Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

30.12.14

Saith Rhyfeddod y Gwyliau

'Na ddywed ddrwg am y flwyddyn
Nes dyfod am ei therfyn',
medden nhw.

Dwi ddim yn hoff o'r drefn yr adeg yma o'r flwyddyn o roi rhaglenni teledu a radio, ac erthyglau papur newydd ac ati, yn edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu. Esgus i ailgylchu hen ddeunydd a chreu rhywbeth rhad. Dim pawb sy'n gwirioni 'run fath...

Yr haul wedi mynd i ochr Croesor y Moelwynion ar ddiwedd diwnod hyfryd. 28ain Rhagfyr 2014
Dwi yn hoffi edrych ymlaen, ar y llaw arall. Dyna pam fod y diwrnod byrraf, yn rhyfeddod rhif 1 i mi. Y dyddiau duon bach wedi mynd a hen edrych ymlaen at y dydd yn ymestyn fesul munud/ddau nes daw'r gwanwyn eto. Wrth gwrs ei bod yn wych cael rhannu brwdfrydedd Nadoligaidd y plant, ond rhyngthoch chi a fi, dwi'n meddwl bod Rhagfyr y 21ain yn ddiwrnod pwysicach i mi na'r 25ain.


Fodca llus. Oriau mân 30 Rhagfyr 2014
Rhif 2. Blas yr haf, ganol gaeaf. Cael mwynhau jam llus ar dôst, fore Dolig, a'r rheiny wedi eu hel ar y mynydd yn haul mis Awst. Wedyn cacan-blât lus gan Mam ar Ŵyl San Steffan, a chrymbl mwyar duon gan y fam-yng-nghyfraith ddeuddydd yn ddiweddarach.

A chael agor y fodca llus o'r diwedd, yng nghwmni ffrindiau a mwynhau pob diferyn a phob munud, ar ôl noson allan yn nhafarn gymunedol Y Pengwern, yn Llan 'Stiniog. (Testun pennod o gyfres ddifyr S4C Straeon Tafarn Dewi Pws yn ddiweddar).


Rhif 3. Dyddiau rhewllyd glas a'r Moelwynion yn wyn dan eira. Dwi'n meddwl 'mod i wedi mwydro sawl gwaith bod yn well gen' i ddyddiau caled braf o wasgedd uchel yn y gaeaf na dyddiau poeth hafaidd. Llawer llai o bobl allan ar y mynyddoedd yn un peth! Patrymau cymleth a hardd ryfeddol mewn barrug a rhew. Ac esgus i chwarae efo botwm macro'r camera. Dod i'r tŷ at y tân ac at baned boeth, efo'r bysedd yn llosgi gan oerfel ar ôl taflu mopins neu yrru sled. A chael ein hatgoffa pa mor hardd ydi'n milltir sgwâr ni.



Rhif 4. Cael cwmpeini'r teulu estynedig, a ffrindiau o bell ac agos. Chwarae gêm, hel clecs, dal i fyny, tynnu coes, a chrwydro ar hyd hen lwybrau.

Clincar o set gan y Candelas. Y Pengwern, 29 Rhagfyr 2014

Rhif 5. Sbarion twrci! Mewn brechdan efo stwffin. Efo sglodion a mae-o'n-neis. Mewn cyri efo pwmpen las sydd wedi bod yn aros ei chyfle i dynnu dŵr i'r dannedd ers yr haf. Mae cnawd melys, oren llachar y pwmpenni crown prince, ganmil gwaith mwy blasus na'r hen bethau croen oren Calan Gaeaf.

Rhif 6. Orig ychwanegol yn y gwely ambell fore, ac anghofio'n llwyr am boenau meddwl gwaith am 'chydig o ddyddiau.

Rhif 7, a mwy. Canu plant; pwdin siocled cartref; cryno ddisgiau Band Arall (Lleuad Borffor), a Candelas (Bodoli'n ddistaw); gloynod byw yn gaeafu yn y cwt coed tân; ffilm 'It's a Wonderful Life' eto; dal trên i Betws am ginio; ysbryd cymunedol 'Stiniog; cwrw Llŷn a chwrw Cader; darllen efo'r Fechan; robin goch yn canu nerth ei ben yn y gelynnen; oglau blodau bocs y gaeaf; diffodd y teledu i chwarae gêm; nosau serog; diferion dŵr ar ddail kale yn sgleinio yn haul y pnawn ar ôl i'r rhew feirioli.

Rhestr rad iawn ar y cyfan. Mae'r pethau gorau mewn bywyd yn bethau nad oes angen hysbysebion pengwins a sêls gwirion i'ch denu i wario cannoedd arnynt, ond calla dawo am bethau masnachol y Nadolig am rwan!

Blwyddyn newydd wych i chi.