Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.
Showing posts with label gellyg y ddaear. Show all posts
Showing posts with label gellyg y ddaear. Show all posts

29.11.21

Gellyg y ddaear, unrhyw un?

Jerusalem artichoke; sunchoke; sun root; girasole; topinambur... rhai o'r enwau sydd i'w gweld ar y we am y llysieuyn difyr yma, o deulu'r blodyn haul.

Tydyn nhw ddim yn dod o Jerwsalem a tydyn nhw ddim yn perthyn o gwbl i'r marchysgall, sef globe artichoke: rhwng pawb arall a'u potas be maen nhw'n eu galw, dwi ddim yn mynd i golli cwsg am hynny. 

Ond tydi'r enw Cymraeg ddim yn hollol foddhaol i holltwr blew fel fi, am fwy nag un rheswm. 

 

Yn ogystal â gellyg y ddaear, mae Geiriadur yr Academi yn cynnig heulflodyn oddfog, ond enw -sydd mewn difri, ddim yn fachog iawn nac'di- ar y planhigyn (Helianthus tuberosus) ydi hwnnw yn hytrach na'r cloron bwytadwy.

Ond pam gellyg y ddaear? Llysieuyn arall, sef yacon, ydi poire de la terre i'r Ffrancwyr, a gelwir yacon yn ground pear yn yr Unol Daleithiau hefyd o be' wela' i.  Yn bwysicach na hynny, tydi gellyg y ddaear yn edrych dim byd tebyg, nac yn blasu dim byd tebyg i ffrwythau gellyg!

Ta waeth; dwi'n dathlu, ac yn difaru yr un pryd, eu plannu nhw acw.

Dathlu, am eu bod nhw'n flasus, ac yn hynod, hynod hawdd i'w tyfu yn hinsawdd gwlyb ac oer Stiniog. (Dyna pam dwi ddim yn awgrymu rhoi'r enw cloron haul arnyn nhw!)

Difaru, am eu bod yn rhedeg i bob man yn wyllt! Ac am na fedraf eu cael i flodeuo yma.

Rhan o'u hapêl i mi, ar ben y fantais o gael bwyd, ydi eu blodau melyn, sy'n ddeniadol iawn, ac yn dda i bryfaid peillio hefyd, ond mewn twbiau mawr oeddwn i'n eu tyfu i ddechrau, a doedden nhw byth yn blodeuo. Felly mi fentrais eu plannu yn y ddaear, i weld a fydden nhw'n hapusach yn fanno. 

Canol Gorffennaf, ac yn dal i dyfu...

Waw! Mewn dim roedden nhw'n tyfu'n drwchus, hyd at 7 troedfedd o daldra, ac yn tyfu trwy wreiddiau coed cyrins duon, ac o dan lwybrau aballu. Maen nhw'n amlwg yn hapus yn eu lle, ac yn cynhyrchu llwythi o gloron, ond tydyn nhw dal ddim yn blodeuo! Mi fydd raid i mi eu cyfyngu rhywsut, cyn y tymor tyfu nesa, neu mi fydden nhw'n feistr corn arna' i am byth.

 

Be' ydw i'n wneud efo'r cloron ta? 

Cawl yn bennaf. 

 


Gellid trin hwn fel cnwd barhaol, gan ei fod yn tyfu'n flynyddol o unrhyw gloron neu wreiddyn a adewir yn y pridd, a dim angen poeni am ail-blannu, na pharatoi'r gwely ar ei gyfer. Mantais arall ydi medru eu gadael yn y ddaear nes bod eu hangen nhw, ac maen nhw'n cadw'n dda trwy'r gaeaf. Mi godais gnwd bach dros y Sul ôl pan oedd y pridd yn dadmer, a mwynhau cawl braf o flaen y tân yn fuan wedyn. 

DAU O BOB DIM:

Dau bwys o gloron, dwy dysan, dau nionyn, dau beint o ddŵr, hufen dwbl; wedyn pupur a halen. 

Syml. Blasus. Digon o gawl am ddyddiau.

Mae'n nhw'n dda wedi eu rhostio hefyd, ac yn amrwd mewn salad. Yr agosaf fedra'i ddisgrifio'r blas -pan yn amrwd- ydi fel cnau cyll gwyrdd, yn syth o'r goeden. Fuseau ydi'r rhai sydd gen i (cysylltwch os hoffech chi alw draw i gael cloryn neu ddau i'w plannu).

Anfantais gellyg y ddaear i rai ydi bod y cloron yn cynnwys llawer o garbohydrad ar ffurf inulin, na fedrwn ni ei dreulio, ac felly gall greu gwynt. Mae fartichokes yn enw smala sy'n deillio o'r ffaith anffodus yma. Ond yn ôl y gwybodusion, mae'r planhigyn yn cynhyrchu llai o inulin mewn hinsawdd oer. Yn sicr, tydi o ddim yn broblem amlwg iawn yn fan hyn!


Sylw hollol anwyddonol cyn cloi: mae rhywun yn clywed cynrychiolwyr ffermwyr Cymru yn honni yn rheolaidd nad ydi tir anffafriol ein gwlad yn medru tyfu dim byd ond glaswellt, ond mae'n fy nharo i y gall y planhigyn arbennig yma dyfu bron yn rhywle, efo'r potensial i fwydo poblogaeth gynyddol y byd. Mae'n cynhyrchu llawer iawn o dyfiant gwyrdd fysa'n borthiant i anifeiliaid hefyd. Trafodwch!


13.5.12

Gwenyna


Mi lwyddais i blannu’r coed cyrins duon, a’r pys a’r ffa, a throsglwyddo’r gellyg daear (Jerusalem artichokes) i botiau mwy, felly mae’r rhandir yn debycach i ardd gynhyrchiol o’r diwedd. Wel, mae dwy ran o dair o’r plot yn dal i edrych fel cors, ond dwi'n anwyddybu hynny ar hyn o bryd!
Dim ond y bore ges i yno, ac roedd yn rhaid imi ruthro adra am ginio, felly mi anghofiais i dynnu llun cyn gadael.

Mi wnes i gofio mynd â’r camera efo fi yn y pnawn i Dal-y-cafn (Dyffryn Conwy) ar y llaw arall, i sesiwn olaf cwrs cadw gwenyn Cymdeithas Wenynwyr Conwy. 


Gan fod y tywydd yn eithaf braf, roedd y gwenyn yn weddol ddof ar y cyfan. Roeddem ni’n agor pedwar cwch i weld faint o fêl a phaill oedd ganddynt wedi’i storio, ac i weld os oedd y frenhines ym mhob un yn dodwy. Profiad arbennig ydi cael mynd i’r wenynfa efo pobl mor brofiadol, ac mae’r cwrs wedi bod yn hynod ddifyr.


Dwi ddim yn mynd i fedru cadw gwenyn fy hun eleni, gan nad oes gen’ i le i roi cwch yn anffodus. Hefyd am fod angen cymaint o waith ar y rhandir yn y flwyddyn cynta’ ‘ma, mae’n well gen’ i ganolbwyntio ar hynny’n gyntaf. Gyda lwc bydd mwy o amser, a lle addas ar gael y flwyddyn nesa’. Gawn ni weld.

Mae'r planhigyn yma'n tyfu yng ngwenynfa Tal-y-cafn: garlleg y berth, Alliaria petiolata. Blas garlleg a mwstard arno. Dwi ddim yn hoffi hwn rhyw lawer, ond mae tair neu bedair o’r dail bach ifanc yn flasus mewn salad.


Dwi’n mynd yn ôl i ‘ngwaith fory (dydd Llun), felly dyma’r olaf o’r darnau dyddiol. Mae’n siŵr yr af yn ôl i flogio ar nos Wener a Dydd Sul eto. 
Hwyl am y tro.

11.4.12

Gwrychoedd

Mi gawson ni ddiwrnod gweddol sych ddoe, a'r joban gafodd flaenoriaeth oedd gosod paneli ffens newydd rhwng yr ardd a drws nesa. Pan brynson ni'r tŷ yma, gwrych privet anferthol oedd ar y terfyn rhwng y ddwy ardd. Yn fylchog oddi tani, yn rhy uchel o lawer, ac yn dwyn o leia’ metr o ymyl yr ardd, roedd yn rhaid iddo fynd! Yn yr ail wanwyn yma, roeddwn wedi gorffen y rhan fwya’ o’r gwaith yn y tŷ, ac yn barod i wneud rhywbeth efo’r gors llawn montbretia allan yn y cefn. Cytunodd C, y cymydog, i fynd i’r afael â’r gwrych efo fi. Cafodd y privet glec, ac mi fuon ni’n chwysu i godi’r gwreiddiau styfnig. Roedden ni wedi cytuno i osod ffens yno o bolion concrit. Wedyn rhoi paneli chwe throedfedd o feather boards rhyngthyn nhw, am eu bod yn rhatach na dim byd arall. Wrth gwrs, mae hynny’n golygu eu bod yn salach na phopeth arall hefyd, ond doedd C a fi ddim isio gwario mwy nag oedd rhaid. Twyllo’n hunain oedd hynny. Pryn rad, pryn eilwaith yn ‘de, felly dyma ni saith mlynedd yn ddiweddarach yn gorfod prynu stwff gwell yn eu lle. Yr unig beth oedd yn cymhlethu’r gwaith oedd y coed a’r tair weiren sydd ar ein hochr ni o’r ffens: lelog Califfornia (Ceonothus) a gwyddfid yn y pen agosa’ i’r tŷ, coeden afal Enlli wedi’i thyfu fel espalier blêr, ceiriosen morello wedi’i thyfu fel ffan, mafon, a rhosyn anhysbys.

Cawodydd gafwyd heddiw, felly mi  es i’r rhandir i ymuno yn yr ymdrech i blannu gwrych o amgylch y safle. Pan oeddwn yn blentyn, cors oedd yno, ac roeddem yn hel penabyliaid a genau goeg yno. Ym 1975 roedd yn ffasiwn i ‘dirlunio’ ardaloedd diwydiannol yng Nghymru, ac fe dynnwyd tomen lechi Glan-y-don i lawr, gan lenwi cyfres o gorsydd yn y fro, gan obeithio denu cwmnïau newydd i sefydlu ar y tiroedd newydd. Taenwyd ychydig bridd a gwrtaith ar ben y llechi, ac roedd yna oglau cachu iar neu mochyn cofiadwy iawn yn y dref am gyfnod!
Ta waeth, mae’r olwyn fawr yn troi tydi, ac mae fy sgwaryn i o randir yn ymddangos fel cors eto. ‘Dim ond reis a watercress fedri di dyfu’n fan hyn’, medd un o’r plant ar ein hymweliad cynta’! Mi welwch o’r llun faint o ddŵr sy’n sefyll ar yr wyneb yno. 
Dwi wedi prynu cansenni mafon a choed gwsberins, ond dwi wedi digalonni efo’r amodau braidd, a ddim yn fodlon rhoi dim yn y ddaear nes dwi wedi gwneud rhywbeth am y draeniad gwael.
Dwi wedi eu rhoi dros dro felly mewn hen dwbiau plastig porthiant defaid. Felly hefyd ambell i beth arall dwi’n tyfu fel arbrawf, fel gellyg y ddaear (jerusalem artichokes), a rwbath o’r enw oca, perthynas i’n blodyn suran y coed ni, o’r Andes, sy’n cynhyrchu cloron blasus medden’ nhw. Mae’n tyfu mewn pridd sâl (check), mewn ardaloedd glawog (check), ond angen haf hir, di-farrug (damia! Wel, amser a ddengys yn de).