A llond y tŷ o ffa!
Yn Llundain fuo ni rhwng y Dolig a'r Calan (llond y tŷ o fwg..?).
Y genod i gyd yn mwynhau sioe Mamma Mia, a finna'n cael crwydro...
Edrych am gofeb Catrin Glyndŵr, yn yr ardd goffa lle bu eglwys Sant Swithin. Mi oedd yn dipyn o job ffeindio'r lle a deud y gwir, oherwydd gwaith adeiladu wrth geg y ffordd fach sy'n arwain yno o Cannon St (mwy neu lai gyferbyn â mynedfa gorsaf Cannon St.)
Dwn 'im be dwi'n feddwl o'r cerflun abstract, ond mae geiriau Menna Elfyn yn hyfryd. Atgoffa rhywun o deimlo'r un emosiwn wrth gofeb Gwenllian yn Sempringham
O be wela' i mae'r 'ardd' yn gyfaddawd cyndyn gan ddatblygwyr, mewn dinas sydd yn frith o gannoedd o graeniau, ac yn ferw o adeiladu ymhob twll a chornel. Twll a chornel ydi'r ardd hon a deud y gwir, wedi'i hamgylchynu gan dyrrau dur a gwydr, a'u llond nhw o bobl sy'n malio dim am hanes Catrin a'i theulu druan. Bosib mae dim ond lle i ddianc am smôc ydi'r ardd i'r rhan fwyaf o'i hymwelwyr.
Heb y gofeb, efallai y byddai'n waeth iddyn nhw fod wedi claddu'r ardd ddim. Fydd hi'n derbyn dim haul lle mae hi, ond roedd yn braf cael treulio chwarter awr yno yn ll'nau'r lechen a thynnu lluniau a synfyfyrio.
Hel cwrw fues i wedyn, ar y Strand a Covent Garden, yn chwerthin wrtha' fi fy hun, yn darllen llyfr diweddara' Dewi Prysor.
A hel atgofion am weithio yn Llundain ddiwedd yr wythdegau, a chyfarfod criw o Gymry bob nos Fercher, mewn llond dwrn o dafarnau fel y Marquess of Anglesey.
Dew Wms; Cnwc; Geraint a Mogos; Pedr Pwll Du; ac eraill y mae eu henwau wedi mynd o'r cof uffernol 'ma sydd gen' i. Dyddiau da.
Ond yn ôl at eleni, cael crwydro i gopa Bryn y Briallu cyn dal y trên adra o Euston, i weld cofeb Iolo Morgannwg. Dim gobaith o fedru ll'nau hon, ond roedd hi mewn lle braf iawn. Yn fanno fyddai'n prynu tŷ haf ar ôl ennill ar yr Ewromiliwns.
Erioed wedi clywed am gofeb Catrin 'mi tocaya' ys dywed y Sbaenwr am rywun sy'n rhannu enw. Ond byddaf yn mynd i chwilio amdani pan gaf i gyfle.
ReplyDeleteMae'n werth chwilio amdani. Mi fuo ni am dro at Dŵr Llundain hefyd: ddim i fynd i mewn, 'mond i feddwl am ychydig funudau am dynged creulon y merched ym mywyd Glyndŵr..
Delete