Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

26.3.16

Arbrawf rhif 400...

Mae Dydd Gwener y Groglith yn teimlo fel dydd calan i mi. Diwrnod cynta'r flwyddyn o ran garddio go iawn. Y diwrnod cyntaf o wyliau hefyd yn aml iawn. Mae'r dydd yn hirach, y pridd yn g'nesach, a'r brwdfrydedd yn berwi.

Dwi ddim yn llwyddo bob tro, ond dwi'n trio plannu'r tatws cynnar ar Ddydd Gwener Groglith bob blwyddyn. Mi gawson ni ddiwrnod sych eleni, a'r haul yn sbecian bob-yn-ail rhwng y cymylau, felly mi fu'r Fechan a finna allan yn plannu hanner dwsin bob un o datws hâd Pentland Javelin, a Dug Efrog Coch.


Does dim lle ar gyfer mwy yn yr ardd gefn, ond os ga'i well trefn ar y rhandir eleni, mi blannwn ni datws ail-gynnar yn fanno..

Mae'r tatws unwaith eto'n gorfod dygymod â syniad penchwiban gen i. Arbrofion sydd weithiau'n drychinebus, ac yn amlach na pheidio yn aflwyddianus; prin byth yn cael eu hail-adrodd! Ond mae pob methiant yn addysg tydi.

Plannwyd nhw mewn tyllau eto yn hytrach na mewn ffos, ond dwi wedi gadael y cardbord fu ar wyneb y gwely dros y gaeaf yn ei le eleni, i gadw'r chwyn i lawr, ac i gadw'r cathod melltith rhag bawa yno.

Mi roeson ni dwmpathau o gompost ar ben bob twll wedyn, gan obeithio bydd y cardbord wedi pydru digon pan ddaw hi'n amser i'r gwlydd dyfu trwyddo.


Mae'r tywydd wedi troi'n wlyb rwan; am weddill penwythnos hir y pasg beryg. Ond mae digon o waith clirio a golchi i'w wneud yn y tŷ gwydr. Wedyn gallwn hau hadau fel 'mynnwn.


20.3.16

Deffro! Mae'n ddydd.

Ar ôl diwrnod yn mwynhau rygbi a chwrw da pedwar o dai potas y dre' ma ddoe, dim ond wysg fy nhîn ac yn ara' deg a fesul dipyn ddois i 'nôl i dir y byw heddiw.

Ond am ddiwrnod! Haul cynnes ac awyr las. Buan iawn ciliodd y pen mawr wrth glirio a thocio a llifio a hollti. Cael crwydro ac arolygu be sy'n deffro, be sy'n tyfu, be sy wedi diodde dros y gaeaf hir gwlyb. Edmygu canu'r ceiliog mwyalchen. A breuddwydio a hel meddyliau am be sydd eto i ddod...

Mi gawson ni ginio al fresco cynta'r flwyddyn, a glöyn byw cynta'r flwyddyn hefyd.

Dim heddiw oedd y diwrnod braf cynta' wrth gwrs, ac mae dau fath o gacwn a dau fath o bry hofran wedi ymddangos ychydig ddyddiau cyn y glöyn mantell paun oedd yma heddiw. Ond heddiw oedd y diwrnod cynta' i ni fod adra i roi cadair bob un wrth ddrws y cefn, ac eistedd efo'r haul yn gynnes ar ein crwyn.

Hyfryd. Diolch am ddyddiau fel'na.

Hen lun o'r mantell paun.
Llun sâl o gacynen ar flodau grug ar y 16eg o Fawrth 2016. Cacynen yr ardd (Bombus hortorium) efallai.

Pry' hofran o deulu'r Eristalis, ar flodyn dant y llew. 16eg Mawrth 2016.