PharacîtsBrân goesgoch. Argraffiad cyfyngedig* gan Lleucu GwenllianYn y niwl, rywle yn y pellter, mae Ynys Enlli. Dwi wedi dod efo’r teulu ar bererindod i weld yr ynys a chrwydro Uwchmynydd; ond ychydig iawn sydd i’w weld wrth inni gyrraedd. ‘Does yna fawr o wahaniaeth yn lliwiau’r môr a’r awyr, a’r un llygedyn o liw ydi Maen Melyn Llŷn; carreg sy’n edrych o un ongl fel llaw enfawr yn pwyntio dros y dŵr Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-72179033930100731532023-09-28T23:30:00.046+01:002023-12-13T12:42:05.924+00:00Araf Deg Mae Mynd YmhellBob tro mae unrhyw un yn fy holi am lwybrau ar warchodfa neu ar ochr mynydd, byddaf yn awgrymu mae’r ffordd orau i werthfawrogi unrhyw le ydi ‘yn araf’. Clywais y cwestiwn “faint o amser gymerith hi i gyrraedd y copa?” filoedd o weithiau. Rhywbeth fel hyn maen nhw’n gael yn ôl: Wel, mi fedri di roi dy ben i lawr a rhuthro yno mewn dwyawr os taw cyrraedd yno sy’n bwysig i ti... Ar y llaw Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-90557091431176429772023-09-07T23:30:00.001+01:002023-09-07T23:30:00.158+01:00Dal gwyfynodTri-deg mlynedd yn ôl ‘roeddwn yn beiriannydd yn Atomfa Trawsfynydd, yn gwylio’r cloc a chyfri’r oriau ar shifftiau nos hir. Erbyn hynny, roedd y ddau adweithydd wedi eu diffodd a’r prysurdeb arferol wedi gostegu, y gorchwylion dyddiol yn llai beichus ac o’r herwydd roedd amser yn llusgo’n arw rhwng machlud a chodiad haul! Un o’r pethau fyddwn yn wneud rhag diflasu’n llwyr ar adegau felly fyddai Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-79954826582528169442023-08-17T23:30:00.020+01:002023-12-13T12:41:03.355+00:00Gwyddor y bobolAeth hi’n ben set arna’i eto eleni efo’r arolwg glöynnod byw -y ‘Big Butterfly Count’ blynyddol, sydd dan ofal cymdeithas Butterfly Conservation; gawsoch chi gyfle i gymryd rhan? Dyma mae’n debyg yr arolwg fwyaf yn y byd o ieir bach yr haf, ac yn ffordd ymarferol a hawdd i unrhyw un gyfrannu at ymchwil i hynt a helynt y pryfaid hardd yma. Citizen science: hwnna ydi o! ‘Gwyddor y bobl’ Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-17521037140129120632023-07-27T23:30:00.036+01:002023-12-13T12:39:46.470+00:00Cerdyn Post o Fan Gwyn Man DrawDan haul tanbaid a gwres o 40°C, mewn dolydd blodeuog lliwgar iawn a channoedd lawer o wenyn a chacwn a glöynnod byw, allwn i ddim bod mewn lle mwy gwahanol i Gymru, ond eto’i gyd mae yna debygrwydd yn ambell i beth.Ymysg y myrdd o blanhigion diarth, mae llawer o flodau sydd ar yr un pryd yn gyfarwydd. Nid o ddolydd a gweirgloddiau Cymru; mae’r rheiny -yn amlach na pheidio- yn brin iawn eu blodauWiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-28186467657237494442023-07-06T23:30:00.004+01:002023-12-13T12:38:50.294+00:00Rhyfeddod y Gweision NeidrMae llawer wedi’i ddweud yn ddiweddar am gyflwr dyfroedd Prydain, ond wrth eistedd ar garreg ynghanol un o afonydd Meirionnydd mae’n hawdd cael fy nhwyllo i feddwl fod popeth yn iawn yn y byd.Dan haul braf rhwng cawodydd, mae’r awyr o nghwmpas yn llawn o weision neidr, clêr a gwybed. Ar wyneb y dŵr mae chwilod bach chwrligwgan (whirlygig beetle, un o rywogaethau Gyrinus) yn rhuthro mewn cylchoeddWiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-31361217042097547192023-06-15T23:30:00.002+01:002023-12-13T12:38:21.357+00:00Cerrig Calch a Cherrig DuonMae’n talu weithiau i fod yn anghymdeithasol, a mynd allan o’ch ffordd i chwilio am lefydd distaw er mwyn osgoi’r dorf. Dwi’n sicr yn berson y Rhinogydd yn hytrach na’r Wyddfa; Cwm Teigl yn hytrach na Chwm Idwal; a gwell gen i Fetws Garmon na stryd fawr Betws y Coed ar unrhyw adeg o’r flwyddyn!Hawdd ydi mynd i rigol o grwydro’r un llefydd am eu bod yn gyfleus ac yn gyfarwydd. Pen y Gogarth er Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-82139843393721972622023-05-25T23:30:00.014+01:002023-12-13T12:37:04.659+00:00Dathlu'r haf a dynwared gog!Oes yna unrhyw beth hyfrytach na chân ehedydd mewn awyr las? Go brin. Gall rhywun ymgolli’n llwyr yn y parablu byrlymus, hir. Dyma un o’r gwobrau dwi’n fwynhau ganol Mai wrth grwydro i’r mynydd. Ar gyrion y dre’ mi ges wylio mursennod cochion yn hedfan mewn tandem dros ffos, a’r un fanw yn rhoi ei chynffon i mewn ac allan o’r dŵr i ddodwy ŵyau ar ddail dan yr wyneb. Ymhen ychydig wythnosau Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-47969324316484935192023-05-11T07:45:00.001+01:002023-12-13T12:36:25.351+00:00Tynnu nyth cacwnMaen nhw’n dod nôl bob gwanwyn yn selog. Erbyn hyn, dwi’n gwybod i chwilio am yr arwyddion yn ddigon buan, unwaith mae’r dyddiau’n cynhesu. Bob yn ail diwrnod rwan, dwi’n mynd i’r cwt i weld os oes cylch nodweddiadol o bapur llwyd wedi ymddangos ym mrig y to. Dyma sylfaen nyth y wenynen feirch. Cacwn i rai, picwn i eraill; wasp yn Saesneg wrth gwrs.Dwi’n gweld brenhinesau yn rheolaidd yn yrWiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-25986706476439384172023-04-13T23:30:00.006+01:002023-12-13T12:35:08.051+00:00Coch y berllanMae’r covid wedi cyrraedd ein tŷ ni o’r diwedd -fel huddug i botas- a finna wedi cymryd wythnos i ffwrdd o’r gwaith, yn llawn cynlluniau ac uchelgeisiau am gael crwydro a garddio a gwylio natur.Diolch byth am ddyddiau braf wythnos gyntaf y Pasg, oedd yn caniatau i mi o leiaf grwydro i waelod yr ardd efo panad ar ôl syrffedu ar y soffa! Dros ddau brynhawn cynnes mi ges i gyfri pedwar glöyn Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-67764352694434339372023-03-22T23:30:00.005+00:002023-12-13T12:33:47.135+00:00Moliannwn oll yn llon!Daeth cyhydnos y gwanwyn, ac efo pob wythnos newydd mae’r goedwig leol yn prysuro.Mae brigau’r coed helyg ar y cyrion yn llenwi ar hyn o bryd efo blagur tewion sy’n ffrwydro fesul dipyn yn haid o gywion gwyddau, eu blodau gwlanog. Blodau sy’n hynod werthfawr fel ffynhonell neithdar i bryfaid y gwanwyn; gall helygen fod yn ferw o wenyn a chacwn ar ddiwrnod braf ddiwedd Mawrth ac Ebrill.Ond cân yr Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-21908966384444212332023-03-01T23:30:00.004+00:002023-12-13T12:32:43.870+00:00Calchfaen Bryn PydewMae’r tywydd bob tro’n well yn Llandudno a Phenrhyn y Creuddyn nag ydi o adra yn yr ucheldir dri-chwarter awr i lawr yr A470, ac wrth barcio ger mynedfa gwarchodfa Bryn Pydew mae’r drain duon eisoes yn blodeuo ganol y mis bach.Tu draw i’r giât mae’n fyd cwbl wahanol hefyd. Yn fy milltir sgwâr, mae asgwrn y graig sy’n freichled i dref Stiniog (i arall-eirio’r bardd Gwyn Thomas) yn folcanig a Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-13790881854403774302023-02-09T08:05:00.004+00:002023-12-13T12:31:29.747+00:00Crwydro Ffridd y BwlchGydag anogaeth a geiriau caredig Bethan Wyn Jones, colofnydd Byd Natur Yr Herald Cymraeg hyd at Ragfyr 2022, dwi wedi cytuno i yrru erthyglau i'r papur bob mis. Dyma'r cyntaf, a ymddangosodd ar dudalennau'r Herald yn y Daily Post, 8fed Chwefror 2023. Dim pawb sy’n gwirioni ‘run fath wrth reswm, ond dwi wrth fy modd efo dyddiau caled glas yn y gaeaf.Felly mae hi wrth i mi grwydro ardal Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com3tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-56825001228506869972022-04-09T10:23:00.000+01:002022-04-09T10:23:03.784+01:00Trwyn yn y cafnDwi wedi bod isio pwll erioed. Ar gyfer gweision neidr yn fwy na llyffaint aballu. Ond does dim lle yma. Yn sicr, dim digon o le gwastad i dyllu pwll naturiol.Felly mi wnaethon ni greu rhyw fath o bwll, mewn cafn gwartheg o'r co-op ffarmwrs yn Llanrwst, ar ôl codi'r clo cyntaf yn 2020. Ew, roedd o'n edrych yn dda..! Buddsodwyd mewn pedwar planhigyn a photiau pwrpasol:Saethlys Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-45396307593282224382022-04-07T12:41:00.001+01:002022-04-20T14:46:17.786+01:00Tyfu eirin ar y mynyddAr ôl cadarnhau y llynedd fod y goeden eirin Ddynbych ddim yn hunan-ffrwythlon 700 troedfedd uwchben lefel y môr, mi brynais goeden eirin arall dros y gaeaf.Mae'n rhaid fy mod i'n mwynhau cosbi fy hun, neu'n wirion neu rywbeth, oherwydd yn hytrach na phrynu coeden eirin hawdd a dibynadwy -victoria, er enghraifft- dwi wedi prynu eirinen werdd; greengage. (Dwi wrth fy modd efo eirin gwyrdd, ac yn Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-4617966937120280562022-03-28T18:00:00.029+01:002022-12-08T09:35:26.170+00:00Crwydro Ceunant LlennyrchBob dydd rwan, mae arwyddion y gwanwyn yn codi’n calonnau, felly be well na chrwydro un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol ein hardal? Mae digon o ddewis o lwybrau yn y ceunant yma, ar y ddwy ochr i’r afon: gallwch ddechrau o’r ffordd fawr ger pwerdy Maentwrog, neu ddod ar i lawr o argae Llyn Traws. Ond cylchdaith fer ar ochr Maentwrog y ceunant sydd dan sylw y tro hwn.Ychydig uwchben fferm Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-64845523556286863942021-12-16T08:57:00.001+00:002021-12-16T08:57:40.758+00:00Teg edrych tuag adrefMae llawer o son y dyddiau hyn am warchod enwau Cymraeg ar nodweddion yn ein tirlun, ac ar ffermydd a thai. Tân ar groen ydi gweld Nameless Cwm ar fap yn hytrach na Cwm Cneifion, ac mae gweld lol fel Happy Donkey Hill ar giât fferm ger Llandysul, yn hytrach na’r Faerdre Fach gwreiddiol yn ddigon i’m gwylltio’n gacwn! Mae digon hefyd, ysywaeth, o enghreifftiau ym Mro Ffestiniog.Codi stêm mae Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-713477244673394218.post-59217072988983114932021-12-12T21:35:00.000+00:002021-12-12T21:35:01.982+00:00Cythraul Cystadlu'Mond 'chydig o hwyl ydi o; cystadleuaeth arddio flynyddol y teulu estynedig.Ond mae rhai yn cymryd y gystadleuaeth yn fwy difrifol nac eraill!Er na soniais am y cystadlu ers pum mlynedd, cafwyd brwydro bob haf dros ffa hir, y moron hyllaf, a'r blodau haul talaf, a mwy.Eleni, y nod oedd cael triawd o datws twt, a beirniad gwadd er mwyn cadw'r ddesgl yn wastad.Och, mi ges i gam!Dyma'r tatws Wiliashttp://www.blogger.com/profile/11868773179794600451noreply@blogger.com0