Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.9.12

Yn y mynydd mae'r gerddinen

Mae 'di bod yn flwyddyn ddifrifol am ffrwythau coed yma. O'i gymharu efo'r llynedd, oedd yn flwyddyn ryfeddol. Dwi'n ailadrodd efallai, ond dim ond un afal ddaeth ar y goeden Enlli; dim un ar y croen mochyn; dim un eirinen Ddinbych; a dim ond dyrnaid o geirios.

Yn y gwyllt, mae'r eirin (damsons) gwyllt; eirin tagu; afalau surion; ysgawen; a chnau cyll wedi bod yn reit dlawd. Ond mae un ffrwyth sy'n groes i bob dim arall yn yr ardal hon eleni, sef criafol. Aeron cochion y gerddinen, neu'r goeden griafol. Coeden fynydd, sy'n hardd yn y gwanwyn efo'i blodau, ac yn hardd wedyn, pan mae'n drwm o ffrwythau. Wedi arfer gorfod dygymod a thywydd gwaeth na llawr gwlad, felly bosib fod yr oerfel a rwystrodd beillio coed eraill heb effeithio cymaint arni?

 Deg munud gymrodd i hel dau bwys. Mi faswn wedi medru dod adra efo hanner can pwys taswn i eisio.

 Wedi berwi'r ffrwyth -efo tua hanner pwys o afalau surion wedi eu torri, ar gyfer y pectin- dyma hidlo'r hylif pinc o'r trwyth. Dwi ddim yn un i gymryd sylw o'r cyngor i beidio gwasgu rhag gwneud y jeli'n gymylog. Gwneud hwn i'w fwyta ydw i; ddim i'w arddangos, felly pan mae'n ddigon oer, dwi'n gwasgu a godro pob diferyn ohono! Mae yn werth prynu bagiau mwslin da, ond dwi ddim isio gwario ar declynnau crand i hongian y bag aballu. Dim ond bachyn o dan gadair sydd angen!


Union litr ges i y tro 'ma, felly ychwanegu 800g o siwgr, a berwi'n ffyrnig am ddeg munud. Saith o botiau bach yn hen ddigon inni gael rhai yn y cwpwrdd a rhai i'w rhannu.

Tydi o ddim yn stwff i'w fwyta ar dost, am fod blas braidd yn chwerw arno sy' ddim at dant pawb, ond mae o'n dda efo cig oer a chaws.


 Nid ein bod wedi mynd heb bethau melys chwaith...
Y Fechan (a'r Pobydd) wedi gwneud cacenna' gri.







A'r Pry' Llyfr wedi arbrofi efo cacenna' bach, a hufen a siocled.







Hyfryd iawn ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog.



 Dyfynnu: 
'Cân y Medd'- Dafydd Iwan ac Ar Log. (Geiriau T. Gwynn Jones)

Yn y mynydd mae'r gerddinen,  yn y mynydd mae'r eithinen,
yng nghwpanau'r grug a hwythau,  haul ac awel dry yn ffrwythau.


28.9.12

Llond y ty o ffa

Dal i fyny efo hen newyddion..

Mi fues i ar y lluarth dydd Sul (bore Sul sych o'r diwedd!) yn clirio'r coed pys, oedd wedi mynd i edrych yn hyll a bler. Doedd neb ond fi ar y rhandiroedd eto...pawb arall yn capal mae'n rhaid.
Mi ges i gnwd golew o bys eto, er bod y rhan fwyaf wedi mynd yn glapia mawr, felly mi wnes i gawl efo nhw. Ddim yn anturus iawn efallai, ond diawl, mae pawb i weld yn ei fwynhau, a dyna sy'n bwysig.  Mi wnes i roi moronen a sibols o'r ardd ynddo hefyd, yn ogystal a'r pods ifanc a dail newydd olaf y planhigion cyn eu tynnu. Chwalu'r cwbl (heblaw’r foronen) wedyn yn y blendar a hidlo'r hylif yn ôl i'r grochan, gan wthio cymaint a fedrwn trwy'r gogor mân.

Roedd hi’n sych yn ddigon hir y diwrnod hwnnw i mi fedru gwneud dipyn o waith yn y rhandir, yr ardd gefn a’r tŷ. Mi fues i’n hel llwyth o ffa melyn hefyd, ac yn rhannu’r gwaith o dynnu’r ffa o’r podiau efo’r genod, tra oedd y Pobydd yn brysur yn paentio’r Lle Molchi. Ar ôl berwi’r ffa yn gyflym -850g ohonyn nhw - a’u hoeri wedyn, mi rois i nhw yn y rhewgell, i’w mwynhau am wythnosau i ddod! Mae o leiaf hynny i’w hel eto fesul dipyn a’u bwyta’n ffresh, neu eu rhewi eto.
 Mae'r ffa dringo yn dwad rwan hefyd: yr ail heuad ydi'r rhain, ar ol colli pob un o'r rhai cynta i falwod ac oerfel. Y ffa hwyr yn golygu osgoi glut o ffa melyn a ffa dringo efo'u gilydd.


Lindys yn ymuno efo'r rhestr hir o bethau sy'n trio bwyta stwff o mlaen i!

Mafon yn dal i ddod, a finna wedi disgwyl gorfod aros tan y flwyddyn nesa cyn cael cnwd. Y rhain yn fwy na'r ffrwythau gawn ni ar y llwyni yn yr ardd gefn.

Sylfaen y cwt cymunedol, wedi'i drefnu gan Y Dref Werdd. Ddim yn siwr -yn niffyg unrhyw gyfathrebu gan bwyllgor y rhandiroedd ers misoedd- ba ddefnydd gawn ni'r deiliaid wneud, o ran cadw offer aballu ynddo, ond un o'i brif fanteision fydd hel dwr ar gyfer y safle.

Ges i gyfle i chwynnu a chlirio yn yr ardd gefn hefyd. Tocio’r coed llus mawr, tocio’r budleia a’r crocosmia, tynnu blodau marw, a chodi moron i de.

Diwrnod prysur, ond diwrnod wrth fy modd.


Mi wnes i waith chydig mwy macho na gwneud cawl hefyd! Llifio a hollti mwy o goed tan, gan ein bod wedi cynnau'r tan ambell i noson bellach.
Y Moelwyn (Mawr) yn gwisgo'i gap: golygfa gyffredin iawn eleni! Copaon Moel yr Hydd (i'r dde), Craig Ysgafn, a'r Moelwyn Bach yn y golwg -o drwch blewyn.





23.9.12

Bara beunyddiol

Mae'n gas gen i fara archfarchnad. Os ydw i'n snob am rywbeth; bara ydi hwnnw. Roedd yn ddiwrnod du i mi pan gauodd siop fara'r teulu Bloor yn Stiniog, ac mae gen i hiraeth o hyd am y torthau amrywiol oedd ar gael yno.


Mae'r Pobydd yn gwneud bara cartra yn weddol reolaidd, ac eisiau datblygu'r diddordeb ymhellach, felly mi fuo'r ddau ohono' ni ar gwrs pobi bara y penwythnos dwytha'! Peth dosbarth canol iawn i'w wneud, dwi'n gwbod, ond roedd yn werth bob eiliad o ymdrech i gyrraedd Dinas Powys, sefyll ar ein traed am wyth awr yn cymysgu a thylino, a gyrru adra wedyn am dair awr ac ugain munud.
Gwaith reit galed ond pleserus iawn. Diolch i Geraint a'i amynedd, mi gawson ni bobi bara efo gwahanol does eples neu pre-ferment, a dod adra efo helfa dda iawn. Mae defnyddio eples neu surdoes (sourdough) yn cynhyrchu bara efo blas dyfnach ac sy'n haws i'r corff ei dreulio, na'r burum sych a chemegau a ddefnyddir mewn ffatrioedd. Mi wnaethon ni foccacia efo nionod a thomatos a feta i ginio hefyd, yn ogystal a byns cyrins a byns cnau-a-siocled!


Un o fy hoff lyfrau ydi 'Tomos o Enlli' gan Jennie Jones, a dwi'n dychwelyd yn aml at ddisgrifiadau Tomos Jones o'i fam yn pobi bara ar yr ynys. Dywed sut oedd yr ynyswyr yn pobi 'bara wedi ei godi hefo burum cartref', 'dyna ichwi fara, bois bach, bara gwerth ei fwyta'.

Trwy gyd-ddigwyddiad, roedden ni wedi gaddo trip i Ynys Enlli fel anrheg penblwydd i dad y Pobydd eleni, ac er fod hynny 'nol ym mis Ebrill, chawson ni ddim mynd tan ddoe. Dyna be oedd dewis lwcus o ddiwrnod, gan i'r haul wenu arnom ni drwy'r dydd.



Môr a mynydd. Cychwyn am adra: cafn Enlli y tu ôl i ni, 
a’r Moelwynion o’n blaen –y mynyddoedd pellaf 
ynghanol y llun.
Dwi wedi bod i Enlli dair gwaith rwan, a taswn i'n foi crefyddol, mi fyswn yn fodlon efo tair pererindod, gan fod hynny gystal bob tamad a mynd i Rufain i edrach am y Pab medden nhw!


Mi fues i yno am wythnos ugain mlynedd yn ol, yn gwneud gwaith gwirfoddol i ymddiriedolaeth yr ynys, yn tyllu, sgwrio, paentio, a thrwsio, efo Gwydion y warden. Mi ddysgis i lawer am be sy'n bwysig yn y byd yr wythnos honno, gan sgwrsio yng ngolau cannwyll gyda'r nos, a mwynhau cwrw cartra Gwydion, heb drydan na theledu i dynnu'r sylw. "Yn y rhannu ma'r plesar 'sti" medda fo wrth imi drio gwrthod gwydriad arall o'i gwrw prin. Ia, gwir y gair.


Tydi o ddim yno bellach, ac mae'r bedair awr a hanner a gewch chi yno ar drip dydd, yn sobor o annigonol, ond roedden nhw'n oriau hyfryd serch hynny. Anodd curo brechdan ar greigiau Porth Nant, a'r tir mawr mor agos, ond y Swnt yn corddi'n fygythiol rhyngtho a'r ynys. Cerdded wedyn hyd yr arfordir a gloynod byw a gwenyn yn gwmni inni,
fel tasen nhw -fel ninnau- yn amau mai dyma'r cyfle olaf i fwynhau'r haul, ar ddiwedd haf na fu.

Nid gwaith medal aur yr artist Elfyn Lewis, ond celf naturiol cerrig a chen arfordir Enlli.

16.9.12

Baneri a beics

Dydd Glyndwr hapus i chi! Neu yr orig sy'n weddill ohono beth bynnag.
Mae wedi bod yn ddiwrnod difrifol yma, ac heb wella trwy'r dydd. felly does gen i ddim byd i'w adrodd o'r ardd na'r rhandir!
Typical! Mi fues ar antur am ddeuddydd, ac felly'n gobeithio cael diwrnod sych heddiw er mwyn dal i fyny, ond doedd yna'r un ffordd oeddwn am fynd allan i chwynnu yn y dilyw.
Un o'r pethau dwi isio'u gwneud cyn marw ydi (trio) beicio i fyny un o ddringfeydd enwog y Tour de Ffrainc, ond fel sawl peth arall mae'r freuddwyd gwrach yna ar y silff rhag ofn y bydd angen miloedd o bunnau arna'i i yrru'r genod 'ma i'r coleg..
Mi welis i gymal ola'r Tour fel mae'n digwydd bod ar y Champs Elysees ym Mharis ym 1992. Asiffeta: ugain mlynedd yn ol... mama mia! Dwi'n deud "gweld", ond mi fuon ni'n sefyll mewn torf enfawr, dair rhes i mewn o ymyl y ffordd, am dair awr, dim ond i weld haid o feicwyr yn gwibio heibio mewn tair eiliad!

Ta waeth, o'n i'n teithio i Ddinas Powys dydd Gwener, ac roedd o'n gyfle da i wylio'r Tour of Prydain ar y Bannau. Wrth gyrraedd am hanner dydd -dwy awr cyn oedd y ras i fod i gyrraedd- roedden ni'n gobeithio medru parcio gyferbyn a'r Storey Arms i weld y llinell 'King of the Mountains', ond roedd fanno'n llawn o bobl ers naw y bore yn ol y son, felly roedd yn rhaid bodloni ar safle tua hanner ffordd i fyny'r allt i aros am y Cymro Luke Rowe, a thim Gwlad y Basg, efo panad a phicnic.

Doedd gan ddringwyr Euskaltel Euskadi fawr o ddiddordeb cystadlu'r diwrnod hwnnw am ryw reswm, ond roedd o'n brofiad gwych 'run fath, yn fy atgoffa o wylio'r 'Milk Race' ar y Migneint efo Dad pan oedden ni'n blant.








Brenin y mynydd Kristian House yn arwain ar y Bannau. Yn y diwedd, ail yng nghystadleuaeth y dringwyr oedd Pablo Urtasun o Euskadi.






Beth bynnag, does gan hyn i gyd ddim byd i'w wneud efo tyfu bwyd, felly mi roi'r gorau i fwydro am rwan, a'ch gadael efo llun o rywbeth soniais amdano ddiwedd Gorffennaf. Dim ond unwaith bob dwy neu dair blynedd fyddai'n mentro i Ikea, felly dwi'n edrych ymlaen i fwynhau'r rhain eto.
Mi sonia'i am ail ddiwrnod yr antur y tro nesa fydd y plant yn gadael i mi fynd ar y cyfrifiadur!
diod a jam llus coch



9.9.12

Cas bethau, hoff bethau; rhif 3

Cas bethau
Mae'r planhigion mefus wrthi'n gwneud eu gorau glas i gynhyrchu ail gnwd o ffrwythau (wel, dwi'n deud ail gnwd, ond chydig iawn gawson ni o'r mefus cynta, a hynny am yr un rheswm a'r cas beth gynta..)


Lladron! Mae bob diawl o bob dim yn cystadlu efo fi am y mefus acw. Dim angen mynd i fanylion am slygs nagoes. Go brin fod gan y rheiny neb sy'n fodlon eu hamddiffyn. Adar; llygod; morgrug; pryfid lludw: maen nhw i gyd wrthi, liw-nos, yn gwledda ac yn chwerthin ar 'y mhen i. Ffernols bach. Ond dyma sy'n torri nghalon: mae'r nadroedd miltroed (millipede) wrthi hefyd, finna wedi meddwl eu bod yn bethau digon del a dymunol! Bradwrs. Mi welwch chi un i mewn yn y fefusen uchod, efo slygsan!


Ffenel ydi'r peth nesa dwi wedi digio efo! Dwi'n siwr 'mod i wedi son wrth ddechrau blogio, fy mod i am roi un cynnig arall arnyn' nhw. Ond och a gwae, mae'r diawlad i gyd wedi rhedeg eto. Mae'r egni wedi mynd ar gynhyrchu coesyn i flodeuo, yn hytrach nag ar dwchu wrth eu bonion.
Dwi yn euog weithia', mae'n rhaid cyfadda', o beidio dyfrio'n gyson ar yr adegau gwyrthiol hynny pan mae'n sych am ddyddiau, ond eleni does na'm posib mai sychder sydd wedi achosi hyn.. wfft i ffenel felly!



Yn amlach na pheidio, yn yr adran 'hoff beth' fysa Byw yn yr Ardd (heblaw am y darnau gosod blodau, ac yn enwedig pennod giami y tusw jiwbili -ych, damia hi). Methu dallt ydw i pam eu bod wedi rhedeg repeats dros yr wythnosau dwytha. Yng ngeiriau'r cwmni cynhyrchu 'Cyfres arbennig o raglenni yn edrych yn ol ar uchafbwyntiau'. Pa! Ailbobiad rhad, pan fo digon o bethau yn mynd ymlaen yn y gerddi. Twt lol. Biti hefyd fod y gyfres Aeleg 'Anns a garradh' ar BBC Alba, wedi gorffen ynghanol y tymor garddio.

Cyfra i ddeg Wilias.. daw haul ar fryn...

Hoff bethau
Hwre. Daeth yr haul ar fryn eto! Mae'r ardd wedi bod yn berwi efo gwenyn a phryfed hofran o'r diwedd. Mi ges i gyfle i ddal i fyny efo llwyth o jobsys oedd angen eu gwneud. Ond yn bwysicach na dim, mi gawson ni gyfle i eistedd yn yr haul, efo panad, neu efo potel o gwrw oer, yn mwynhau'r lle. Un o'r pethau ges i wneud y penwythnos yma o'r diwedd, oedd llifio twmpath bach o goed oedd acw, a dechrau cael trefn ar y coed tan cyn y gaeaf. Mae'n freuddwyd gen' i -breuddwyd gwrach 'falle- i fedru rhentu neu brynu darn o dir er mwyn tyfu coed helyg a chyll, ar gyfer coed tan fysa'n ail-dyfu, a chael eu torri eto drachefn, yn eu tro, mewn cylch.



Mae gweld tas o goed wedi eu hollti a'u cadw'n barod at y gaea' yn un o bleserau rhyfedd bywyd.

'Ta dim ond fi 'dio?!



Cyllell Nain ydi hon. Dyma beth oeddwn i eisau pan farwodd hi bymtheg mlynedd yn ol. Roedd hi'n rhoi menyn, a thorri'r tafelli teneua posib o fara efo hon, gan ddal y dorth ar ei ffedog, a thynnu'r gyllell tuag ati. Mae'r gyllell mewn defnydd dyddiol o hyd, yn gwneud tuniau bwyd yn y boreua, a llawer mwy.


Rhestr hir o bethau eraill sy'n plesio:
Wrth y gwely: 'Afallon'. Robat Gruffydd. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Dwi wedi anwybyddu ffuglen yn llwyr ers misoedd. Wedi cael cryn flas ar hon, ond ambell i beth yn taro'n anhebygol, ond dwi'n dal i droi'r tudalennau. Hefyd 'The Bee Garden'. Little, M. Sut i ddenu gwenyn i'r ardd; -ar gymeradwyaeth Ann Jones, cofi ym Milton Keynes, ar ei blog ddifyr Ailddysgu (dolen ar y dde).
Ar yr iPod: 'Llwybrau Gwyn'. Casgliad llawn Tecwyn Ifan. Amhrisiadwy.
'Draw Dros y Mynydd'. Cowbois Rhos Botwnnog. Glaw; Ceffylau ar D'rannau; Cyn iddi fynd rhy hwyr: cant-y-cant hyfryd bob un. Edrych ymlaen am y daith hydrefol efo Georgia Ruth a'r Gentle Good.
Podlediad 'Ar y Marc': rhy gynnar i wrando arno ar fore Sadwrn, ond yn dal i fyny ar y ffordd i'r gwaith ar fore Llun. Doniol a difyr.   Podlediad 'Best of Nature', rhaglenni bywyd gwyllt, Radio 4.
Ar y radio: 'Geraint Lovgreen ar Enw'r Gan'. Holi cyfansoddwyr caneuon am gefndir eu geiriau. Holi call; dim hunan-longyfarch ymysg lyfis.
Ar y bocs: 'The Newsroom'. Drama arbennig arall gan HBO.
'La Vuelta '12'. Uchafbwyntiau dyddiol o'r ras feicio galed yn Sbaen, a'r cymal ola' wedi bod heddiw. ITV4 yn ardderchog i seiclwyr ar hyn o bryd, efo 'The Cycle Show', ac uchafbwyntiau'r 'Tour of Prydain' yn dechrau heno hefyd. Atgofion difyr iawn o wylio'r hen 'Milk Race' ar y Migneint efo 'Nhad. Sefyllfa drist ydi methu enwi rhaglen Gymraeg yn fan hyn. Edrych ymlaen am ambell beth sy'n dychwelyd yn yr hydref, ond ar hyn o bryd, does 'na ddim byd yn plesio.
Ar y plat: ffa melyn efo pob peth!