Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.11.14

Crwydro

Dwn 'im lle aeth Tachwedd. Duw a wyr lle'r aeth yr undeg-saith mlynedd dwytha chwaith.

Dwi 'di bod yn rhedeg efo'r ferch hynaf i weld prifysgolion, cyn iddi hi adael y nyth. A dwi wedi manteisio ar gyfleon prin hefyd i ymweld ag ambell le oeddwn i eisiau gweld, tra o'n i wrthi.


Mae'r hydref yn gyfle i gwrdd â chriw coleg bob blwyddyn, ac mi fuon ni'n cerdded darn o lwybr yr arfordir eto eleni. Darn byrrach nag arfer, er mwyn gwylio tîm rygbi Cymru'n colli eto. Cafwyd diwrnod a noson i'r brenin, er gwaethaf y siom yn stadiwm y mileniwm. Eto.

Ta waeth, roedd y tywydd yn sych ar y cyfan; y golygfeydd yn odidog; a'r cwmni'n dda. Amhrisiadwy.

Rhaeadr Cwm Buwch, efo Cei Newydd yn y cefndir.
Dro arall, mynd efo'r teulu i gwrdd â chyfeillion yn Oriel Glyn y Weddw, Llanbedrog, a'r Fechan a finna'n dianc ar hyd y traeth, dringo er mwyn crwydro'r pentir, a rowlio chwerthin wrth ddal ein cotiau'n agored i'r corwynt a cheisio hedfan! Dyddiau difyr.
Mynydd Tir Cwmwd, Llŷn
 
Gardd Eden, Cernyw, uchod ac isod. Anti-cleimacs braidd ar ôl meddwl mynd ers talwm. Adeg anghywir o'r flwyddyn, siwr o fod. 

Dwi ddim yn siwr be ydi gwerth addysgol, na pa mor gynaliadwy yn y tymor hir ydi tyfu coedwig drofannol ar Ynys Prydain, a'r holl egni sydd ei angen i'w chynnal. Y drws nesa i'r biodome POETH, oedd rinc sglefrio rhew, yn defnyddio llwyth o drydan i'w gadw'n OER!    


Ychydig o arddio sydd wedi bod acw trwy Dachwedd, er inni gael nifer o ddyddiau braf.

Dwi wedi codi'r tatws a'r moron olaf heddiw a'u cael i ginio, efo brocoli cynta'r gaeaf a maip a chenin o'r ardd hefyd. Mi fues i'n chwynnu chydig a rhoi'r gwelyau i gysgu dan gardbord tan y gwanwyn.

Cilmeri. Man sy'n dal i'm tynnu yno am y canfed tro. Dwi ddim yn licio gyrru ar yr A470 heb alw yno am ychydig funudau o hel meddyliau a breuddwydio.
Gerddi Plas Tanybwlch wedi bod yn werth ymweliad ar ôl ail-agor hefyd. Mi gawson nhw ddiawl o lanast yng ngwyntoedd Chwefror, a chymryd misoedd i'w glirio.
Mae staff y Parc Cenedlaethol wedi bod yn cadw blog am y gerddi yn fan hyn.