Yn Llundain fuo ni rhwng y Dolig a'r Calan (llond y tŷ o fwg..?).
Y genod i gyd yn mwynhau sioe Mamma Mia, a finna'n cael crwydro...
Edrych am gofeb Catrin Glyndŵr, yn yr ardd goffa lle bu eglwys Sant Swithin. Mi oedd yn dipyn o job ffeindio'r lle a deud y gwir, oherwydd gwaith adeiladu wrth geg y ffordd fach sy'n arwain yno o Cannon St (mwy neu lai gyferbyn â mynedfa gorsaf Cannon St.)
Dwn 'im be dwi'n feddwl o'r cerflun abstract, ond mae geiriau Menna Elfyn yn hyfryd. Atgoffa rhywun o deimlo'r un emosiwn wrth gofeb Gwenllian yn Sempringham
O be wela' i mae'r 'ardd' yn gyfaddawd cyndyn gan ddatblygwyr, mewn dinas sydd yn frith o gannoedd o graeniau, ac yn ferw o adeiladu ymhob twll a chornel. Twll a chornel ydi'r ardd hon a deud y gwir, wedi'i hamgylchynu gan dyrrau dur a gwydr, a'u llond nhw o bobl sy'n malio dim am hanes Catrin a'i theulu druan. Bosib mae dim ond lle i ddianc am smôc ydi'r ardd i'r rhan fwyaf o'i hymwelwyr.

Heb y gofeb, efallai y byddai'n waeth iddyn nhw fod wedi claddu'r ardd ddim. Fydd hi'n derbyn dim haul lle mae hi, ond roedd yn braf cael treulio chwarter awr yno yn ll'nau'r lechen a thynnu lluniau a synfyfyrio.
Hel cwrw fues i wedyn, ar y Strand a Covent Garden, yn chwerthin wrtha' fi fy hun, yn darllen llyfr diweddara' Dewi Prysor.
A hel atgofion am weithio yn Llundain ddiwedd yr wythdegau, a chyfarfod criw o Gymry bob nos Fercher, mewn llond dwrn o dafarnau fel y Marquess of Anglesey.
Dew Wms; Cnwc; Geraint a Mogos; Pedr Pwll Du; ac eraill y mae eu henwau wedi mynd o'r cof uffernol 'ma sydd gen' i. Dyddiau da.
Ond yn ôl at eleni, cael crwydro i gopa Bryn y Briallu cyn dal y trên adra o Euston, i weld cofeb Iolo Morgannwg. Dim gobaith o fedru ll'nau hon, ond roedd hi mewn lle braf iawn. Yn fanno fyddai'n prynu tŷ haf ar ôl ennill ar yr Ewromiliwns.