Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

23.4.17

Mari lygatlas

Seren yr ardd ar hyn o bryd ydi Omphalodes (cherry ingram).

Mae'r lluniau yma braidd yn fflat eu lliw, a delweddau digidol fel hyn ddim yn medru cyfleu harddwch y glesni a symlrwydd hyfryd blodau Mari lygatlas.



Wrth bori mewn siop recordiau ail-law yn ddiweddar, mi welis i sengl Angylion Stanli, Mari Fach, ar werth am ugain punt. Mi es adra'n reit handi er mwyn chwilio am y copi brynais i ym 1981 ar ôl gweld y grŵp yn canu yn neuadd Ysgol y Moelwyn.

Ma-ma-ma-ma-ma-ma-ma-Mari Fach, Fy nghariad annwyl i...


Doedd gen i ddim affliw o ddiddordeb mewn blodau ym 1981, ond dwi'n gwbod yn iawn pa Fari sy'n well gen i erbyn heddiw!



21.4.17

'Nôl i'r gwely

Ddwy flynedd yn ôl mi fues i'n newid coed dau wely yn yr ardd gefn, gan feddwl gwneud dau arall yn 2016. Aeth hi'n ddoe arna'i yn gwneud hynny o'r diwedd.


Roedd coed llus -blueberry- yn y gwely triongl, ond doedden nhw ddim yn hoff o'u lle, felly maen nhw wedi mynd i rywle arall. Mae'r mefus alpaidd bach a'r cenin syfi oedd yno hefyd wedi eu symud.

Yn ogystal â phreniau newydd, mae'r pridd wedi'i adnewyddu yn y triongl hefyd, ac mi es i hel meddyliau am un o glasuron Trigger ar Only Fools & Horses  lle mae o'n canmol fod ei frwsh llawr yn 20 oed.   Er ei fod wedi newid y pen 17 o weithiau a'r goes 14 gwaith, ym meddwl y cymeriad hoffus, yr un brwsh oedd o!

Mae llwyth o dywod yn y gwely yma felly moron a phanas fydd hi eleni.

Y bwriad ydi hau pys a ffa yn y gwely hirsgwar 'newydd' heddiw... felly allan a fi...


Cwbl sydd ei angen rwan ydi 'chydig o haul!

[Y mae'r haf yn hir yn dyfod -adnewyddu'r ddau wely arall]


12.4.17

Fel'na ma' hi; a fel'na bydd hi

Blogiwr achlysurol iawn fues i'n ddiweddar mae gen i ofn.

Mi farwodd hard drive ein cyfrifiadur yn ddirybudd, gan fynd a lluniau a dogfennau a dolenni a chyfrineiriau efo fo. Dwi wedi llyncu mul braidd efo pethau digidol wedyn!

Ond dyma fi, efo gliniadur newydd ar fy nglin, yn mwydro eto. Druan ohonoch...

Cen map
Er ein bod wedi cael nifer o ddyddiau braf yn ddiweddar, mae trefn naturiol y ddaear a lwc mul a rhagluniaeth aballu wedi golygu y bu'n rhaid i mi weithio neu deithio neu wneud unrhyw beth ond garddio yn yr haul. Typical! A heddiw, ar y cyntaf o ychydig ddyddiau o wyliau: mae glaw Stiniog wedi dod fel huddug i botas. Eto. Asiffeta bost.

Ond fel'na ma' hi; a fel'na bydd hi hefyd; nes y gwna'i rwbath amdani, 'nde.

Penabyliaid a henna

Am y tro cynta ers blynyddoedd mi es i ar un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd ddydd Sadwrn  (fy nhad a ffrind oedd yn arwain) gan fwynhau sgwrsio'r aelodau a thrydar carlamus hyfryd ehedydd yn yr awyr las. Mi welis i wennoliaid cynta'r flwyddyn hefyd. Er bod arafwch y cerdded yn drysu 'mhen i ar adegau, mi gawson ni daith hyfryd iawn o safle Rhufeinig a Normanaidd Tomen y Mur, heibio Cynfal Fawr, cartref Huw a Morgan Llwyd o Wynedd, i lawr i Warchodfa Natur Genedlaethol Ceunant Cynfal, ac yn ôl heibio Bryn Saeth a Llech Ronw, gan glywed am gysylltiadau niferus yr ardal efo cainc Blodeuwedd yn y Mabinogi.

Mi ganith y ddwy yma gân Titanic yn rhywle... Llyn Morwynion, o ben Y Drum

Mi ges i ddwyawr braf iawn bnawn Llun ar ôl y gwaith hefyd, yn crwydro ardal Beddau Gwyr Ardudwy a Llyn y Drum, efo dwy o'r genod. Dringo'r creigiau a dal penabyliaid, a chael y wefr o wylio ceiliog tinwen yn erlid carlwm rhwng y cerrig uwchben Merddwr Afon Gamallt a Rhyd yr Halen.

Wrth gwrs, roedd y tri ohono' ni'n rhy araf i ystyn am y camera neu'r ffôn i dynnu llun, ond bydd y cof am greaduriaid gwych mewn lleoliad hudolus yn fy nghynnal trwy'r dyddiau glwyb nes byddaf yn gorfod dychwelyd i ngwaith!