Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

23.5.14

Colli lluniau

Yn anffodus, mae Blogspot yn colli lluniau* o hen gofnodion ar hyn o bryd. Os oes unrhyw un yn gwybod sut i ddatrys hyn, byswn yn ddiolchgar am gyngor!

Pry' blodyn (pryf hofran) ydi hwn, Chrysotoxum arcuatum, ar ddeilen cyrins duon yn yr ardd gefn.


Mimic gwenynen feirch arbennig o dda, ond yn cael mwy o groeso yn yr ardd am ei fod yn bwyta llyslau (aphids).

Rwan 'ta; lle aeth y lluniau eraill 'na.....?

* Diweddariad, 3ydd Mehefin> Blogger wedi cael bai ar gam. 'Mond yn ty ni oedd y broblem, a blwmin BT oedd y drwg. O'n i wedi ymuno a'u gwasanaeth 'Parental Control' bythefnos yn ol rhag ofn i'r plant faglu mewn i wefannau anaddas, a hwnnw oedd yn rhwystro'r lluniau rhag llwytho!
BT yn amlwg yn meddwl bod lluniau o bryfid a choed afalau a'r Moelwynion yn fygythiad i foesoldeb y teulu!

Mwya'n byd y bydd dyn byw: mwya gwelith; mwya glyw.

10.5.14

Crafu

Heb fawr o antur, mi fues i'n gwneud pesto craf eto, ar ddiwrnod gwlyb a diflas.

Ond mae pawb (heblaw'r fechan) wrth eu boddau'n ei fwyta efo pasta neu salad, felly gwirion fysa peidio hel cnwd bob blwyddyn.

Cymysgu 50g o ddail a blodau craf y geifr (garlleg gwyllt), efo 30g o gnau pi^n, neu gashews, 30g o gaws caled fel parmesan, ac 80ml o olew. 'Chydig o halan a phupur 'fyd.

Heno: pasta  bucatini (stwff gwell na'r pasta sych ganol-wsos arferol!), tatws a phys, efo pesto craf. Blas mwy.


A digon o besto i'w roi yn yr oergell at tro nesa.


8.5.14

Crwydro -Erddig ac ati

Ar benwythnos Calan Mai, mi lusgais i Nhad a thad y Pobydd am wibdaith o ogledd-ddwyrain Cymru. Peldroed oedd yr esgus i ddianc am y diwrnod gan fod ffeinal Cwpan Cymru yn Wrecsam, ond gan i ni gychwyn yn weddol handi, mi gawson ni gyfle i ymweld a llefydd diarth hefyd.

Derwen Adwy'r Meirwon, yng ngwaelod Dyffryn Ceiriog, ychydig filltiroedd o safle derwen enwog Pontfadog. Coeden sydd dros fil o flynyddoedd oed, yn cadw golwg dros safle brwydr Crogen, lle chwipiodd y Cymry di^n byddin Lloegr dan arweiniad Owain Gwynedd.
 Roedd y safle'n garped o lysiau'r cwlwm, comfrey. Rhywbeth dwi'n dyfu adra ar gyfer ychwanegu maeth i'r deilbridd ac i ddenu gwenyn.




Roedd y tyfiant dipyn mwy trefnus yn y lle nesa' fuon ni: gardd Erddig, ar gyrion Wrecsam.
Dim diddordeb o gwbl yn y ty bonedd, ond waw, am ardd furiog!

Dwi isio un!


Dwsinau -os nad cant a mwy- o goed afalau, ar ffurf cordon (uchod), agored (efo'r trionglau topiari), ac espalier (isod).

Ylwch ar harddwch cymesur hon: y fath waith cywrain, dros genhedlaeth, yn 'hyfforddi' canghennau, a thocio a chlymu, a digon o flodau, wedi eu gwasgaru'n gyfartal. Gwych.


Dwi'n teimlo chydig bach o g'wilydd yn dangos llun o'r goeden afal Enlli y bues i'n cyfeirio ati fel espalier!


Siom oedd y peldroed. Aberystwyth yn taflu mantais o ddwy gol i golli o 3-2 yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Ond codwyd ein calonnau wedyn gan gwrw da tafarn Cymraeg y Saith Seren. Iechyd da i'r gogledd ddwyrain nene uffar!



Dolen i wefan Coed Cadw- Derwen Adwy'r Meirwon. (Sgroliwch lawr i gael y wybodaeth yn Gymraeg)
Saith Seren



6.5.14

Ar y llwybr cul

Wedi llwyddo o'r diwedd i greu llwybr caled yn ardal brysura'r lluarth, efo cymorth aelodau hynaf a 'fenga'r teulu: fy nhad a'r Fechan (sydd wrthi'n gosod brethyn gwrth-chwyn yn y llun cynta').


Diolch hefyd i Morfudd ac Arthur, a Gareth a Kevin, am eu haelioni yn rhoi tua 40 o slabiau concrid i mi wrth iddynt adnewyddu gardd newydd yn Stiniog.  Hen naddion ffordd -graean a tarmac- sydd bob ochr i'r llwybr, a'r cyfan yn golygu y bydd gen' i le sych i weithio o'r diwedd.

 
Mi ges i gyfle i dwtio 'chydig hefyd a ffidlan efo ambell i arbrawf arall! Mae'r bels gwellt ar y chwith yn ffurfio gwely dros dro ar gyfer planhigyn pwmpen eleni. Mae'r planhigyn yn tyfu'n gry' mewn pot yn y ty gwydr adra ar hyn o bryd, ond byddaf yn creu twll ynghanol y belsan ganol, i'w lenwi efo deilbridd i blannu ynddo.

Erbyn y flwyddyn nesa' bydd y gwellt wedi suddo rhywfaint ac mi adeiladaf wely o'i gwmpas ac ychwanegu pridd, i greu gwely parhaol arall.

O gywilydd, y joban nesa' ydi clirio'r glaswellt a'r dail tafol o'r gwely ar y dde, sef y gwely marchysgall -globe artichokes. Dwi am ledu'r gwely yma er mwyn plannu corn eleni. Mae gen' i ddwsin o blanhigion praff yn y ty gwydr yn barod i mi eu lladd wrth drawsblannu i wynt ac oerfel y rhandir eto!