Os dwi'n arddwr drama, blogiwr sâl ar y diawl dwi hefyd, ac wythnosau wedi mynd ers i mi fwydro ddwytha.
Parhau wnaeth y tywydd anwadal: ambell gyfnod braf, ond y rheiny byth yn par'a fawr hwy na deuddydd-dridia' (yn 'Stiniog o leia'). Ond dyna fo, rhaid i rywun wneud y gorau efo be maen nhw'n gael tydi!
Mi fuon ni'n crwydro 'chydig. Ddim yn bell iawn cofiwch, ond wedi cael ymweld â llefydd go arbennig, fel Gerddi Hergest. Rhywle nad oedd yr un ohono' ni'n siwr iawn os oeddan ni yng Nghymru yntau dafliad carreg dros y ffin.
A chrib Mynydd y Gadair (neu Hattersall Hill i'r locals), lle fuon ni'n dilyn llwybr Clawdd Offa, efo'n traed chwith ni yng Nghymru a'n traed dde ni yn Lloegr.
Caeau glas a gwrychoedd am filltiroedd, ar un llaw. Ffriddoedd a chreigiau ar yr aswy. Aur dan y rhedyn ar diroedd cyfoethog Swydd Henffordd, a newyn dan y grug ar fynyddoedd Mynwy.
Mi fuon ni'n crwydro'n lleol hefyd, rhwng cawodydd yn bennaf! Bu'r Fechan a finna yn pori mewn map a rhestru 37 llyn o fewn ffiniau plwyf Ffestiniog, a gosod her i gerdded at lan bob un ohonynt.
Mae'r amserlen wedi ymestyn erbyn hyn i: "cyn diwedd y flwyddyn" ar ôl methu cael digon o ddyddiau sych pan oedd gen' i wyliau haf!
Efallai bydd ambell lun a hanesyn o'r her yn ymddangos yn fan hyn. Gawn ni weld...
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau