Y cyfnod byr hwnnw rhwng cyffro yr hau a boddhad yr egino; a siom anochel yr haf, lle mae gobaith yn gallu troi yn dorcalon yn sgil ymgyrchoedd ar y cyd rhwng y tywydd a'r malwod a'r llygod a'r lindys!
Mae gweld silffoedd yn llawn o egin-blanhigion yn werth chweil tydi. Rhesi o bethau bach brwdfrydig, bron a thorri eu bolia' isio gael eu traed yn y pridd.
Ffa melyn; ffa dringo; pys; pys per; letys a rocet; blodau haul. Wedi eu hau ar Ebrill y 4ydd. |
Rhywbeth i'w edmygu. Rhywbeth dros dro!
Ta waeth, mae'n rhaid cadw'r ffydd, a dal i gredu... dyna pam 'dan ni'n dal ati wrth gwrs. Y pethau diweddaraf i'w hau dan do ydi ffa piws (Cosse violette), pys melyn/india corn (double standard bicolor), er gwaethaf methiant llwyr y llynedd, aeron goji, pwmpenni gaeaf (Burgess buttercup); ac ambell beth a brynais yn Sioe Arddio Caerdydd fel courgettes du (dark fog), a phwmpenni glas (crown prince). Eto, methiant llwyr oedd pob un pwmpen y llynedd, ond dyfal donc a dyrr y garreg. Ar ffenest y gegin mae'r pys melyn am fod angen 18 gradd o dymheredd i egino. Beryg fod y pwmpenni yr un fath ond does dim lle i bopeth yn y ty.
Mae'r Pobydd wedi prynu dau blanhigyn tomatos. Ar ol cyfres o hafau gwlyb, roeddwn i wedi llyncu mul efo tomatos, a wnes i ddim eu tyfu y llynedd. Roedden nhw'n cael y clwy tatws bob haf (yn y ty gwydr; dim gobaith eu tyfu yn yr awyr agord yma), a'r ymdrech o'u tendio yn llawer mwy na'r wobr bob tro. Beth bynnag, mae Acw am ofalu amdanyn nhw y tro yma, felly mae angen i mi glirio 'chydig o le iddyn nhw a'u plannu ar ei chyfer hi.
Mint (basil mint) ydi'r pot canol. Rhywbeth arall i mi ei ladd!
Dim ond tair britheg (Fritillaria) ddaeth allan eleni. Mae llygod yn hoff iawn o'u bylbiau nhw yma, a bylbiau clychau dulas (Muscari) a dim ond dyrnaid o'r rheiny sydd wedi dod eleni hefyd.
Mae gan Ann lun o goeden gellyg yn llawn blodau ar ei blog Ailddysgu. Argian dwi'n genfigenus! Dim ond dechrau magu dail mae'r ddwy ellygen sydd acw. Y goeden afal Enlli (isod) sydd bellaf yn ei blaen yma.
Erbyn dechrau Gorffennaf y llynedd roeddwn yn amau fod popeth 20 diwrnod yn hwyrach na 2011. Hyd yma eleni, dwi'n meddwl fod pethau tua 14 diwrnod yn hwyrach eto...
Mae'n tywallt y glaw heddiw. Diolch i'r drefn, mi gawsom ni ddiwrnod braf ddoe i groesawu Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd i Stiniog. Mwy o'r hanes ar wefan y papur bro lleol, Llafar Bro.