Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

25.6.12

Penblwydd y Pobydd!

Wedi gwneud cerdyn i'r pobydd efo'r llun yma...  rhamantus 'de!




Dail hud-a-lledrith mae'r plant wedi galw mantell y forwyn erioed, oherwydd gallu rhyfeddol y planhigyn i ddal diferion glaw ymysg y blew bach ar wyneb y dail.
Ar yr achlysur yma, roedd diferion wedi cronni i ganol y ddeilen hon, ac wedi ffurfio siap calon. Cyfleus iawn.

Mi fu'r Arlunydd -y ferch hynaf- yn pobi dwy gacen benblwydd; un efo hufen a mefus, a'r llall efo eisin menyn siocled. Blasus iawn.


Wedi bod yn hel yr olaf (gobeithio) o'r larfau llifbryfed oddi ar y coed gwsberins heno. Creaduriaid hardd, ond dwi'n hunanol iawn pan mae'n fater o gwsberins! Edrych ymlaen am ychydig o ffrwyth eleni, ar ol dwy neu dair blynedd hesb.



24.6.12

Carnifal a chiciau cosb

Roedd Carnifal Tanygrisiau heddiw. Es i ddim.
Fel arfer mi allwch chi ddibynnu ar ddau beth yn yr haf. Un ydi fod y Saeson methu’n glir a chicio penaltis mewn cystadleuaeth beldroed.  Y llall ydi ei bod hi’n piso bwrw ar ddiwrnod Carnifal Tangrish. 

Gallwn floeddio haleliwia heddiw am ddau reswm. Roedd y pnawn yn sych, ac mae sêr hunanbwysig Lloegr ar eu ffordd adra... VIVA Italia!

Roedd rhai o'r pethau oedd dal yn y tŷ gwydr yn gwegian o ddiffyg lle a diffyg maeth yn eu potiau, felly mi o’n i’n falch o gael mynd allan ar ôl cinio i’w plannu nhw allan. Aeth rhai i'r ardd gefn, a rhai i’r rhandir. Persli, berwr dŵr, letys y mwynwyr, a gwahanol flodau.
Unwaith eto, daeth y Fechan efo fi i’r rhandir -mae hi mwya’ balch o’i chyfraniad hi fel Garddwr Cynorthwyol!  Cario llechi oedd hi heddiw i’w rhoi ar ymylon ei phwll, tra oeddwn i’n plannu ac yn taro golwg dros y pethau sydd yn y ddaear yn barod.
Mae’r pys yn amlwg yn diodde’ efo’r gwynt yno, a tydi’r india corn/pys melyn heb dyfu dim mewn mis ers eu plannu ar y 26ain o Fai. Digon truenus yr olwg ydi’r pedwar marchysgall hefyd, ond be ddiawl dwi’n ddisgwl, yn trio tyfu planhigyn o’r Med ar ochr mynydd ‘n de?  Dyna sut ddysga’i  be wneith yn dda yno dros y blynyddoedd am wn i. Mae’r tymheredd wedi bod lawr o gwmpas y deg gradd eto yn y boreua felly tydi hynny ddim yn helpu. Mae gen’ i gyfres o luniau o’r ardd gefn y llynedd, sy’n awgrymu fod popeth o leia’ ddeg diwrnod ar ei hôl hi eleni. Mi rannaf ambell un pan gaf gyfle.

Ar ôl dechrau fel jôc fisoedd yn ôl, dwi wedi plannu berwr dŵr yno heddiw. Ambell un ar ymyl y pwll, ac eraill yn y ffosydd. Dwi heb dyfu watercress o’r blaen, felly gawn ni weld sut gymrith o at randir gwlyb!


Rhywbeth arall sy’n gwneud yn dda mewn ardaloedd mynyddig, oer a llaith ydi letys y mwynwr, Claytonia (uchod). Mae'n cael ei enw am fod mwyngloddwyr gogledd America wedi dibynnu arno ar un adeg am fitamin C mae'n debyg. Amser a ddengys ydi’r stwff yn werth ei fwyta, ond o leia’ mae o’n saff o dyfu i mi!

Un peth sy’n sicr, mae’r blwmin glaswellt yn gwneud yn dda iawn yno.
 

Mae rhannau o’r ardd gefn yn edrych yn 
dda rŵan, ond mae peryg i ni golli’r gorau 
o’r lliw am fod y tywydd mor uffernol o sâl. 

Mae mwy o babi coch nag erioed o’r blaen, ond maen nhw’n cael eu pannu gan y glaw di-baid, ac yn edrych yn ddigon bler.


Ta waeth, mae canlyniad y peldroed wedi codi ‘nghalon i heno, ac mae’r byd yn teimlo’n le gwell o lawer yn barod!















17.6.12

Hidlo gwybed

Astrantia major Moulin Rouge
Diwrnod sych o’r diwedd. Ond roedd yn Sul y Tadau yn ’d oedd, felly rhwng cael fy sbwylio gan y genod, a galw efo cerdyn i nhad innau, wnes i ddim byd yn yr ardd tan yn hwyr yn y bore. O, mam bach, mae ‘na gant-a-mil o bethau i’w gwneud...lle mae dechrau?

Roeddwn yn ysu i gael torri’r glaswellt ers tro, felly dyna fu raid wneud yn gynta. Roedd angen hefyd strimio llain yn y cae o dan derfyn isa’r ardd. Dwi wedi cael caniatâd i wneud hyn bob haf gan y ffarmwr sydd bia’r cae. Mae’r tir hwnnw wedi bod dan ddau gynllun amgylcheddol  (Tir Cymen gynta, wedyn Tir Gofal) ers ugain mlynedd i greu coedwig newydd yno, ac heb ei bori ers hynny. Y broblem ydi nad oes coed yno o gwbl bron...dim ond mieri, a hwnnw’n brasgamu at yr ardd yn gynt na fedra'i ei dorri bron.
Mi fues i wrthi am sbelan dda yn lladd a hel gwair; wedyn yn chwynnu a chlirio; clymu pys a ffa i’w cansenni, a chydig o hyn, llall, ac arall, heb wneud fawr ddim arall sylweddol.


Un o ngwendidau mawr i ym mhob maes o fywyd ydi symud o un peth i’r llall, wrth i wahanol bethau dynnu fy sylw. Dim ffocws; hwnna ydi o. Felly mae talpiau o amser yn diflannu wrth i mi dindroi ac ymhel â phethau sydd ddim yn cyfrannu at unrhyw restr o bethau sydd angen eu gwneud. Mae o fel trio cael trefn ar niwl y Migneint weithia’.

Darn pella'r ardd gefn sydd yn y llun yma. Cyn cael y rhandir roedd yn rhaid gwasgu pob cnwd i fan hyn: tri gwely hirsgwar ar gyfer llysiau blynyddol, ac un gwely drionglaidd efo llus mawr. 
Blodau gwyllt oedd i fod yn y darn glaswellt, ond gweiriach a marchrawn ydi'r unig bethau sy'n tyfu yno bellach, felly dwi am blannu dwy goeden gwsberins yno.
Y cymydog sydd bia'r mwg yn y cefndir.



 Asiffeta roedd y gwybed bach yn boen heddiw. Doedd yr haul na’r gwynt ddim yn ddigon cryf i gadw’r diawled i ffwrdd, ac roedd yn rhaid i mi redeg i’r tŷ bob hyn a hyn, efo clustiau coch, poeth, i chwilio’n ofer  am gŵyn gan rywun. Ond mae’r iPod, a Gweplyfr, a Sbwnj-Bob yn bwysicach na Sul y Tadau mae’n amlwg!

Roedd llwyth o bryfetach eraill o gwmpas hefyd ac roedd mwy o groeso i'r rheiny. Mae'n wych gwylio gwenyn yn hel neithdar a phaill o flodyn i flodyn -gweler 'Lun y Mis'. Welis i ddim un gloyn byw, dim ond ambell i wyfyn heddiw.



Troed y golomen
Pry' tail, ar ddail crib y ceiliog -Crocosmia





16.6.12

Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd

Craig nyth y gigfran, Carreg Blaenllym, a Thomen Fawr yr Ocli yn gefndir i’r pys a’r ffa.
Lle braf i weithio, ond yn amlwg mae’r tymor tyfu yn fyr yma ymysg y mynyddoedd. Mae safle’r rhandiroedd yn llygad yr haul trwy’r dydd pan mae'n braf. Yn anffodus mae’r safle’n un agored iawn hefyd; yn dioddef efo’r gwynt, ac yn le digon oer.


Dyma rywfaint o’r planhigion sydd eto i’w plannu allan.



Ar y chwith yn y blaen mae berwr dŵr, i’w plannu ar hyd ymyl y pwll bach ac yn y gornel wlyb.  Tafod yr ych wedyn, sef borage, bron a ffrwydro allan o’r celloedd bychain isio’u plannu. Gellid defnyddio’r dail (blas ciwcymbar medd rhai) mewn salad neu wrth goginio, a’r blodau i addurno bwyd neu bwdin neu ddiod. Persli dail-llydan sydd ar y dde. Tu ôl i’r rhain mae blodau’r fagwyr (wallflower), ac amrywiaeth o flodau tegwch y bore (morning glory) sydd heb egino.  Yn y cefn mae dail Claytonia (letys y mwynwr), a brocoli piws yn y cwpanau coffi.

Dim ond angen awr neu ddwy'n sych rwan... mae rhagolygon Sul y Tadau yn well na heddiw dwi'n meddwl. Go brin y daw neb ond y lleia' o'r tair merch efo fi i helpu! Fel maen nhw'n ddeud: 'Haws dweud  mynydd  na myned drosto'..

14.6.12

Arian byw

Tua deuddeg mlynedd yn ôl, mi ges i doriad oddi ar lwyn rhoswydden (oleander, neu Eleagnus ‘quicksilver’) gan ffrind, a fyth ers hynny dwi wedi camdrin y llwyn druan, gan ei symud o le i le, cyn ei phlannu yn ei lleoliad presennol bedair blynedd yn ôl. Syrpreis mawr y flwyddyn ydi ei bod hi’n ffynnu o’r diwedd ac erbyn dechrau Mehefin roedd yn llawn o flodau mân, melyn, am y tro cyntaf erioed. Mae’r blodau bychain yma’n llenwi’r aer efo oglau hyfryd (wel, pan 'di ddim yn piso bwrw beth bynnag!). 
Trwy gyd-ddigwyddiad, dwi wedi prynu llyfr ‘A taste of the unexpected’, gan Mark Diacono, yn gynharach eleni. Prif neges y llyfr ydi bod bywyd yn rhy fyr i dyfu bwydydd cyffredin. Mae o’n annog y darllenwyr i dyfu amrywiaeth o blanhigion diarth, ac un o’r rheiny ydi’r hyn mae o’n alw’n ‘autumn olive’, sef llwyni Eleagnus. Mae’r aeron cochion sy’n dilyn y blodau yn llawn o fitaminau mae’n debyg.

Cawn weld os wnan nhw ddatblygu ac aeddfedu yma yn y mynyddoedd. 

Mae’r aeron ar yr hefinwydden (Amelanchier), a gyfeiriais atynt fis yn ol, yn dod yn eu blaenau’n dda. Dyma edrych ymlaen at haf ffrwythlon.




Dan ddylanwad llyfr Diacono prynais i'r Oca y soniais amdano ddeufis yn ôl hefyd, ac maen nhw'n barod i'w priddo -fel tatws- rŵan.






 Dwi hefyd wedi prynu dau blanhigyn y mae o'n eu galw blue honeysuckle. Mae angen dau wahanol fath er mwyn peillio'n llwyddianus medda fo. Gwyddfid Siberia (Lonicera kamtchatka) a gwyddfid glas (L.caerulea) ges i. Efo cefndir yn Siberia siawns na fydden nhw'n gwneud yn iawn yn oerfel Stiniog, efo'r blodau yn medru tyfu pan mae'n 7 gradd o dan y rhewbwynt! Trwy gymryd toriadau yn syth, dwi wedi cynyddu'r nifer i bedwar planhigyn, ac yn edrych ymlaen i gael ffrwythau glas cynnar y flwyddyn nesa.


10.6.12

Briwsion

Parhad o fanion ddoe..

Pwll!
Mi arhosodd yn ddigon sych ddydd Mercher i mi a’r fechan dreulio rhai oriau yn yr ardd gefn, ac ar y lluarth. Roeddwn wedi gaddo creu pwll bach iddi hi yn un o’r corneli gwlyb a dyna fu’r ddau ohonom yn wneud ar ôl cyrraedd.
Wedyn, tra oedd hi’n cario dŵr i lenwi’r pwll -a dal llyffantod i’w rhoi ynddo hefyd- mi ges i orffen creu’r gwely newydd a phlannu’r marchysgall (globe artichoke). Erbyn heddiw, tydyn nhw dal ddim yn edrych yn hapus iawn, (mi fuon nhw yn y swyddfa bost am ddeuddydd ar ol i'r postmon fethu a'n dal ni adra).
Mi blannais ffa Ffrengig rhwng yr india corn, a dau blanhigyn pwmpen ar y twmpath compost. Eto, tydi'r planhigion corn ddim yn edrych yn fodlon iawn eu byd, ond wedyn mae'r tymheredd wedi bod o gwmpas y 10 i 15 gradd 'ma ers dyddiau. Gyda lwc, cawn gyfnod cynhesach o hyn ymlaen, a dwi angen eu gwarchod rhag y gwynt dwi'n meddwl.

Jiwbilol.

Roeddwn i wedi dweud trwy’r flwyddyn fy mod i am weithio ar ddiwrnod gŵyl banc brenhines Lloegr, ond yn y diwedd mi gymerais fantais o'r gwyliau er mwyn mynd ar daith i ddathlu Glyndŵr, a chael diwrnod wrth fy modd.


Criw Canolfan HanesUwchgwyrfai  oedd wedi trefnu, ac mi gawsom sgwrs hynod ddifyr gan Eryl Owain yng Nghanolfan Glyndŵr, Machynlleth, ac ymweld â thŷ hynafol Cefn Caer  ger Pennal, i weld copi o lythyr Pennal, a replica o ‘Gleddyf y genedl’, a choron Owain Glyndŵr. Parch mawr  i yrrwr y bws am gyrraedd y ffasiwn le yn ddidrafferth, a diolch i Elfyn Rowlands, y perchennog am ein diddanu.
Braf oedd cael peint a phryd o fwyd yng nghwmni hanner cant o wladgarwyr; i gyd yno, fel fi, i anghofio am y dathlu prydeinig, ac i gofio pwy ydym ni, a pham ein bod fel cenedl yma o hyd.

Cwhwfan.
Mi fu’r tylwyth i gyd yn crwydro de Meirionnydd ddydd Iau. Rhuthro trwy’r glaw i fwynhau orig yn arddangosfa newydd gwarchodfa natur Cadair Idris, a’r caffi newydd yno, Tŷ Te Cadair.
Gostegodd y glaw am gyfnod wedyn, ac mi fuon ni’n hedfan cutan ar draeth Tywyn dan gymylau duon blin.


Mae glan y môr yn le gwych i fod mewn tywydd gwyllt, ond roedd cyfran o boblogaeth yr ardal yn amlwg yn anghytuno efo fi am brydeindod, a baneri a bynting coch, gwyn a glas yn bla siomedig.
Ddydd Gwener, roedd yn brafiach o lawer cael mwynhau dwsinau o ddreigiau coch, a baneri coch, gwyn a gwyrdd wrth inni deithio trwy Eifionydd ac Arfon i Steddfod yr Urdd, er inni gael diwrnod difrifol o wlyb ac oer ar ol cyrraedd!



9.6.12

Brwgaitsh


Ychydig iawn o esgusodion sydd gen’ i am adael bron i bythefnos rhwng dau bost. Diffyg lluniau yn fwy na diffyg amser sy’n bennaf gyfrifol; a’r tywydd heb helpu. Bu’n hanner tymor yma a chant o bethau i’w gwneud, felly dipyn o hyn, a ‘chydig o’r llall ydw i am gofnodi, a dim byd o dragwyddol bwys.
Gwaelod y gasgen.
Ar ôl sgwennu yma ddwytha’, parhaodd y sychder am rai dyddiau, a bu’n rhaid imi gario dŵr i’r rhandir, a finna wedi treulio wythnosau’n cwyno fod y lle’n rhy wlyb! Mae gorfod cario dŵr yn ‘Stiniog yn hurt bost, felly bydd yn rhaid gwneud rhyw drefniant i storio glaw ar y lluarth rhag ofn y cawn gyfnod sych eto. Fel canodd yr Anweledig: “Wir i chi mae hi’n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog...”
Mae’r gasgen las sydd yn y llun uchod wedi bod yn yr ardd gefn yn llawn o ddŵr ers tair blynedd, heb fod fawr o ddefnydd, felly mi es i a hi i’r rhandir. Mi es i a 3 llond can 25 litr o ddŵr i lenwi’r gasgen, a dim ond ar ôl stryffaglu i wneud hynny, sylwi fod twll yng ngwaelod y sglyfath! Bu’n llawn am dair blynedd, ond rŵan fod gen i ddefnydd iddi...blwmin twll!

Gadael y nyth.



Hedfanodd y pedwar cyw mwyalchen dros ddeuddydd olaf mis Mai, ac erbyn heddiw, mae’r iâr yn gori tri wy newydd.






Paentio'r byd yn las. 
Mi ddaeth y glaw ar ddiwrnod ola’ Mai. Un o’r pethau olaf a lwyddais wneud cyn y glaw oedd paentio dwy gadair efo paent sbâr y ffens. Pan oeddwn yn  byw mewn tŷ hynod fach ym Maentwrog, mi brynais y rhain am bedair punt yr un, am eu bod yn plygu i’w cadw o dan fwrdd y gegin. 1991 oedd hynny. Ers symud oddi yno maen nhw wedi cael defnydd allan yn yr ardd bob haf, ac mae’r paent yma wedi rhoi bywyd newydd iddynt. P’run ai fydden nhw yma am ugain mlynedd eto ai peidio, dwn ‘im, ond am £4, maen nhw wedi hen dalu am eu lle fyswn i’n deud!

“Wai-o, wai-o: pawb yn deud bod hi’n bwrw glaw ym Mlaenau Ffestiniog...”
Mae pob diwrnod hyd yma ym mis Mehefin –mwy neu lai- wedi cael rhywfaint o law. Mwy am hynny ‘fory.

Deio.
Bu farw cymydog yn ystod yr wythnos. Mi fydd hen chwith ar ôl yr hen lanc addfwyn, a byddaf yn methu’r sgyrsiau rheolaidd a gawsom dros wrych yr ardd gefn. Gobeithio y caiff ei goed afalau fyw’n hir ar ei ôl, ac ar ôl ei chwaer hoffus a’n gadawodd yn 2010.
Blodau afal Enlli