Dwi wedi gorfod achub y goeden afal Enlli dros y penwythnos!
Am nad oes lle i goed yn yr ardd gefn, mae hi’n tyfu fel espalier yn erbyn
ffens, a’i changhennau wedi eu clymu ar dair weiren wrth iddyn nhw dyfu.
Roedd
y llynedd yn flwyddyn arbennig o dda i ffrwythau acw, ac mae’n amlwg i mi gael
fy nhwyllo i feddwl fod popeth yn iawn. Wnes i ddim tocio ar ôl cynaeafu’r
afalau fel y dyliwn, ac roedd gormod o lawer o dyfiant arni erbyn eleni. Un o ddarnau cynta’r
blog yma oedd hanes newid paneli’r ffens. Bryd hynny roedd yn rhaid tynnu’r weiars
er mwyn mynd at y paneli, a meddyliais fod y goeden wedi sefydlu digon o wraidd
i sefyll heb ei chynnal ar y ffens.
Blodau afal Enlli 'nol ym mis Mai eleni |
Dwi wedi ei chodi hi’n ôl ar ei thraed, a defnyddio stanc bob ochr i’r bôn,
efo cadwyni rwber i’w dal hi yn ei lle (cylchoedd wedi eu torri allan o hen
diwb olwyn motobeic). Dwi hefyd wedi rhoi dwy weiren yn ôl, a chlymu’r
canghennau iddynt efo cordyn meddal (off-cyts stribedi selio tŷ gwydr- mae ‘na
ddefnydd i bob peth!)
Roedd yn rhaid tocio’r goeden i’w chadw rhag y gwynt, ac i’w
chadw’n espalier taclus efo spurs cwta. Y drwg ydi fod cymaint o’r tyfiant wedi
cael ei dorri, fy mod i wedi torri’r rheol o beidio tocio mwy na ⅓ o unrhyw goeden ar unrhyw adeg.
Rhwng hynny a’r hambyg gafodd y gwreiddiau wrth ddisgyn, dwn ‘im os welith hi
flwyddyn arall... ta waeth, mae’n rhaid trio ‘ndoes.
Ar ol clymu a thocio |
Roedd Parc Cenedlaethol Eryri wedi trefnu diwrnod ym Mhlas Tanybwlch dwy
neu dair blynedd yn ôl, i bobl leol gael dysgu sut i docio coed ffrwythau, dan
arweiniad Ian Sturrock, y tyfwr coed cynta’ i arbenigo mewn ffrwythau Cymreig
am wn i, a’r cynta’ i dyfu a gwerthu coed afal Enlli. Cafwyd cyfuniad o ddysgu
yn y dosbarth, ac ymarfer ym mherllan newydd y Plas, a bu’n werth pob eiliad o
ddiwrnod rhydd.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddiawledig o sâl i’r coed ffrwythau yma. Ar ôl
cynhyrchu llwyth o flodau yn y gwanwyn, mae’r glaw di-baid wedi golygu na
chafodd y rhan fwya’ ohonyn nhw eu peillio, ac mae’r oerfel wedi rhoi clec i
bron pob un o’r ffrwythau oedd wedi cnapio.
Un afal sydd ar y goeden Enlli (hyd yn oed cyn ei thocio). Mae llai na
dwsin o geirios ar y Morello -mae honno’n tyfu wrth ochr yr afal Enlli, wedi ei ‘hyfforddi’ fel ffan yn erbyn y ffens. Mae hithau angen ei thocio
hefyd..aros am ddiwrnod sych eto rwan.
Dwy goeden arall sydd yma: eirinen Ddinbych yng ngwaelod yr ardd, a
choeden afal croen mochyn mewn twb mawr. Hwn ydi haf cynta’r eirinen felly
doedd dim disgwyl llawer o ffrwyth arni. Tydi’r afal croen mochyn ddim yn hapus
o gwbl! Daeth dim un blodyn arni eleni. Mae gwir angen lle i’w phlannu hi. Os
nad ydi’r rhandir yn torri fy nghalon, a dwi’n penderfynu aros, mi gaiff fynd i
fanno.
Rhaid bod yn optimist wrth arddio tydi! Mae blwyddyn ar ôl
blwyddyn yn mynd heibio; y cynnyrch yn siomi; a rhywun yn gorfod bodloni ar
ddweud “blwyddyn nesa’ efallai!”...........
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau