Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

5.9.24

Gwybodaeth ydi’r trysor pwysicaf!

"Gwybodaeth ydi’r trysor pwysicaf!" -Dyna ddywed Bil Jones, sy’n arwain y cloddio archeolegol ar safle Llys Dorfil yng Nghwmbowydd, pan soniodd rhywun mor braf fysa darganfod trysor ar y safle!

Ar ôl bwlch yn y cloddio yn 2023, mae mor braf cael ail-afael ynddi eleni, a’r criw o wirfoddolwyr lleol yn croesi bysedd bob wythnos y bydd Dydd Llun, Dydd Iau, a Dydd Gwener yn sych, er mwyn cael teithio i waelod y cwm, tynnu’r tarpolin glas yn ôl, a bwrw iddi eto efo’n tryweli bychain a’n brwsh a rhaw. 

Crafu canrifoedd o bridd a mawn, fesul haen yn ofalus, nes datgelu sylfeini adeiladau neu feddi posib. Y gobaith ydi ychwanegu at y cyfoeth o wybodaeth sydd eisoes wedi ei hel am y safle aml-gyfnod arbennig hwn. 

Cloddio yn Llys Dorfil, a thref y Blaenau yn y cefndir

Wrth gwrs, yn ddistaw bach, mae pawb yn breuddwydio am ganfod blaen saeth sy’n filoedd o flynyddoedd oed, neu geiniog arian o oes y tywysogion efallai. Nid am eu gwerth ariannol cofiwch, ond am eu gwerth fel tystiolaeth am weithgaredd y safle yn y gorffennol. Pawb yn awyddus i gyfrannu at ddysgu mwy am hanes ein bro.

Ein hanes ni sy’n cael ei ddatgelu yn Llys Dorfil; bywydau pobol Bro Ffestiniog fu yma o’n blaen ni. A’r gwaith yn gyfan gwbl yng ngofal pobl leol: enghraifft arall, fel gwelwn yn aml iawn ym Mro Stiniog -efo Antur Stiniog, Cwmni Bro, Seren, ac ati- o’r gymuned arbennig hon yn mynd ati i wneud rhywbeth dros ei hun, yn hytrach nag aros am gymorth gan y sir, neu lywodraeth neu asiantaeth o’r tu allan!  

Pleser llwyr ydi cael bod yn rhan o griw diwyd a difyr Cymdeithas Archeolegol Bro Ffestiniog. Mae tynnu coes a rhoi’r byd yn ei le yn rhan bwysig o’r gwaith, ac mae llawer iawn o hwyl i’w gael yno, y cwbl yn digwydd yn naturiol Gymraeg. Dim ond un diwrnod yr wythnos ydw i’n medru ymuno, ond mae nifer yn mynd dair gwaith yr wythnos os ydi’r tywydd yn caniatâu. 

Ar ddydd Gwener olaf Mehefin, roeddwn i a Dafydd yn archwilio beddi posib, hanner ganllath o’r prif safle; Alan yn torri tywyrch ar leoliad newydd a chwilio efo’r metal detector; Rhian, Linda, a Buddug yn datgelu waliau a llawr yr adeilad diweddaraf, a Bil a Mary yn cloddio a rhannu eu hamser yn cynghori a gofalu bod pawb yn iawn ac edrych yn fanwl a thrafod canfyddiadau posib. 

Er ei bod wedi ryw bigo bwrw’n achlysurol trwy’r dydd, roedd pawb yn falch o fod wedi cyfrannu at ddiwrnod o waith difyr eto. Ond fel dywed Dafydd, sydd ei hun wedi rhoi cannoedd o oriau o waith gwirfoddol yno dros y blynyddoedd, tydi gwaith Bil a Mary ddim yn gorffen pan rown y tarpolin yn ei ôl dros yr olion. Maen nhw wedyn yn didoli’r canfyddiadau, eu harchwilio ymhellach, cofnodi’r eitemau’n fanwl, gyrru samplau i ffwrdd ar gyfer eu dyddio, ac ysgrifennu adroddiadau ar y gwaith.
Diolch iddyn nhw a’r criw i gyd am eu hymroddiad. Am wella ein dealltwriaeth o’n gorffennol yn y cilcyn hwn o ddaear.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024 Llafar Bro

29.8.24

Dilyn Afon

Pa le gwell i ddianc oddi wrth yr holl ymwelwyr gŵyl banc na’r Migneint! Ardal enfawr o waundir agored, gwyllt. Lle anial, di-liw, a pheryglus yn ôl rhai, ond tirlun arbennig efo chwedlau gwych a natur rhyfeddol i’m llygaid i!

Ehangder mawr agored Y Migneint; edrych tua Llyn Conwy

Chwilio oeddwn i y tro hwn am darddiad pellaf y dŵr sy’n llifo tua’r gorllewin i Afon Dwyryd, a’r môr ar arfordir gorllewin Cymru. Yr hyn dwi’n obeithio ei wneud yn y pendraw ydi dilyn y dŵr hwnnw o’i darddiad i’r aber. Egin brosiect, heb unrhyw bwrpas mawr gwyddonol nac athronyddol, heblaw rhoi difyrrwch a boddhad i mi! Syniad sydd wedi bod yn troelli yn fy mhen ers darllen ‘Rivers of Wales’ gan Jim Perrin ddwy flynedd yn ôl, yn benodol ei bennod am afonydd Cynfal, Dwyryd a Glaslyn. Syniad sydd -tan rwan- ddim ond wedi ei fyw a’i ddilyn ar fap ar fwrdd y gegin, neu o bell trwy ffenest y car wrth deithio dros y mynydd i Benmachno neu’r Bala!

O be wela’ i, mae llond llaw o lecynnau posib yn y gystadleuaeth ddychmygol hon, ar nentydd uchaf Afon Cynfal (mi ddof yn ôl rywbryd eto efallai at yr afonydd niferus eraill sy’n bwydo’r Ddwyryd): mae blaen pellaf Nant y Pistyll-gwyn, ac un o ganghennau’r Afon Gam yn dechrau -yn ôl mapiau’r Arolwg Ordnans o leiaf- dros y ffin yn sir Conwy. Dyna sy’n codi’r rhain i’r dosbarth cyntaf o ran diddordeb a blaenoriaeth. Mae’r ail yn fwy difyr fyth gan fod pen pellaf Afon Gam o fewn tafliad carreg o ben uchaf Nant yr Ŵyn (hynny ydi, os medrwch daflu carreg 250 metr... sy’n anhebygol iawn i fod yn onest, gan mae dim ond 121m ydi’r record yn ôl llyfr mawr Guiness am sgleintio neu sgimio carreg ar ddŵr. Ond dwi’n siwr eich bod yn deall be sydd gen’ i!). Mae Nant yr Ŵyn yn llifo i’r cyfeiriad arall, i’r dwyrain i Afon Serw, yna Afon Conwy, sy’n llifo wrth gwrs i arfordir y gogledd! 

Ymhellach i’r de, yr ochr draw i Lyn y Dywarchen, mae Nant y Groes, ddim yn bell o’r man lle mae plwyfi Stiniog, Maentwrog ac Eidda yn cwrdd. Mae hynny’n ychwanegu at apêl mynd i fanno hefyd i edrych am hen gerrig terfyn. O groesi’r B4391 wedyn, mi ddowch at y chwaer-nentydd Afon Goch ac Afon Las. Y rhain ydi’r uchaf o’r llednentydd, o gwmpas y 510m, ond yn sicr yn yr ail ddosbarth o ran pellter dwi’n tybio.

 

Edrych tuag at Craig Goch Gamallt. Hyd yn oed llefydd anghysbell ddim yn rhydd o felltith y sbriws...

Mi lwyddais i ddarganfod tarddiad Nant y Pistyll-gwyn, sydd heb os yn sir Conwy, trwy gerdded ar draws y rhos a thrwy’r gors i gyfeiriad Craig Goch Gamallt am rhyw hanner milltir o Ffynnon Eidda, safle hen dafarn Tŷ Newydd y Mynydd, a tharddle arall i Afon Conwy. Gweld lle mae’r dŵr yn llifo yn yr agored cyntaf ydi’r nod. Mae’r dŵr dan yr wyneb ymhellach na hynny hefyd. 

Ond fel bob tro -ac mae’n ddihareb yn ein teulu ni- mi ddenodd pethau eraill fy sylw hefyd! Toreth o lus coch er enghraifft (cowberry, Vaccinium vitis-idea); llawer mwy o ffrwythau na welais i ers talwm iawn. Trueni nad oedd hen dwb hufen ia gen’ i er mwyn hel rhywfaint; ond mae jam lingonberry (enw arall ar y ffrwyth) yn un o’r unig bethau sy’n ei gwneud yn werth ymweld â’r siopau dodrefn mawr glas-a-melyn Swedaidd yna, yn fy marn i! Roedd y llus coch yn tyfu ochr-yn-ochr â choed llus (bilberry, Vaccinium myrtillus) ac wrth gwrs, mi fues i’n pigo a bwyta’r rheiny wrth fynd gan eu bod yn felysach na’u cefndryd cochion, ac hefyd yn tyfu yno oedd creiglus (crowberry, Empetrum nigrum) er nad oedd ffrwythau ar y rhain.

Llus cochion

Tra’n chwilio’n hir am aelod arall o deulu’r llus, sef llugaeron (cranberry, Vaccinium oxycoccos) er mwyn cwblhau’r bedwarawd, daeth ambell ddiferyn o law i wneud i mi edrych i fyny a sylwi fod niwl enwog y Migneint yn dechrau hel. Pingiodd y ffôn i rybuddio am fatri isel yn fuan wedyn, a’r peth doeth i’w wneud oedd anelu’n ôl am y car ac adra am banad. Mi gewch glywed am anturiaethau’r Migneint ac Uwchafon gyda lwc yn Yr Herald Cymraeg dros y misoedd nesa!
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),29ain Awst 2024 (dan y bennawd 'Dilyn Cwrs Afon')

8.8.24

Mae mistar ar fistar Mostyn medden nhw

Rai blynyddoedd yn ôl roeddwn wedi trefnu cael cwmni i dowlyd coed llarwydd (larch) ar gyrion un o warchodfeydd de Meirionnydd, er mwyn adfer coedwig dderw ar y safle. Cwmni arbenigol oedd hwn, yn llifio’r coed efo llaw a thynnu’r bonion allan efo ceffyl, er mwyn creu cyn lleied o lanast a phosib ar lawr y goedwig ac i fedru gweithio ar lethr serth. Roedden nhw wedyn yn llifio’r coed ar felin symudol -yn y fan a’r lle- a’r styllod newydd yn cael eu gosod fel cladin ar waliau estyniad newydd i adeilad ugain llath i ffwrdd.

Pleser pur oedd gwylio’r cob hardd a’i pherchennog yn gweithio, y ddau’n deall eu gilydd i’r dim, a boddhaol oedd gwella cyflwr y goedwig dderw, tra hefyd yn cael defnydd cynaliadwy o’r llarwydd a dorrwyd. Anodd cael deunyddiau mwy lleol na hynny ar gyfer joban adeiladu!

Cwmni arall oedd yn gweithio ar yr estyniad; criw hwyliog o adeiladwyr cydnerth a gwydn, ond un pnawn yn gwbl ddi-rybudd rhedodd un ohonyn nhw i ffwrdd gan floeddio a rhegi er digrifwch a dryswch i bawb arall... Roedd o wedi dod wyneb yn wyneb â phryf oedd wedi ei ddenu yno gan yr oglau coed wedi eu llifio, ac ar ôl i mi orffen chwerthin, mi eglurais wrtho nad oedd y creadur yn beryglus iddo fo, er mor ddychrynllyd ei olwg!


Mae dau enw ar hwn yn Saesneg: giant wood wasp ydi’r mwyaf cyffredin ohonyn nhw dwi’n meddwl, a Geiriadur yr Academi yn cynnig ‘cacynen y coed’. Ond nid wasp mohono, er fod y melyn a’r du yn amlwg iawn arno, nid yw’n gacynen o unrhyw fath. Un o deulu’r llifbryfed (sawflies) ydi o mewn gwirionedd ac mae ‘Llyfr Natur Iolo’ (Iolo Williams a Bethan Wyn Jones, 2007) yn cynnig llifbryf mawr y goedwig, neu corngynffon, fel enwau gwell o lawer. Greater horntail ydi’r ail enw yn yr iaith fain ar y pryfyn trawiadol yma. A hwythau dros fodfedd o hyd, a’r lliwiau’n fygythiol, does ryfedd fod gan bobl eu hofn nhw, yn enwedig o sylwi a’r y ‘corn’ sydd ar y gynffon hefyd! Mae’r prif lun yn dangos un benywaidd, ac mae ganddi hi ail bigyn ar ei thin, sy’n hirach ac yn edrych yn beryclach fyth!

Wyddodydd (ovipositor) ydi hwn, sef pigyn efo dannedd mân (sy’n rhoi’r llif yn enw’r teulu) er mwyn drilio a dodwy wyau mewn pren. Bydd y larfa yn cnoi twnneli trwy’r pren am ddwy flynedd a mwy cyn deor yn oedolyn ei hun i ail-ddechrau’r cylch rhyfeddol.

Er mor ddiniwed ydi’r corngynffon felly, roedd ei olwg yn ddigon i yrru’r adeiladwr druan ar ffo! Ond, mae mistar ar fistar Mostyn ‘ndoes... Tydi larfau’r llifbryf mawr ddim bob tro yn cyrraedd pen eu taith, gan fod pryfyn arall dychrynllyd yr olwg yn eu hela. 


Y tro hwn, wasp ydi hi. Yn yr ail lun mae cledd-gacynen neu sabre wasp. Un o’r cacwn ‘ichneumon’ neu gacwn parasitig -yn wir y mwyaf ohonyn nhw yng ngwledydd Prydain- ac er fod hon eto’n gwbl ddiniwed i bobl, mae ei chylch bywyd tipyn mwy arswydus. Mi welwch ei maint hi ar fy mawd i yn y llun- mae corff hon dros fodfedd o hyd hefyd, ond efo’r wyddodydd hir, mae’r fenyw yn mesur dwy fodfedd drawiadol iawn! Gall y gledd-gacynen arogli larfa corngynffon yn ddwfn yn y pren, ac mae’n tyllu twll newydd a gwthio’i wyddodydd hir i lawr i’r twnnal i ddodwy ŵy ar y larfa druan. 

Bydd cynrhonyn y gledd-gacynen wedyn yn bwyta larfa’r corngynffon o’r tu mewn, gan adael yr organau allweddol tan y diwedd er mwyn cadw ei fwyd yn fyw mor hir a phosib! 

Cofiwch, gall larfa cledd-gacynen fod yn damaid blasus i gnocell yn ei thro hefyd, a dyna sut mae’r byd yn troi. Tydi natur yn rhyfeddol? 

Coedwig gonwydd ydi cynefin naturiol y ddau bryf rhyfeddol yma, ond gallwch ddenu creaduriaid hardd fel y rhain trwy adael twmpathau o goed yn eich gardd ar gyfer bywyd gwyllt. Ewch ati os oes lle gennych.
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),8fed Awst 2024 (dan y bennawd 'Pryfed Arswydus')

 

18.7.24

Cyfri' Glöynnod

Oes yna unrhyw beth yn well na rhannu eich diddordebau efo rhywun brwdfrydig tybed? Tydi fy nghroen i ddim digon trwchus i fod yn athro, ond mae’n hyfryd cael cyfle i rannu ychydig o wybodaeth o dro i dro on’d ydi. 

Mae ein merch ‘fengaf adra rhwng tymhorau prifysgol ar hyn o bryd a syndod braf yr wythnos dwytha oedd ei bod hi eisiau gwybod enwau glöynnod byw. A ninnau’n cael haf difrifol arall o ran y tywydd, doedd ei hamseru hi ddim yn arbennig o dda, ond feiddiwn i ddim taflu gormod o ddŵr oer ar ei huchelgais newydd! Trwy ryfedd wyrth roedd yn ddiwrnod sych (er nad yn arbennig o heulog, a’r tymheredd yn bendant ddim yn addawol) felly mi aethom ni am dro dros ginio i un o’r dolydd lleol.

Roedd yn amlwg wrth gyrraedd na fyddai’n rhestr ni yn un hir, a’r cymylau’n hel a bygwth glaw eto fyth. Ond roedd yn amlwg hefyd nad oedd ein siwrna’n wag. Uwchben y glaswellt hir oedd pedwar neu bump o löynnod duon, yn hedfan yn herciog ac aflonydd, yn ymddangos yn gyndyn iawn i lanio, felly mi aeth y fyfyrwraig ati’n syth i redeg ar eu hôl dan chwerthin, a chwifio rhwyd i geisio dal un. Doniol oedd yr olygfa am gyfnod, wrth iddi fethu pob ymgais, nes llwyddo a dathlu’n groch!

Rhoi’r glöyn wedyn yn ofalus mewn pot clir er mwyn cael archwilio. Gweirlöyn y glaw (ringlet, Aphantopus hyperantus) ydi’r glöyn ‘du’ yma; enw addas iawn, gan ei fod yn un o’r glöynnod sydd ar yr adain pan nad oes haul ac yn hedfan mewn glaw ysgafn hefyd, ei liw -brown tywyll mewn gwirionedd- yn cynhesu’n gynt na glöynnod gwynion mae’n debyg. Mae elfen ‘gweirlöyn’ ei enw’n disgrifio ei hoff gynefin, sef glaswelltir, a’i lindys yn bwyta gweiriau amrywiol. Cyfeirio at y cylchoedd ar ei adenydd mae’r enw Saesneg, ringlet, a’r rhain yn fwyaf amlwg o dan ei adenydd pan mae’n gorffwys, neu’n glanio ar flodyn ysgall neu fwyar duon i fwydo ar y neithdar.

Ar ôl rhyddhau’r pili-pala cyntaf yma, i ffwrdd â ni efo’r rhwyd eto yn awchus i ddysgu mwy! Glöyn arall sy’n rhannu’r cynefin yma, a’r gallu i hedfan pan nad yw’r haul yn tywynnu, ydi gweirlöyn y ddôl (meadow brown, Maniola jurtina), ac mi ddaliwyd un o’r rheiny ymhen hir a hwyr. Tynnu llun, astudio, trafod; ac yna rhyddhau’r creadur i fwrw ymlaen efo’i fywyd heb fwy o ymyrraeth. A ninnau yn ôl at ein gwaith a’n paneidiau aballu. Gobeithio cawn fynd eto!

Does gen i fawr o ddiddordeb mewn tennis. Ond dwi’n mwynhau bythefnos Wimbledon am fy mod yn cael darllen gyda’r nos heb deimlo’n anghymdeithasol, gan fod aelodau eraill y teulu’n dilyn y gemau yn ddyddiol. Un o’r llyfrau gafodd sylw oedd ‘Silent Earth’ gan Dave Goulson, sy’n gofnod brawychus iawn o’r dirywiad a fu yn amrywiaeth a niferoedd pryfetach o bob math, a’r cynefinoedd y maen nhw’n ddibynnu arnynt. Mae’r ystadegau yn wirioneddol ddychrynllyd, ond fel mae is-deitl y llyfr ‘Averting the insect apocalypse’ yn awgrymu, nid newyddion drwg yn unig sydd ganddo, gan fod chwarter ola’r llyfr yn rhannu syniadau ymarferol ar sut fedr llywodraethau ac asiantaethau ac unigolion fel chi a fi newid trywydd y byd ac anelu am ddyfodol gwyrddach, glanach a gwell! 

Hyd yma, bu’n flwyddyn sobor o sâl am löynnod byw, ac mae tywydd Meirionnydd yn parhau’n siomedig wrth i’r ysgrif yma fynd i’r wasg, ninnau bellach ynghanol Cyfrifiad Mawr y Glöynnod, neu’r ‘Big Butterfly Count’ blynyddol. Mae gennym ni hyd at ddydd Sul, 4ydd Awst i gymryd rhan yn yr arolwg pwysig yma.

Ewch i wefan butterfly-conservation.org i lawrlwytho taflen adnabod -yn Gymraeg, Saesneg, neu Gaeleg, a’r cwbl sydd angen ei wneud wedyn ydi gobeithio am diwrnod digon braf a dewis lleoliad i eistedd am chwarter awr yn nodi pa löynnod welwch chi, a’u niferoedd. Gallwch wneud hyn yn eich gardd, mewn parc, mewn cae, neu ar ben mynydd os hoffech. Yn wir, mae croeso i bawb wneud mwy nag un safle. Rhoi’r wybodaeth i’r wefan (neu ap ar y ffôn) a dyna ni, byddech chi wedi cyfrannu at ymchwil hir-dymor gwerthfawr iawn. Croeswn ein bysedd am haul rwan!
- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),18fed Gorffennaf 2024

27.6.24

Adar o’r unlliw...

Os ydw i’n onest, wnes i ddim talu sylw i’r adar to a’r piod a’r titws mawr yn y parc; mae digon o’r rheiny adra! Gobeithio gweld adar gwahanol ydw i, felly i be’ a’i i wastraffu fy amser ar bethau mor gyffredin?

Rydw i yn Seoul, prifddinas De Corea, lle mae un o’n merched ni’n gweithio, ac wedi edrych ymlaen at gael blas ar fywyd gwyllt pen arall y byd. ‘Dwi ddim ond yma am bythefnos a phrin ydi’r cyfle i grwydro ymhell o’r ddinas fawr, felly dim ond blas fydd o.

Ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos yn ddinas ddigon tlawd o ran bywyd gwyllt -a pha ryfedd- mewn metropolis enfawr sy'n ymestyn am filltiroedd i bob cyfeiriad, ac er ei bod wedi tyfu ar lethrau wyth mynydd, mae'n concrete jungle go iawn! Ar y llaw arall, mae'r ddinas yn frith o safleoedd hanesyddol, a’r rhain yn cynnig cyfleoedd da i wylio ychydig o natur.

Ar ôl anwybyddu’r adar cyffredin yn y parciau, mi sylweddolais i un bore fod rhywbeth ddim yn tycio… Mae’r piod yma’n debyg iawn i'n piod ni, ond yn swnio ‘chydig yn wahanol; yn hytrach na’r swn cras rhinciog arferol, maen nhw’n swnio’n debycach i jac-do. Pioden y dwyrain (oriental magpie, Pica serica) ydi hwn, ac o edrych yn fanylach mae’r plu ar ei adenydd a’i gefn yn fwy glas ac yn hardd iawn. 

Dyma aderyn cenedlaethol Corea- un o’r ychydig bethau mae’r gogledd a’r de yn cytuno arno! Mae’n aderyn sy’n dod a lwc, a hwn ydi tylwyth teg y dannedd i blant bach y wlad!

Doedd rhywbeth ddim yn iawn am yr adar to ‘chwaith. Syndod a gwefr oedd sylwi mwya’ sydyn mae golfan y mynydd (tree sparrow, Passer montanus) oedden nhw. Aderyn prin iawn yng Nghymru, ond yn gyffredin yma.

Roedd yn rhaid edrych eto ar y titws mawr wedyn: Er fod ganddynt gân amrywiol iawn adra, roedd canu’r rhain yn wahanol eto ac mae’n debyg mae titw mawr y dwyrain sydd yma (oriental tit, Parus minor).

A dyna ddysgu gwers i mi beidio cymryd pethau cyffredin yn ganiataol!

Mae pyllau lilis dŵr ym mhob un o’r palasau hanesyddol, ac un math o was neidr yn amlwg yma. 

Gwesyn du a gwyn trawiadol: y picellwr brith (pied skimmer, Pseudothemis zonata). 

Gallwn wylio hwn yn patrolio’i filltir sgwâr am oriau, mae bron yn hypnotig, ond yn rhwystredig hefyd nad ydi o’n glanio byth, i mi gael tynnu llun!

Fel arall, tlawd iawn ydi’r casgliad o bryfetach, a’r amrywiaeth glöynnod byw, gwenyn a phryfed hofran yn enwedig o llwm ynghanol Seoul.

Adar bwlbwl clustwinau (brown-eared bulbils, Hypsipetes amaurotis) ydi’r adar eraill sy’n amlwg yn y ddinas, er ein bod wedi gweld ambell gopog (hoopoe, Upupa epops), pioden adeinlas (azure-winged magpie, Cyanopica cyana), a thurtur y dwyrain (eastern turtle dove, Streptopelia orientalis), ac ambell un arall ar y cyrion.  

Ond tomen sbwriel y ddinas ydi’r lle gorau i wylio bywyd gwyllt! I fod yn fanwl gywir, yr hen domen, sydd bellach wedi ei gorchuddio efo pridd a choed, a chynefinoedd blodeuog wedi eu creu ar y plateau llydan. Uwchben Afon Han mae Parc Haneul yn dipyn o baradwys! Efo dolydd blodau lliwgar fel cosmos, pabi coch, a glas yr ŷd (a bresych oddi-tanynt ar gyfer glöynnod gwynion) mae’r lle yn berwi efo pryfaid a gwenyn, cacwn a gweision neidr, ac yn werth yr ymdrech o ddringo elltydd a 425 o risiau i gyrraedd yma!


Er bod golygfeydd o’r metropolis i bob cyfeiriad, dyma’r unig le lle nad ydi sŵn traffig a choncrid yn teyrnasu! Mae sŵn y gwynt yn chwythu trwy weiriau tal a’r bwlbilod yn parablu wrth hel ffrwythau merys (mulberries); mae cnocell yn drwmio yn y cefndir a chriciedi’n canu grwndi o’r gwair ac o ganghennau’r coed. 

Ac i goroni’r cwbl, roedd gog yno hefyd. Welais i mohono (mae’n ddigon anodd gweld y gog adra tydi!) ond mae llond dwrn o wahanol gogau yma, ac hwn yn sicr efo ‘acen’ wahanol i’w ddeunod, felly pwy a ŵyr pa un oedd o! Fydda’i ddim yn cymryd yn ganiataol fyth eto fod adar o’r unlliw yn hedfan i’r unlle!

- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yng ngholofn Byd Natur Yr Herald Cymraeg (Daily Post),27ain Mehefin 2024

Cerdyn Post o Seoul