Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

22.7.16

"Gwneis gymmysgdail i fy lawnt"

Nid pawb sy'n gwirioni 'run fath.
Lawnt anniddorol iawn ydi un berffaith os 'da chi'n gofyn i mi.

Na, dwi'n gwbod bo' chi ddim yn gofyn, ond pwy sydd isio treulio amser yn torri glaswellt yn rheolaidd? A chribinio; a fforchio; ac ychwanegu tywod bras; a dyfrio; a gwrteithio; a lladd chwyn a lladd mwsog; a dilyn streips hirsyth caeth?

Mae 'garddio ar gyfer bywyd gwyllt' yn rhoi rhwydd hynt i rywun ddiogi rhywfaint, ond yn sgîl diffyg sylw i lawnt, daw cyfoeth o liw a chreaduriaid, ac mae hynny'n ddigon da i mi.


y feddyges las
meillion gwyn
maglys du
Yn ogystal â'r uchod, mae blodyn menyn, dant y llew, a geraniums, mantell Fair, mefus gwyllt, ac oregano yn ein lawnt ddail cymysg ni.

O, ac ambell weiryn hefyd!


---------------------
Pennawd "Gwneis gymmysgdail i fy lawnt": William Owen Pughe, 1800 (cyf. Geiriadur Prifysgol Cymru)


20.7.16

'Nôl i Lanarthne

Fel hen ystrydeb, dwi'n teimlo 'chydig bach fel gyrrwr tacsi y dyddia' yma. Ond mae 'na fanteision weithia'.

Wrth i'r Arlunydd orffen ei blwyddyn gynta yng Nghaerdydd, roedd rhaid i rywun fynd i lawr i'w nôl hi, a chario llond car o sgidia', clustoga', a brwshys paent adra. Felly, er nad ydi Llanarthne nunlla agos i'r A470, mi es i i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol 'ar y ffordd' i lawr.

Dwi wedi bod yn feirniadol o'r Ardd yn y gorffennol, yn bennaf am eu diffyg parch i iaith Shir Gâr a Chymru. Erbyn hyn, mae'r wefan, fwy neu lai, yn ddwyieithog (ond ddim yn berffaith o bell ffordd), a phrif weithredwr newydd yn ei le, yn gaddo denu mwy o bobl leol ac ymwelwyr o Gymru.

Ac mae digon o angen hynny. Roedd y lle yn wag!


Biti 'mod i ar ben fy hun, ond mi ges i ddiwrnod wrth fy modd yno, yn crwydro dow-dow.


Doedd y camera ddim gen i ar y diwrnod, 'mond y ffôn, felly ches i ddim lluniau da o blanhigion.

Yr ardd gerrig ydi fo hoff ran i o'r gerddi.


Dwi isio i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol lwyddo. Mae cenedl aeddfed angen pob math o sefydliadau. Ac mae sefydliadau angen cefnogwyr. Felly dwi wedi ymaelodi. Ond bydd yn rhaid i'r lle gadw'n berthnasol i Gymro bach cyffredin fel fi.


Ew, dwi isio gardd furiog! Ga'i un Dolig plîs Mrs Wilias? Oherwydd mae'n hawdd iawn i ymweliad â gardd furiog rhywun arall dorri calon garddwr drama fel fi, efo coed tomatos a phys pêr a ffa ac ati sy'n pathetig o fach a tua mis ar ei hôl hi mewn cymhariaeth!

Peth mawr 'di cenfigen 'de...


Tua tair awr ydi'r daith o Stiniog i Lanarthne, felly go brin y caf fynd yn rheolaidd, ond dwi'n sicr yn edrych ymlaen i fynd eto.

Rwan ta, be o'n i ar ganol ei wneud? O ia, nôl y ferch o Gaerdydd...


19.7.16

Un o eiliadau gorau'r flwyddyn

Codi'r tatws cynnar cyntaf...


Angen dim byd ond berwi a bwyta efo menyn Cymreig hallt.
Nefoedd.


10.7.16

Saga'r Eirin

Ar ôl i dywydd gwael diwedd Ebrill roi diwedd ar flodau'r eirin Dinbych a thorri nghalon i 'run pryd, daeth syrpreis braf, wrth i'r goeden ddatblygu ail genhedlaeth o flodau yn ystod haul diwedd Mai.


Ac yn groes i'r disgwyl, mi fues i'n gwylio eirin -ein eirin cyntaf yn y byd- yn cnapio, tyfu, twchu...

-wedyn disgyn! Fesul un.
Felly dyna ni. Blwyddyn arall heb eirin. Ma' isio blydi 'mynadd!

Mae'r goeden afal Enlli wedi methu eleni hefyd.
Dim ond ar un ochr o'r espalier ddaeth unrhyw flodau eto fel y llynedd, i fy atgoffa y dyliwn i fod wedi cael gwared arni ers talwm, a phlannu rhywbeth arall yn ei lle. Difrodwyd y gwreiddiau'n arw wrth iddi ddisgyn yn y gwynt yn 2012, a tydi hi heb ddod ati'i hun o gwbl ers hynny.


Mae gwendid y goeden wedi bod yn wahoddiad agored i filiwn o bryfaid gwyrdd a morgrug, i gyrlio pob deilen a rhwbio halen i'r briw. Bydd hon wedi mynd erbyn y gaeaf.

Ar y llaw arall, mi gawson ni dunelli o riwbob, ac mae cnwd da o gyrins duon a chyrins coch wrthi'n aeddfedu rwan.



















Mae addewid am fwy nag arfer o geirios.


 Mefus bach alpaidd blasus i'w hel wrth eu cannoedd eto, ac eto. Y mafon yn dda hyd yma hefyd.

Ond y ffrwyth dwi'n edrych ymlaen ato fwy na dim, ydi mwyar y gorllewin, thimbleberry. Mae'n blanhigyn deniadol a'r blodau'n hardd iawn hefyd. Bysa hyn yn ddigon i'r llwyni dalu am eu lle, ond os ydi'r mwyar yn flasus hefyd, gorau'n byd. Hir yw pob aros am haul yn Stiniog!




Dim pys merllys ydyn nhw

Ar ôl methiant llwyr y llynedd, roedd yr asparagus peas yn tyfu'n dda eleni, a ninnau'n edrych ymlaen i drïo rwbath gwahanol; ond mae rhywbeth bach yn poeni pawb...


Yn ôl bob dim dwi'n weld ar y we, nid planhigyn sy'n dringo ydi pys merllys.
Mi oedd ein planhigion ni yn dringo.

pys 'merllys' yn dringo'n braf ar y dde, yn y tŷ gwydr

Roedd y blodau i fod yn goch.
Er yn hardd iawn, nid coch ydi'n blodau ni.


Mae'r pods i fod yn adeiniog a ffrili.
Mae'n pods ni'n debyg iawn i bys cyffredin.


Maen nhw i fod i flasu fel asbaragws.
Tydyn nhw ddim.

Yyymmmm. Rhaid derbyn felly mae rhyw fath o bys cyffredin ydyn nhw! Ar ôl hynna'i gyd. #Siom.

Ta waeth; mae o leia' 2 fideo ar youtube sy'n dweud bod pys merllys yn blasu'n uffernol, a dwi heb weld neb -heblaw'r cwmnïau hadau- yn eu canmol nhw!

Ydych chi wedi eu tyfu nhw erioed? Be oeddach chi'n feddwl?