Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.10.14

Dal i hel

Mae'r tomatos yn dal i aeddfedu yn y ty gwydr, a'r tywydd mwyn yn dal i blesio.


Ches i ddim arlliw o'r aflwydd blight ar y tomatos eleni, felly mae'r ffrwythau wedi cael aros ar y planhigion tan rwan. Bach iawn fydd y cnwd o domatos gwyrdd felly, a da o beth 'di hynny.

Mi dyfis i dri math o domatos o had y tro yma. Moneymaker ydi'r rhai cochion crwn. "Di-flas" yn ôl rhai, ond yn ddibynadwy, di-drafferth, a chanmil neisiach na thomatos siop. Yn enwedig o'u bwyta'n gynnes o'r goeden.
Ildi ydi'r tomatos bychain melyn siâp ŵy. Hyfryd a melys, ac yn bendant ar restr 2015.
Hadau ges i am ddim o gylchgrawn oedd y ddau ohonyn nhw, a digon ar ôl at y flwyddyn nesa.

Hâd ddaeth fy rhieni adra efo nhw o wlad Groeg ydi'r un mawr, a doeddwn i ddim yn disgwyl llawer o rhywbeth sy'n arfer tyfu yn haul y Med... ond mi ddoth. Drwg ydi, 'mond dau ffrwyth ges i!

Mi gawsom ni salads lu, tomatos wedi eu pobi, sawsiau pasta, ac yn fwyaf diweddar, cawl blasus gan Y Pry' Llyfr, merch rhif 2, sy'n codi'n amlach erbyn hyn o'i nofelau i arbrofi wrth y popdy.



Ges i hadau ciwcymbars am ddim hefyd, a'r rheiny wedi talu am eu lle ochr yn ochr â'r tomatos. A basil 'run fath.


Mae rhywfaint o datws, moron a maip dal yn y ddaear yn barod i'w hel; ychydig o seleriac a cêl a chenin ar gael hefyd. Y cwbl yn yr ardd gefn.




Dyma'r pethau olaf ar y rhandir eleni: ffa dringo hardd wedi deor o'u pods, fel wyau cwtiad ar draeth cerrig.


Mae digon o waith i'w wneud dros y gaeaf, ond pan mae rhywun wedi cael blwyddyn dda, tydi o ddim yn teimlo fel gwaith nac'di.

Edrych ymlaen sydd rwan...



21.10.14

Dewch i lawr i Garej Paradwys

Lle i luchio sbwriel fu'r cwt ers talwm.

Lle i dreulio cyn lleied o amser a phosib ynddo.



Asbestos. Hwnna ydi o.




Dwi wedi bod ofn gwneud rhyw lawer yn y cwt ers tro, a phawb arall yn y teulu wedi eu gwahardd rhag mynd i mewn o gwbl.









Roedd cyflwr yr asbestos ar y to wedi dirywio'n arw, a darnau'n plicio oddi arno, gan greu llwch 'run pryd.

Dwi wedi bod yn beirianydd atomfa yn y gorffennol. Ac yn gyw-dringwr; wedi crwydro lefelydd a thyllau hen chwareli; neidio o'r graig i Lyn Cwn; dwi wedi bwyta madarch gwyllt amrywiol; yn defnyddio llif gadwyn yn rheolaidd; ac weithiau'n aros allan ar y cwrw yn hwyrach na ddyliwn i.

Pethau peryglus pob un.
Ond dwi ddim yn wirion chwaith!

Roedd yn rhaid i'r asbestos fynd felly.

Hefyd, mae'n anodd garddio heb gwt da, ac roedd yn hen bryd i mi ddefnyddio'r ty gwydr i dyfu bwyd yn hytrach na fel storfa.





Cwmni arbenigol wnaeth y gwaith budr, a fi wnaeth yr ail-adeiladu, rhwng cawodydd, efo cymorth gwerthfawr fy nhad a nhad-yng-nghyfraith.

Crefftwyr ill dau. (Gwell rhoi canmoliaeth, yn barod at pan fydda'i eu hangen nhw eto. Maen nhw'n rhad iawn hefyd!)

Roedd yn rhaid i gynnwys y cwt: yn feics a sgwtyrs a slediau, twls a choed a dodrefn, i gyd fyw dros dro yn y ty gwydr ac ar y lawnt, a phob twll a chornel oedd ar gael.











Er ychydig o strach ac ymdrech, mae popeth yn ei le rwan, a Dafydd El yn dod i dorri rhuban acw pan mae'r Fodca Llus yn barod medda fo.

Neu ella mae dychmygu hynna wnes i.

Ar hyn o bryd mae o'n drefnus, a dwi'n gweld top y fainc waith eto o'r diwedd.

Heb drydan yno, mae ychwanegu dau stribed o blastic clir wedi gwneud byd o wahaniaeth i'r golau.

Roedd clirio'r cwt yn un o'm addunedau i ar ddechrau'r flwyddyn, a thrwy wyrth, dwi wedi llwyddo i'w gwireddu. Ond mae o wedi fy atgoffa o'r rhai dwi wedi eu hanwybyddu hefyd!


Ymysg y tunelli o stwff fues i'n gario i'r ganolfan ailgylchu o'r cwt oedd dwsinau o botiau paent hanner gwag. Bu'r Fechan a finna'n paentio ambell i gwpwrdd cyn mynd a nhw, a chael andros o hwyl ar gymryd arnom ein bod yn artistiaid mawr!




 Garej Paradwys. Ail Symudiad 1981. Parch!















9.10.14

"Llai na 31"


Daw'r pennawd o adroddiad gan newyddion Radio Cymru ar y 7fed o Hydref, yn son cyn lleied o bobl oedd wedi cymryd maintais o wasanaethau iechyd dramor. "Mae BBC Cymru wedi deall bod llai na 31 o gleifion wedi gwneud cais..."  Aaaaaaaaaaaaaach!!  Llai na 31 o ddiawl... 30 felly ia? Asiffeta.

Un o raglenni 'Becws' ar S4C hefyd bron a denu bricsan trwy'r teledu:
"...ffrindiau fi yn TAFLU CAWOD BABI  i fi..."
Dyna fo. Dwi'n mynd! Oes yna dymor tyfu hir ym Mhatagonia dwad?


Dwi heb fod yn ddigon hy' i adolygu dim ers talwm. Be' sydd wedi'ch gwylltio, neu'ch plesio chi ar y bocs eleni? Gyrrwch air. Dyma ambell feicro-adolygiad sydyn:

Gardd Pont y Twr. Cwmni Da. S4C, gwanwyn 2014
Syniad ardderchog am gyfres. Yn dilyn Sioned ('Byw yn yr Ardd' gynt) a'i theulu wrth ddatblygu gardd yn eu cartref newydd ger Rhuthun. Cyfres ddifyr, efo Iwan y gwr yn amlwg yn frwd dros ddulliau organic a chynaliadwy. Y rhaglenni'n dioddef clwyf arferol S4C o gynnwys dim ond 21 munud o ddeunydd gwreiddiol bob wythnos. Byddai awr o raglen wedi bod yn well, er mwyn dilyn datblygiadau'r ardd yn iawn. Gwerth chweil serch hynny. Gobeithio y bydd ail gyfres.
Os na welsoch chi hi, mae dolen ar waelod y rwdlian yma i glip cyflwyno'r gyfres.

Tyfu Pobl. Cwmni Da. S4C, hydref 2014
Ail gyfres. Difyr, ond rhy fyr eto. Yn bersonol, bysa'n well gen' i eu gweld yn treulio mwy o amser efo cymeriadau rhandiroedd Port, yn lle gwastraffu amser efo'r ysgolion. Welis i ddim hyrwyddo na hysbysebu'r gyfres yma o flaen llaw, ac mi aeth y bennod gynta' heibio cyn inni wybod amdani. Canlyniad i'r arfer yn y ty yma o wylio bron popeth wedi ei recordio, neu ar y we. Angen i S4C ystyried sut i ddenu pobl i wylio tybed, os ydi'r gynulleidfa darged yn y niwl?
Y pennodau diweddaraf dal ar gael ar wasanaeth Clic am ryw hyd.


Cyfresi eraill ardderchog ar S4C: Olion; Caeau Cymru; Darn Bach o Hanes; Arfordir Cymru.
Radio Cymru: Galwad Cynnar wastad yn werth ei ddal ar yr iPlayer neu bodlediad; hefyd 'Dod at ein coed', Llion Williams ar be' mae coed yn olygu i bobl Cymru. Byd Iolo; Sesiwn Fach; Georgia Ruth a Lisa Gwilym ar C2. Ac ar Radio 4: 'From Roots to Riches', hanes perthynas pobl efo planhigion, gan staff gerddi Kew. Ambell bennod yn sych, ond difyr fel arall. Podlediad ar gael.



Ro'n i'n ymwybodol o wefan Galwad Cynnar a'i orielau o luniau gwych, ond doeddwn i 'rioed wedi sylwi o'r blaen ar yr adran Silff Lyfrau.
Gobeithio y datblygith hwn i gynnwys llawer mwy o lyfrau Cymraeg gydag amser, ond ew, byswn i wrth fy modd yn cael gafael ar gopi o lyfr 'Y Garddwr Cymreig' a argraffwyd dros ganrif a hanner yn ol.


Son am wefannau, os oedd blogs Cymraeg am arddio a'r amgylchedd yn brin pan es i ati gynta, mae llai fyth rwan. Mae pump blog o'r rhestr ar y dde wedi bod yn segur ers tro byd, felly dwi wedi eu symud nhw i'r adran 'Be' di be?'

Biti. Roeddwn yn hoff iawn o Hadau, Blog Garddio Bethan Gwanas, Bwyta Gwyllt, Tonnau'r Haul i Bethau Lliwgar a Blasus. Aeth 14 mis heibio ers i'r cyntaf ohonynt bostio ddwytha, a 4 mis ers i'r olaf ddistewi. Ond dwi'n sicr o fynd yn ol yn achlysurol rhag ofn iddynt gael ail wynt. Mae hanes y bumed blog yn dristach. Marwodd awdur blog Cadw Rhandir dros y Pasg. Roedd ei gofnodion cryno am hynt sefydlu rhandir newydd yn ddifyr iawn. Heddwch i'w lwch.

I ddilyn rywbryd cyn Sul y Pys efallai - adolygu neu fwydro am lyfrau diweddar.

Llun gan Y Fechan

Dolenni-
Gardd Pont y Twr
Tyfu Pobl


7.10.14

Ffarwel haf

Mi fuodd mis Medi'n ffeind iawn yma; yn ymestyn ein tymor tyfu byr, ac yn aeddfedu'r india-corn ac yn cochi'r tomatos. Diolch amdano.


Popcorn fiesta, gan James Wong ydi'r corn, efo amrywiaeth o liwiau ar y cobiau, o biws i felyn, llwydlas a du. Lluniau'r corn wedi popio i ddilyn rywbryd eto!


Y bwmpen gynta'n dipyn mwy na rhai y llynedd, ond fel awgrymais ganol Awst, mwngral ydi hi. Mi ddefnyddiais i hadau oedd wedi eu croes-beillio. Crown Prince ydi un o'r rhieni, ond dyn a wyr be ydi'r llall. Yn y blasu fydd y prawf wrth gwrs. Dwy bwmpen arall i ddod. Maen nhw'n cael aros ar y planhigyn nes daw'r barrug.

Am bod Medi wedi bod mor sych, mi gawsom ni gnwd ychwanegol o fefus trwy'r mis. Fel arfer, pan mae'n wlyb, mae'r malwod yn difetha pob un. Daeth y glaw yn nyddiau ola'r mis, a daeth y slygs rheibus i'n hatgoffa ni pwy ydi'r bos!

Y ffa dringo olaf yn dal i dyfu hefyd. Ond y ffa borlotti tu mewn ydi'r nod bellach yn hytrach na'r podiau gwyrdd. Rhai ar gyfer y sosban, a rhai i'w cadw nes daw'r gwanwyn eto.

Doedd yr ymdrech i gael cnwd ychwanegol o bys hwyr ddim yn werth y drafferth a deud y gwir. Mi gafodd y planhigion i gyd hen lwydni llychlyd afiach drostynt.  Gan fod pys yn cadw'n dda, gwell o lawer o hyn ymlaen fydd tyfu mwy yn gynnar i'w rhewi.

Dwi'n dal i godi moron, maip a bresych deiliog. Tydi'r oca heb eu cyffwrdd hyd yma, ac mae twmpathau o afalau yn y gegin yn aros am sylw.

Blodau cloch yr eos, neu ffarwel haf