Mi gawson ni ddiwrnod gweddol sych ddoe, a'r joban gafodd flaenoriaeth oedd gosod paneli ffens newydd rhwng yr ardd a drws nesa. Pan brynson ni'r tŷ yma, gwrych privet anferthol oedd ar y terfyn rhwng y ddwy ardd. Yn fylchog oddi tani, yn rhy uchel o lawer, ac yn dwyn o leia’ metr o ymyl yr ardd, roedd yn rhaid iddo fynd! Yn yr ail wanwyn yma, roeddwn wedi gorffen y rhan fwya’ o’r gwaith yn y tŷ, ac yn barod i wneud rhywbeth efo’r gors llawn montbretia allan yn y cefn. Cytunodd C, y cymydog, i fynd i’r afael â’r gwrych efo fi. Cafodd y privet glec, ac mi fuon ni’n chwysu i godi’r gwreiddiau styfnig. Roedden ni wedi cytuno i osod ffens yno o bolion concrit. Wedyn rhoi paneli chwe throedfedd o feather boards rhyngthyn nhw, am eu bod yn rhatach na dim byd arall. Wrth gwrs, mae hynny’n golygu eu bod yn salach na phopeth arall hefyd, ond doedd C a fi ddim isio gwario mwy nag oedd rhaid. Twyllo’n hunain oedd hynny. Pryn rad, pryn eilwaith yn ‘de, felly dyma ni saith mlynedd yn ddiweddarach yn gorfod prynu stwff gwell yn eu lle. Yr unig beth oedd yn cymhlethu’r gwaith oedd y coed a’r tair weiren sydd ar ein hochr ni o’r ffens: lelog Califfornia (Ceonothus) a gwyddfid yn y pen agosa’ i’r tŷ, coeden afal Enlli wedi’i thyfu fel espalier blêr, ceiriosen morello wedi’i thyfu fel ffan, mafon, a rhosyn anhysbys.
Cawodydd gafwyd heddiw, felly mi es i’r rhandir i ymuno yn yr ymdrech i blannu gwrych o amgylch y safle. Pan oeddwn yn blentyn, cors oedd yno, ac roeddem yn hel penabyliaid a genau goeg yno. Ym 1975 roedd yn ffasiwn i ‘dirlunio’ ardaloedd diwydiannol yng Nghymru, ac fe dynnwyd tomen lechi Glan-y-don i lawr, gan lenwi cyfres o gorsydd yn y fro, gan obeithio denu cwmnïau newydd i sefydlu ar y tiroedd newydd. Taenwyd ychydig bridd a gwrtaith ar ben y llechi, ac roedd yna oglau cachu iar neu mochyn cofiadwy iawn yn y dref am gyfnod!
Ta waeth, mae’r olwyn fawr yn troi tydi, ac mae fy sgwaryn i o randir yn ymddangos fel cors eto. ‘Dim ond reis a watercress fedri di dyfu’n fan hyn’, medd un o’r plant ar ein hymweliad cynta’! Mi welwch o’r llun faint o ddŵr sy’n sefyll ar yr wyneb yno.
Dwi wedi prynu cansenni mafon a choed gwsberins, ond dwi wedi digalonni efo’r amodau braidd, a ddim yn fodlon rhoi dim yn y ddaear nes dwi wedi gwneud rhywbeth am y draeniad gwael.
Dwi wedi eu rhoi dros dro felly mewn hen dwbiau plastig porthiant defaid. Felly hefyd ambell i beth arall dwi’n tyfu fel arbrawf, fel gellyg y ddaear (jerusalem artichokes), a rwbath o’r enw oca, perthynas i’n blodyn suran y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron blasus medden’ nhw. Mae’n tyfu mewn pridd sâl (check), mewn ardaloedd glawog (check), ond angen haf hir, di-farrug (damia! Wel, amser a ddengys yn de).
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau