Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

31.5.16

Hanner Tymor

Wel, ches i ddim mynd i Chelsea eto. Ta waeth: dim colled.


Wrth wylio'r gyfres hir o raglenni o "Sioe arddio fwya'r byd...(wedi'i chefnogi gan gyfalafwyr caredig a gwych Em-An-Jii...)" dwi'n sylwi na fyswn i'n mwynhau gwasgu trwy'r miloedd brwdfrydig, a gorfod edrych ar y gerddi drudfawr -ambell un wedi costio chwarter miliwn cofiwch- dros ysgwyddau rhesi o ymwelwyr eraill; bob un wedi talu'n ddrud am docyn, ac am deithio a llety. Ac yn union fel yr eisteddfod, byswn i'n flin gacwn am orfod talu trwy fy nhrwyn am fy mrechdan ciwcymbar a Pimms...











Ar ddiwrnod o wyliau heddiw, a hithau'n ddiwrnod poeth braf, mi es i efo'r Fechan am dro i lawr i Gwmbowydd, pum munud o'r tŷ, a chael amser wrth ein boddau yn crwydro'r coed, edmygu planhigion a gwylio adar. Cyfuniadau gwell nag unrhyw 'show garden' dros dro.


Crwydro wedyn i ben Carreg Defaid, neu 'Ben Banc' fel mae'r plant lleol yn ei alw -erioed am wn i- lle mae'r olygfa orau i'w chael ar gyrion unrhyw dref yn unrhyw le ar wyneb y ddaear anhygoel hwn. Yma hefyd mae un o englynion enwog Hedd Wyn, i gofio un o'r hogia lleol a farwodd yn y rhyfel mawr.




Dio
Ei aberth nid â heibio- ei wyneb annwyl
  Nid â'n ango
Er i'r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o.   Hedd Wyn.*










Diwrnod gwell o lawer na Chelsea unrhyw bryd. A'r cwbl am ddim.

Mae'n hawdd iawn anghofio be sydd ar ein stepan drws, gan weld addewid o rywbeth gwell yn rhywle arall, y man gwyn man draw ystrydebol.



Mi fuon ni wedyn (ar y ffordd i 'nôl un arall o'r genod o'i gwaith) am dro at lan Llyn Tecwyn Isaf, gwta ugain munud i ffwrdd. Dyma safle cyfoethocaf Meirionnydd, os nad Gwynedd, am weision neidr, a chael gwledd o bryfaid lliwgar a blodau a physgod a phenabyliaid ac awyr las.
















Orig o drawsblannu blodau haul a chwynnu ar ôl dod adra, cyn rhoi'r traed i fyny efo diod bach ac ymlacio ar ddiwedd diwrnod arbennig.

Mae'n hanner tymor eto, a finna wedi bwcio 'chydig o ddyddiau o wyliau. Ond, mi allwch fentro bod y rhestr o bethau sydd angen eu gwneud yn yr ardd (ac och-a-gwae: ar y rhandir), yn hirach o lawer na'r oriau sydd ar gael i'w cyflawni!

-------
* Mwy am Deio ar wefan Llafar Bro.


21.5.16

Faint o'r Gloch?

Amser chwynnu!


Mae'n amhosib cadw unrhyw ardd yn glir o ddant y llew am wn i, ond pan mae'r ardd yn ffinio efo ffordd gyngor a'i hymylon yn laswellt llawn clociau hadau, does dim llawer o bwrpas colli cwsg a thynnu gwallt pan mae lluwch o barasiwts blewog yn hedfan dros y ffens i gyfeiriad y borderi a'r gwlau llysiau nagoes..


Ychwanega blant sy'n mwynhau chwthu'r hadau a chyfri' faint o'r gloch 'di, ac mae ar ben ar unrhyw ymgyrch i gadw'r blodyn pi-pi'n gwely allan o'r ardd tydi!


Ond, yn lle rhincian dannedd a swnian am rywbeth arwynebol a dibwys -yr hyn fysa'r Arlunydd, yn ei sarcasm arddeglyd ffraeth yn alw'n broblemau'r gorllewin ("cofia am ryfeloedd a newyn...") -mae'n dda weithiau i ail edrych ar bethau.

Mae dant y llew wedi'r cwbl yn flodyn hardd iawn iawn, ac yn fwyd gwerthfawr i bryfetach ym misoedd Mawrth ac Ebrill, ac mae'r dull o wasgaru hadau yn gampwaith peiriannyddol gwych.


Fel yr aderyn to cyffredin, di-sylw, tasa dant y llew yn brin, bysa pobl yn dod o bell i edrych amdano.
Na, tydi dant y llew neu ddau yn y lawnt ddim yn ddiwedd y byd.
Ohmmmmmmm....