Mae'r glaw di-baid; dyddiol; cyson, yn ddigalon. A dim golwg am ddiwedd arno.
'Run ffordd dwi'n mynd allan yn hwn... |
Ychydig funudau cyn hanner nos ar noson ola' Gorffennaf, roedd dyn tywydd y BBC yn canmol bod Ynys Wyth wedi cael eu mis Gorffennaf sychaf ar gofnod, efo dim ond 1.4mm o law. Ia, un pwynt pedwar! Ddiwrnod yn ddiweddarach, roedd y crinc yn dweud "some welcome rain has watered the gardens of southern England..." !#*&$*#!
Ar fore diwrnod cynta Awst, mi es i hanner ffordd i fyny ochr ddeheuol Cadair Idris (yn rhinwedd fy swydd fel rheolwr y warchodfa natur yno), er mwyn mesur glawiad mis Gorffennaf.
393mm. Ia, pymtheg modfedd a hanner!
Neis de! Ac mi ges i socsan wrth gerdded i fyny yn y glaw hefyd.
...ond wedyn dwi'n cofio be oedd ffrind coleg yn ddeud ers talwm...
"Mae 'na bobl yn llwgu ym Mwlch Tocyn".
Ac mae 'na bobl yn y byd sy'n byw mewn ofn, mewn rhyfel, heb gartref, heb ddŵr glan, heb hawliau sylfaenol... gwell peidio cwyno gormod am y tywydd s'bo.
Tynged y ceirios wrth aeddfedu yn y glaw... |
Lot fawr o law heddiw yng Ngheryw, cyn hynny sych dros ben ac heuliog oedd hi drwy´r Gorffennaf.
ReplyDeleteMeur a law hedhyw yn Kernow, kyns henna sygh dres eghenn hag howleg o hi dre Ortheren.
Meur ras dhis; diolch Marconatrix.
ReplyDeleteBraf arnoch acw. Gyrra rhywfaint o haul i'r gogledd!
Dim haul yma ar hyn o bryd, ac mae´r glaw newydd wedi peidio ... o bosib ... ?
Delete(Nynz eus howlsplann-vyth omma y´n eur-ma, ha re hedhas an glaw a-gynsow ... dell waytyav ... ?)
Piti na fasai'r glaw yn cael ei ddosbarthu'n well. Yn fama, mae o wedi bod yn sych ofnadwy, a'r planhigion wedi gwywo....ddoe cawsom law o'r diwedd, ond dwi ddim yn siwr bod digon wedi disgyn....
ReplyDeleteMi fyswn yn falch o rannu rhywfaint o law Ann!
DeleteHeddiw oedd y diwrnod sychaf o'r wythnos i fod.. ond wrth baratoi i fynd am dro... daeth y glaw eto!
Gweddol sych yma dros y Mor Hafren heddiw ... ond ble mae´r haul wedi mynd?
Delete