Gallan nhw gynhyrchu deiliach trwchus, tal a chyfoethog, yn swancio'n dalog a balch. Ond, tydi hynny'n ddim sicrwydd bod gwreiddyn gwerth ei gael yn y ddaear o dan y tyfiant gwyrdd addawol uwchben.
Dyna brofiad y ddau Daid a ninnau eleni wrth ddyfarnu'r gystadleuaeth moron hiraf.
Moron Taid Cae Clyd yn edrych yn dda iawn yn eu pibelli pwrpasol, proffesiynol yr olwg. Ond bu hen chwerthin wrth i un ar ôl y llall ddod o'r pridd yn stympia bach siomedig.
Taid Rhiwbach wedyn wedi codi ei foron cyn i bawb gyrraedd, ac wedi gosod ei ffefryn ar y bwrdd...
- a dyna syrpreis gafodd pawb ei fod wedi twyllo eto eleni!
Ein moronen ni oedd hiraf.
O drwch blewyn! A hynny dim ond am ein bod wedi llwyddo i godi'r gwreiddyn yn gyfa' bob cam i lawr i'w waelod main.
Ond rheol ydi rheol, felly ni gafodd y wobr eto eleni!
Dewis a phwyso a mesur. Gwaith pwysig iawn! A Taid yn dal i ddadlau am y rheolau! |
Paratoi cymysgedd bras tywodlyd 'nôl yn Ebrill |
Hau mewn bwced ddofn yn y tŷ gwydr |
Aros mae'r moron mawr... |
Rhag ofn i'r teidiau ddigio a gwrthod cystadlu flwyddyn nesa, mi gawson nhw wobrau cysur am y foronen dewaf, a'r foronen fwyaf doniol!
Allan yn yr ardd, roeddwn i wedi hau hadau moron amryliw.
Da oedden nhw hefyd; melys a blasus iawn, yn goch, melyn, gwyn, ac oren. Byswn i'n fodlon iawn tyfu'r rhain eto.
[Cystadleuaeth 2015: blodyn haul talaf]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau