Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

17.2.16

Dilyn trwyn

Tra bod ambell flodyn yn deffro'n ara' deg a fesul dipyn yn yr ardd 'cw -eirlys; blodyn gwynt; clustiau eliffant; llysiau'r sgyfaint, ac ati- mae un llwyn yn cael mwy o sylw na phopeth arall.


Union dair blynedd yn ôl (fwy neu lai) planwyd llwyn bocs y gaeaf -Sarcoccoca- wrth ddrws y tŷ gwydr. Bob mis Chwefror ers hynny, mae'r blodau bychain, rhyfedd yr olwg, wedi llenwi'r aer efo oglau melys, hyfryd, sy'n ddigon i dynnu diogyn o glydwch y tŷ, trwy smwclaw Stiniog, i wneud rhywbeth yn yr ardd, ar ôl misoedd gwlyb a diflas. 

Braf fyddai cael digon o le i blannu amrywiaeth o lwyni i gael ogla' da trwy'r flwyddyn, ond o leia bydd mwy a mwy o blanhigion yn deffro rwan... aiff y ffrwd yn nant, a'r nant yn afon, nes bydd yr ardd yn fôr o liw eto. Cael tywydd i'w mwynhau hi fydd y gamp.

Rhai o flodau Chwefror

6.2.16

Lwc owt Medwyn Williams

Ar ôl hwyl cystadleuaeth blodyn haul y llynedd, cytunwyd i dyfu moron hir yn 2016.

Cafodd y ddau Daid a finna hadau yn y cracyr nadolig eto, ac mae hen edrych ymlaen am gystadlu brwd a hwyliog.

Er mwyn cadw trefn ar y Teidiau, ac i osgoi unrhyw alwadau am ymchwiliad cyhoeddus i'r canlyniad, bu'r Fechan a finna'n rhoi 'chydig o reolau ar bapur.


Dwi ddim yn disgwyl medru tyfu dim byd i safon Sioe Traws, heb son am safon medalau aur Medwyn Williams yn Chelsea, ond os gawn ni 'chydig o hwyl, dyna sydd bwysica' 'nde.

Be' am i chithau dyfu rhai o'ch moron chi yn ôl y rheolau yma hefyd, a gadael i ni wybod ar (neu ar ôl) y 3ydd o Fedi sut hwyl gawsoch chi....?

Hadau moron San Valerio ydyn nhw gan gwmni Franchi. Moron hir, mawr yn ôl y broliant ar y pacad, i'w hau rywbryd rhwng Mawrth a Gorffennaf, er mwyn cynaeafu o Fehefin hyd Dachwedd.