Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

15.6.13

Blodau brith

Rydan ni newydd ddod adra o berfformiad y Theatr Genedlaethol o 'Blodyn' trwy strydoedd Stiniog.

Dyma mae gwefan ThGC yn ddweud:

"Cynhyrchiad cymunedol proffesiynol gan drigolion Blaenau Ffestiniog a Talysarn.


Fersiwn unigryw, modern a pherthnasol o chwedl ‘Blodeuwedd’ yw Blodyn. Cynhyrchiad theatr promenad wedi ei gyd-greu gan wirfoddolwyr o’r cymunedau ac arebingion mewn actio, dawns, canu, celf, ffilm a llawer mwy."

Un o'r prif gymeriadau, Ger, (Dyfrig Evans) yn ei dweud hi am y biwrocrats a gauodd 'Sbyty Goffa 'Stiniog!

Argian, mae'n amlwg bod llawer iawn o waith wedi mynd ymlaen ers diwedd Ebrill, felly llongyfarchiadau i bawb gymrodd ran. Ar ol tywallt y glaw am awr dda cyn i'r sioe ddechrau, mi giliodd y glaw, diolch i'r drefn! Mi gychwynodd popeth yn aelwyd yr Urdd Stiniog, cyn i hanner y dorf ddilyn Ger, ar gefn ei lori waith, a'r hanner arall ddilyn Blodyn. Dwi'n meddwl fod y ddau griw wedi ymuno erbyn cyrraedd neuadd Ysgol y Moelwyn, gan fod y ddau brif gymeriad yn dod yn ddau gariad yno, cyn i Ger glywed fod gan Blodyn gariad -Llion- a hwnnw isio cwffio!












Roedd y Fechan wedi mwynhau'r cyffro o symud o le i le, a Ger yn annog pawb i gyd-ganu "Blaena' -Blaena', ni di'r gora'" wrth inni fynd! Roedd yn brofiad arbennig wir, ac ro'n i'n llawn balchder ei fod yn digwydd yn ein milltir sgwar ni. Dwi'n siwr fod pobl Talysarn wedi cael yr un wefr neithiwr ac echnos hefyd. Bydd y perfformiad ola' nos 'fory (Sul, 16 Meh).


Os oes rhaid cwyno, braidd yn anodd oedd hi i ddilyn y stori weithiau, gan nad oedd yn hawdd clywed y cymeriadau'n gwaeddi dros y dorf, ac i fod yn onest, roedd sgript Ger ar adegau'n mynd yn rhy bell o lawer i gyfeiriad siarad stryd. Gor-wneud y braitiaith; ydyn siwr mae rhai pobl ifanc yn dweud 'waviwch' yn lle 'codwch law', a 'judgio' yn lle 'beirniadu', ond uffarn da^n, does neb mor ddrwg a'i bortread o chwaith! Ond dyna be sy'n digwydd os ydi'r cwmni yn annog y plant lleol i gyfrannu at y cynhyrchu efallai? 

Ta waeth, roedd y diweddglo yn wych, gyda'r cast a'r dorf yn ymuno i ganu 'Anthem Blodyn'. Gallwn wylio a gwrando ar yr ymarfer yn fan hyn:



Y mis nesa, bydd y Theatr Genedlaethol ym Mro Ffestiniog eto, y tro hwn ar safle Tomen y Mur, Maentwrog Uchaf, safle tybiedig Mur Castell yn y Mabinogi, efo drama Saunders Lewis, Blodeuwedd. Mae 'na edrych ymlaen yn arw at hynny hefyd. Diolch i Arwel Gruffydd am ddod a ThGC  i fro ei febyd ddwy waith.




Sioe arall welodd y Pobydd a fi'r wsos yma oedd y comediwr Bill Bailey, yn Llandudno.
Meicro-adolygiad: darnau doniol a chlyfar iawn, ond talpiau hefyd ar gyfer Saeson uniaith sy'n mwynhau chwerthin am ben ieithoedd eraill fel Daneg, Mandarin, a Siapaneeg; yn son am 'our country' ac 'our government' ac ati.  Uchafbwyntiau- dynwarediad ardderchog o bilidowcar gwlyb a blin, a disgrifiad doniol o Alan Titchmarsh: "the cold, dead eyes of a gardener"!!

Mae'r glaw wedi dychwelyd eto rwan: dyma obeithio na fydd efo ni trwy'r haf eto!
Wythnos yn ol, roeddwn i a'r Rybelwr Bach, fy mhartner yfed, allan yn yr ardd tan wedi hanner nos, yn rhoi'r byd yn ei le, dros gwrw oer a chreision. Hei lwc y bydd mwy o nosweithiau felly o'n blaenau.

Gweld bod llyfr newydd Sian James (Tant) yn cynnwys alaw delyn 'Blodau Ffestiniog'. Newydd sbon i mi... gwrandwch ar soundcloud.



Pabis coch wedi blodeuo erbyn hyn ac yn werth u gweld.




Dod at fy nghoed



Pen punt a chynffon dima'
Lelog Califfornia  (Ceonothus)  yn  llawn  blodau  ar  hyn  o  bryd,  ac  yn  drawiadol  o hardd. 
Yn anffodus, dros y blynyddoedd, mae'r llwyn wedi tyfu'n dalach bob blwyddyn, nes fod y blodau'n rhy uchel. O'r ffenest uwchben mae'r olwg orau i'w gael erbyn hyn!

Cwyn arall ydi fod y coesyn yn hir a moel a hyll. Mi sigodd y cwbl llynedd oherwydd y pwysau, ac roeddwn yn gyndyn i'w godi o'r ddaear a'i daflu; dyna pam bod belt oddi ar hen drowsus gwaith yn dal y llwyn yn sownd wrth bostyn i'w gadw ar ei draed!


Mae'r cacwn (bymbl-bis!) wrth eu boddau ymysg y blodau. Daeth y glaw yn ol wsos yma, a disgwyl iddo fynd eto ydan ni gyd rwan..
Mae rhywbeth wedi digwydd ar Blogger yn ddiweddar- am ryw reswm, mae wedi mynd yn amhosib gosod lluniau ar fformat portrait, hynny ydi, yr ochr hiraf ar i fyny, heb iddo ystumio a gwasgu'r llun nes mae o ar fformat landscape. Ymddiheuriadau felly am y llun uchod. Trio cofio peidio troi'r camera fydd y gamp o hyn allan..

Ofergoelion
Mae 'na goeden gelyn yn tyfu ynghanol y gwrych sydd rhwng yr ardd gefn acw, a gardd drws nesa'. Pan symudis i yma, roedd Gwyddel yn byw drws nesa', ac un o'r pethau cynta' ddudodd o oedd 'paid a thorri'r gelynnen, neu bydd melltith a haint arnat ti a dy deulu am byth!'
Dwi'n wyddonydd (mad scientist medda'r plant). Dwi'n ddigon bodlon cerdded o dan ystol, a tydi ddim affliw o ots gen' i pa liw ydi cathod sy'n croesi fy llwybr. Ond! Damia las, mae gen' i ofn y gelynnen yma rwan. Ofn twp ac afresymol, dwi'n gw'bod, ond ofn sydd wedi caniatau i'r goeden dyfu'n fwy na dwi isio iddi dyfu. 

 

Dwi wedi pendroni a thrafod hyn hyd syrffed, ac wedi pwyso a mesur gwyddoniaeth y fath rwtsh. Ers blynyddoedd dwi wedi dod i ryw fath o gyfaddawd yn fy mhen, sef tocio brig y goeden a'i chadw hi'n goeden siapus wedyn. Ond hyd yma: mae hi'n dal yn gyfa'!
Ta waeth, coeden wrywaidd sydd acw, felly tydan ni ddim yn cael aeron yn y gaeaf. 
Mae'n blodeuo bob blwyddyn, ac eleni daeth mwy nac erioed o flodau, felly mae'n cael maddeuant eto dros dro... ond mae'n hen bryd imi gallio a dod at fy nghoed neu mi fydd yn dwyn yr ychydig haul a gawn i gyd.

Er cof am dderwen Pontfadog
Mi ges i gyfle i ymweld a'r dderwen anhygoel hon bum mlynedd yn ol. Mae digon wedi'i ddeud amdani ers iddi ddisgyn fis Ebrill (ee. ar Morfablog) felly wna'i ddim traethu.

Derwen Pontfadog, Ionawr 2008
Digon ydi deud fod rhywun yn teimlo hanes yng nghwmni coeden mor hynafol. Teimlo presenoldeb Owain Gwynedd, a phoblogaeth uniaith Gymraeg gorffennol Dyffryn Ceiriog. Ond hefyd, teimlo tristwch llethol bod cyn lleied o goed Cymru wedi cael byw i oed parchus cyn eu torri at ddibenion dyn..






9.6.13

Blas mwy

Wilias ydw i, a dwi'n gaeth i riwbob!

Mae o mor hawdd i'w dyfu tydi. Does dim angen gwneud dim byd, heblaw roi 'chydig o wrtaith ar wyneb y pridd cyn y gwanwyn, ac mae'n dod a chnwd dda bob blwyddyn.


A dwi isio mwy. 


Mae tri planhigyn yma. Un yn ddarn o wraidd gan fy nhad; un yn ddarn o wraidd gan ffrind yn y gwaith; ac un a brynais y llynedd. 

Iawn, yn fotanegol, llysieuyn ydi rhiwbob, ddim ffrwyth, ond wfft i'r chefs posh 'ma sy'n paldaruo fod o'n mynd yn dda efo mecryll aballu: pwdin dwi isio siwr iawn!


A jam! Wnes i erioed jam rhiwbob o'r blaen, am nad ydw i'n cadw digon ohono wrth bobi crymbls a stiws ac ati mae'n siwr, ac am bod pot yn dod yn flynyddol gan Nain a Taid Rhiwbach. Ond roedd mwy na'r arfer o gnwd eleni felly dyma roi cynnig arni.

Mae o'n ddiawledig o anodd i'w gael i setio heb ychwanegu pectin medden nhw (doedd dim un o siopau Stiniog yn gwerthu siwgr efo pectic a doeddwn i ddim am wneud siwrna arbennig), felly mi rois sudd lemon ynddo i drio. Fedrwn i ddim yn fy myw a chael y gymysgedd i gyrraedd y 104 gradd angenrheidiol, ac mi ferwis i o'n galed am ddwywaith yr amser oedd y llyfrau'n awgrymu, er mwyn ei gael i setio'n weddol.


Dew, mae o'n dda. Mor dda fel 'mod i'n fwy cyndyn na'r arfer i rannu potiau efo'r teulu estynedig, ond yn y rhannu mae llawer o'r pleser yn de (damia!), felly allan o 4 pwys o riwbob, mae un pot pwys ar y bwrdd, a thri arall yn y cwpwrdd.

Mi gawson ni grymbl hefyd; ac efo coesau pinc neis o riwbob ddaeth yn gynharach o ardd Nain a Taid Cae Clyd, stiw hyfryd i fynd efo hufen ia a iogwrt.


Mae un cnwd bychan i'w hel eto mae'n siwr, ond joban bwysig heddiw oedd torri'r blodyn oedd wedi tyfu ar un o'r planhigion. Welais i erioed flodyn ar un o'r blaen, ac er fod J.E.Jones (Llyfr Garddio. 1969) yn ein cynghori i docio blodau 'yn y bo^n y cyfle cyntaf',  dwi wedi gadael iddo ddatblygu er mwyn cael ei weld. Roedd y Fechan wrth ei bodd ei fod o'n dalach na hi, ac roedd y blodau bach yn drawiadol o hardd wrth edrych yn fanwl. Ond roedd yn rhaid ei dorri cyn iddo ddwyn gormod o egni a maeth o'r gwraidd.


Hen dro fod y tymor rhiwbob mor fyr, ond dioch i'r drefn am jam a rhewgelloedd!

5.6.13

Ag un cam mae dechrau taith

Efo'r ddwy hynaf yn eu harddegau, mae'n anoddach erbyn hyn eu llusgo allan am dro efo'u rhieni! Ond erbyn diwedd yr wythnos o wyliau hanner tymor, mi fu'n rhaid i'r genod adael y nofel/ipod/teledu er mwyn dod efo fi i'r rhandir i weld be oedd yn mynd ymlaen.


Dim llawer! Felly dyma ddal y bws clipa bach i gaffi Mari, bwyta hufen ia ar lan Llyn Tangrish, a bownsio cerrig ar y dwr. Er styfnigo yn erbyn 'mynd-am-dro', rhowch ddarn o laswellt i ferched ac mi dreulian nhw (ia, iawn, a fi hefyd..) oriau yn creu cadwyni efo blodau llygad y dydd, a rhedeg ar ol gloynod byw. Maen nhw weithiau yn cyfaddef eu bod nhw wedi cael hwyl hefyd!


Wrth inni gerdded 'nol adra heibio Dolrhedyn a thrwy Tanygrisiau, gan lolian a sgwrsio, roedd yn anodd osgoi'r teimlad nad oes llawer o hafau ar ol cyn eu bod wedi gadael y nyth a dechrau'r daith i weld y byd. Dyna bwysigrwydd treulio amser efo nhw rwan a mwynhau'r presennol. Mae gweld dy blant yn magu annibynniaeth yn destun balchder, a 'chydig bach o dristwch fel eu gilydd tydi.

Ddeuddydd yn ddiweddarach, mi fuon ni i gyd, gan gynnwys y Pobydd y tro 'ma, am dro at y Rhaeadr Fawr yng ngwarchodfa natur Coedydd Aber. Lle arbennig iawn, er bod gormod o bobl wedi mynd yno i wagio'u cwn. Mi gawson ni bicnic yn yr haul wrth droed y rhaeadr, ac mi dreuliodd y fechan a fi oes yn croesi cerrig yr afon, a dringo creigiau.

Mwynhau lemoned cartra a chacenni da yn yr Hen Felin yn Abergwyngregyn wedyn cyn troi am adra. Blasus iawn.





Gwaetha'r modd, mae gwyliau wastad yn rhy fyr, a daeth yn amser i bawb ddychwelyd i'r gwaith a'r ysgol, ond o leia' mae'n braf yr wythnos hon, a digon o amser i fwynhau cwmni'n gilydd yn yr ardd cyn i'r haul suddo tu ol i Graig Nyth y Gigfran.




(Wedi sylwi bod y llun yma'n aneglur uchod, felly dyma'i roi eto, gan fod y geiriau'n werth eu darllen ac yn berthnasol iawn i lawer o be dwi'n son amdanynt.)