Hadau coriander o'r tŷ gwydr. Neis ydyn nhw hefyd.
Er bod planhigion basil yn gwneud yn dda iawn yma, tydi'r amodau ddim yn plesio coriander cystal, ac maen nhw'n gyndyn i gynhyrchu cnwd o ddail. Mae pob planhigyn coriander dwi'n dyfu yn rhedeg yn gyflym iawn i flodeuo.
Maen nhw'n ddigon bodlon, ar y llaw arall, i gynhyrchu hadau ar ôl blodeuo, ac mae'r rhain yn flasus iawn yn wyrdd, mewn llysiau wedi'u stwffio er enghraifft, ac maen nhw'n sychu'n dda hefyd.
Os ydi'r dail angen mwy o sylw a dandwn nag ydw i'n fodlon roi, o leia' gawn ni gnwd o hadau ar gyfer cyri trwy'r hydref a'r gaeaf!
Bot: llysiau'r bara, brwysgedlys m Cu: coriander m [Geiriadur yr Academi]
Dwi wrth fy mode gyda coriander. Ond yr un broblem yma - anodd cael y dail y unig. Ond dwi wedi ffeindio bod y fath o goriander yn gwneud gwahaniaeth gyda 'Cilantro' yn wneud yn llawer well na'r lleill am ddail. Dwi ddim yn cofio yn union lle brynais i'r hadau - falle Thompson & Morgan, neu efallai'r "organic gardening catalogue"
ReplyDeleteDiolch Ann, mi edrycha' i am hadau cilantro.
DeleteDwi'n meddwl siwr mae cael yr hadau am ddim mewn cylchgrawn wnes i eleni. Efallai na fyddwn wedi mentro fel arall!