Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

29.1.15

Tywydd lobsgows

Ai lobsgows ydi fersiwn y gaeaf o'r barbaciw? Mae dynion yn aml iawn yn cael eu cyhuddo o beidio cyfrannu at ddyletswyddau coginio'r teulu, heblaw am gynnig byrgyrs a selsig amheus yn yr ardd ar ddyddiau poeth yn yr haf.

Yn y gaeaf, ydi lobsgows yn rhywbeth gweddol macho i'w goginio? Mae o'n rhywbeth hawdd i'w wneud tydi, a ddim yn ormod o dreth ar feddyliau syml dynion! Pario llysiau; eu torri a'u taflu mewn sosban efo 'chydig o gig a stoc a llond dwrn o lentils coch. Be sy' haws? Pryd poeth am ddyddiau.

Daeth yr eira heddiw. Tywydd lobsgows.

Erbyn i mi gyrraedd 'nôl o 'ngwaith, doedd gan Dafydd y cigydd lleol ddim cig oen ar ôl, cymaint oedd y galw heddiw am gynhwysion cawl hen ffasiwn. Ta waeth, mae cig eidion yn gwneud y tro, felly cafwyd llond crochan o botas poeth blasus.




Ond y newyddion gorau ydi bod digon ar ôl at fory, ac mae lobsgows wastad yn fwy blasus y diwrnod ar ôl ei goginio.

Be ydi trefn lobsgows eich tŷ chi: pwy ydi'r cogydd? Cig oen ta cig eidion, ynta' lobsgows llysieuol (lobsgows troednoeth fel ddywedir ar lafar yma)? Bara menyn ta bara ceirch? Caws? pupur gwyn ta du? Mmmm, wedi meddwl, efallai na fydd dim ar ôl at fory wedi'r cwbwl!




Llun uchod o daflen 'Diwylliant Ymysg Diwydiant. Dathlu treftadaeth Blaenau ar y stryd', sef y daflen sy'n egluro'r dywediadau ac idiomau sydd wedi eu naddu ym mhalmentydd Stiniog.