Ac yn groes i'r disgwyl, mi fues i'n gwylio eirin -ein eirin cyntaf yn y byd- yn cnapio, tyfu, twchu...
Felly dyna ni. Blwyddyn arall heb eirin. Ma' isio blydi 'mynadd!
Mae'r goeden afal Enlli wedi methu eleni hefyd.
Dim ond ar un ochr o'r espalier ddaeth unrhyw flodau eto fel y llynedd, i fy atgoffa y dyliwn i fod wedi cael gwared arni ers talwm, a phlannu rhywbeth arall yn ei lle. Difrodwyd y gwreiddiau'n arw wrth iddi ddisgyn yn y gwynt yn 2012, a tydi hi heb ddod ati'i hun o gwbl ers hynny.
Mae gwendid y goeden wedi bod yn wahoddiad agored i filiwn o bryfaid gwyrdd a morgrug, i gyrlio pob deilen a rhwbio halen i'r briw. Bydd hon wedi mynd erbyn y gaeaf.
Ar y llaw arall, mi gawson ni dunelli o riwbob, ac mae cnwd da o gyrins duon a chyrins coch wrthi'n aeddfedu rwan.
Mae addewid am fwy nag arfer o geirios.
Mefus bach alpaidd blasus i'w hel wrth eu cannoedd eto, ac eto. Y mafon yn dda hyd yma hefyd.
Lluniau hyfrid fel arfer! Trist clywed am yr erin ond mae o wedi bod yn flwyddyn anodd. Yn fama, dwi wedi methu tyfu courgettes am y tro gyntaf dwi'n cofio - malwod neu rhywbeth wedi bwta'r panigion i gyd!!
ReplyDeleteDiolch Ann. Courgettes yn araf iawn yn fan hyn..
Delete