Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.7.12

Adnewyddu

Mae'r gwaith ar ail-ddylunio'r stryd fawr yn Stiniog yn dod yn ei flaen yn dda, efo nodweddion trawiadol iawn fel colofnau llechi ac ati.

Gallwch ddilyn hynt y gwaith ar dudalen Gweplyfr, neu ar wefan y siambr fasnach.

Ymysg y dwsinau o ddywediadau lleol a dyfyniadau o gerddi a chaneuon sydd wedi naddu yng ngherrig y palmentydd mae hwn:



Rhwng yr ail-ddatblygu, a'r cynllun llwybrau beicio, sydd eisoes wedi cael canmoliaeth uchel, mae'n gyfnod cyffrous iawn yma yn Stiniog. Mae'r hen dref wedi cael mwy na'i siar o ddirywiad dros y tri degawd d'wytha, ac yn haeddu ychydig o newyddion da.

29.7.12

Pys, Pwll, a Padrig


Mi lwyddais i ddenu’r ddwy fawr i lawr i’r rhandir o’r diwedd... ond dim ond wrth addo pys cynta’r tymor iddynt! 
 
 
Wedi mynd i gyfarfod Gwydion, un o swyddogion y Dref Werdd oeddwn i yno, er mwyn trafod syniadau ar gyfer yr ardal wyllt, ac mi gafodd y genod fynd i hel digon o bys iddyn nhw sglaffio yno, ac i’w cario adra i ginio hefyd.





 
Mi fu’r Fechan lawr at y pwll efo fi i edrych am weision neidr eto, tra oedd y ddwy arall yn aros ddigon pell rhag cael eu hembarasio gan dad yn gwneud pethau sgwâr! Mi fuon nhw'n brysur yn plethu brwyn i wneud basged a phenwisg flodeuog hefyd.
 
Mi welson ni wäell gyffredin oedd newydd ddeor o’i phlisgyn. Dyna gadarnhau dau wahanol fath o was neidr wedi magu yn y pwll yn ei flwyddyn gynta’. Llun digon sâl, oddi ar y ffôn ydi hwn, ond cliciwch arno i weld y pry' yn gafael yn ei blisgyn tra mae'i adenydd yn chwyddo a sychu...



Llongyfarchiadau mawr i Patrick sy'n cadw'r rhandir nesa ond un i mi, ar ddod yn gydradd gynta' yn yr adran 'Gardd Lysiau' yng nghystadleuaeth flynyddol Blaenau yn ei Blodau. 
Trefnir y gystadleuaeth yma ar y cyd gan bwyllgor Blaenau yn ei Blodau, a chynllun y Dref Werdd (Cymunedau'n Gyntaf).
Rhandir ffrwythlon Padrig
Mae rhandir Patrick yn werth ei weld. Y fo heb os sydd wedi gweithio caletaf, a’i blot yn llawn i’r ymylon o lysiau. Mae’n bleser treulio deg munud yn sgwrsio efo fo yno, ac mae o’n hael iawn efo’i hadau, felly’n enillydd haeddiannol iawn. (Y tri llun gan Y Dref Werdd; llawer mwy ganddynt ar Gweplyfr)

Dafydd a Marian Cae Clyd oedd yn gydradd gynta’ efo Patrick, a’u gardd nhw’n enghraifft wych o sut i arddio ar safle serth, a chael y mwyaf allan o’r lle sydd ar gael.

27.7.12

Crwydro


Mi gymrais ddiwrnod off ddechrau'r wythnos, ac ar ôl blino aros i’r haul ddod allan, mi aeth y Fechan a finne i grwydro ganol y pnawn. Penderfynu aros yn y tŷ i ddarlunio a darllen wnaeth y ddwy fawr eto. 

Wrth ddilyn ein trwynau mi aethom ni mor bell â phen ucha’ Cwm Teigl, un o gorneli hyfrytaf plwy’ Stiniog, ac edrych drosodd at chwarel Rhiwbach ym mhlwy’ Penmachno.
Roedd hi’n pigo bwrw, felly ddaru ni ddim mentro’n rhy bell.


Dyrchafaf fy llygaid...






Galw yn nhŷ Anti Nita wedyn i dorri cangen geirios a chlirio llwyn lelog iddi hi gael rhoi mainc yng ngardd goffa Bobi Twm.

Mi fuon ni’n rhyfeddu at gawr o blanhigyn bysedd y cŵn yno, yn ddwywaith taldra’r Fechan!







Erbyn amser cinio Dydd Mercher roedd yr haul wedi cyrraedd -am ryw hyd- ac roeddwn i’n crwydro tir garw’r Rhinogydd. Un o wobrau’r daith galed ar hyd crib Clogwyn Pot oedd cael mwynhau llus cynta’r flwyddyn. 


Gan ‘mod i’n gweithio, ches i ddim hel pwysi ohonynt; dim ond tamaid i aros pryd. 

Galla’i ddim aros rŵan i drefnu helfa dda, a rhoi cynnig ar y grib hel aeron a ges i’n anrheg Dolig. 

Mi roddaf lun o’r teclyn ar y blog ar ôl bod, ac adolygiad o’i lwyddiant wrth hel. Mi gafodd ‘Nhad un mewn da bryd at dymor hel y llynedd ac mi heliodd o gnwd da yn hanner yr amser arferol. Mae unrhyw beth sy’n lleihau cyfle gwybed bach i boeni rhywun yn werth y byd... gawn ni weld.

Ar hyd y daith, mi ges fwynhau mefus gwyllt hefyd. Mi fyswn i wedi gorfod talu crocbris taswn i ym mwyty Portmeirion am y fath ddanteithion! Hyfryd.



Llus coch oedd yr olaf o'r triawd bwytadwy i mi weld y diwrnod hwnnw. Chwerw braidd ydyn nhw i'w bwyta efo bys a bawd, ond mae Ikea yn gwerthu jam digon blasus ohono! Efallai eu bod yn tyfu'n drwch yn Sweden, ond mae nhw'n rhy wasgaredig o lawer ym Meirionnydd i hel digon ohonynt i wneud jam fy hun. Cowberry, neu lingonberry yn yr iaith fain, mae hwn -fel llus (bilberries)- yn perthyn i'r blueberries dwi'n gyfeirio atynt yn y darn dwytha'.











23.7.12

Gwreiddyn bach gan hwn-a-hon...


Efallai ei bod yn amlwg bellach fy mod i'n gwneud fy ngorau glas i gadw gardd heb wario gormod arni! Dwi'n garddio yn ôl yr egwyddor fod y rhelyw o blanhigion yma ‘am eu lles yn fwy na’u llun’, ond yn wahanol i’r ‘Border Bach’ yng ngherdd Crwys, byswn i ddim yn galw'r ardd acw yn 'Eden fach'. Yn sicr yn wahanol i fam y bardd, mae hanner yr hyn dwi'n blannu yn methu!

Llus mawr

Mae’r llus mawr (blueberries) yn dechrau magu lliw rŵan, felly bydd angen eu gwarchod efo rhwyd eto. Doedd y llwyni yma ddim yn gwneud yn dda yng ngardd Nain a Taid, felly mi ddaethon nhw yma i fyw. A dweud y gwir, mi gymrodd ddwy/dair blynedd iddyn nhw ddechrau talu am eu lle. Dwi wedi bod yn rhoi nodwyddau coed conwydd ar wyneb eu gwely, i gynyddu asidedd y pridd, ac mae hynny’n eu plesio. Wrth gwrs, mae’n amhosib curo’r llus gwyllt sy’n tyfu ar y llethrau sy’n amgylchynu Stiniog, ond peidiwch â gofyn lle mae’r cnydau gorau i’w cael; mae hynny’n gyfrinach deuluol!

Mae’r coed mafon sydd yma wedi dod o ardd cyfaill, pan oedd hwnnw’n clirio darn ar gyfer llysiau.
 
Aeron hefinwydden -Amelanchier
Codi’r hefinwydden o goedwig (yn y gwaith), lle mae’n lledaenu o had wnes i, a’i drawsblannu yma. 
Ar ôl blodeuo’n addawol, dim ond llond dwrn o ffrwyth sydd ar hwn hefyd, fel y coed ffrwyth y soniais amdanynt ar yr 22ain. Dwi wedi son sut ddaeth y rhoswydden  yma eisoes. Ddaru ddim un o’r blodau gnapio’n ffrwyth damia nhw –dwi’n cymryd fod y tywydd wedi rhwystro’r peillio.


To'r cwt coed tân ydi hwn, a phopeth arno wedi dod un ai o doriadau gan bobl eraill a mannau eraill yn yr ardd, fel mefus Alpaidd a sedums amrywiol, neu o had blodau gwyllt. 

Mae o’n fwy o do brown yn hytrach na tho gwyrdd, ond denu pryfetach ydi’r prif bwrpas, yn hytrach nag edrych yn ddel. Graean ydi’r prif ddeunydd ar y to, mwy na phridd, ac mae ‘na lympiau mawr o bren yno hefyd i bydru a chynnig cilfachau i greaduriaid.

Mae mefus yn tyfu yn yr hen jwg dŵr yn y cefndir, a phot mesur glaw sydd wrth ei ymyl; mae hwnna wedi bod yn brysur eleni!


 

Y peth pwysica’ sydd ar gael am ddim yma ydi compost. Mae gen i ddau dwmpath- un yn doriadau o’r ardd, a’r llall ar gyfer y deiliach a rhedyn coch fyddai’n hel bob hydref. 

Ar ôl tynnu’r llun yma mi dynnais y dail oddi ar y canghennau afal oeddwn wedi’u torri ddoe. Efallai mai dim ond llond llwy bwdin o ddeilbridd a ddaw o lond bwced o ddail ymhen y flwyddyn, ond mae'n fy nghadw i oddi ar y stryd tydi.


Yn y byd garddio mae ‘nialwch un person yn werthfawr i rywun arall bob tro.