Tydyn nhw ddim yn dod o Jerwsalem a tydyn nhw ddim yn perthyn o gwbl i'r marchysgall, sef globe artichoke: rhwng pawb arall a'u potas be maen nhw'n eu galw, dwi ddim yn mynd i golli cwsg am hynny.
Ond tydi'r enw Cymraeg ddim yn hollol foddhaol i holltwr blew fel fi, am fwy nag un rheswm.
Yn ogystal â gellyg y ddaear, mae Geiriadur yr Academi yn cynnig heulflodyn oddfog, ond enw -sydd mewn difri, ddim yn fachog iawn nac'di- ar y planhigyn (Helianthus tuberosus) ydi hwnnw yn hytrach na'r cloron bwytadwy.
Ond pam gellyg y ddaear? Llysieuyn arall, sef yacon, ydi poire de la terre i'r Ffrancwyr, a gelwir yacon yn ground pear yn yr Unol Daleithiau hefyd o be' wela' i. Yn bwysicach na hynny, tydi gellyg y ddaear yn edrych dim byd tebyg, nac yn blasu dim byd tebyg i ffrwythau gellyg!
Ta waeth; dwi'n dathlu, ac yn difaru yr un pryd, eu plannu nhw acw.
Dathlu, am eu bod nhw'n flasus, ac yn hynod, hynod hawdd i'w tyfu yn hinsawdd gwlyb ac oer Stiniog. (Dyna pam dwi ddim yn awgrymu rhoi'r enw cloron haul arnyn nhw!)
Difaru, am eu bod yn rhedeg i bob man yn wyllt! Ac am na fedraf eu cael i flodeuo yma.
Rhan o'u hapêl i mi, ar ben y fantais o gael bwyd, ydi eu blodau melyn, sy'n ddeniadol iawn, ac yn dda i bryfaid peillio hefyd, ond mewn twbiau mawr oeddwn i'n eu tyfu i ddechrau, a doedden nhw byth yn blodeuo. Felly mi fentrais eu plannu yn y ddaear, i weld a fydden nhw'n hapusach yn fanno.
Canol Gorffennaf, ac yn dal i dyfu... |
Waw! Mewn dim roedden nhw'n tyfu'n drwchus, hyd at 7 troedfedd o daldra, ac yn tyfu trwy wreiddiau coed cyrins duon, ac o dan lwybrau aballu. Maen nhw'n amlwg yn hapus yn eu lle, ac yn cynhyrchu llwythi o gloron, ond tydyn nhw dal ddim yn blodeuo! Mi fydd raid i mi eu cyfyngu rhywsut, cyn y tymor tyfu nesa, neu mi fydden nhw'n feistr corn arna' i am byth.
Be' ydw i'n wneud efo'r cloron ta?
Cawl yn bennaf.
Gellid trin hwn fel cnwd barhaol, gan ei fod yn tyfu'n flynyddol o unrhyw gloron neu wreiddyn a adewir yn y pridd, a dim angen poeni am ail-blannu, na pharatoi'r gwely ar ei gyfer. Mantais arall ydi medru eu gadael yn y ddaear nes bod eu hangen nhw, ac maen nhw'n cadw'n dda trwy'r gaeaf. Mi godais gnwd bach dros y Sul ôl pan oedd y pridd yn dadmer, a mwynhau cawl braf o flaen y tân yn fuan wedyn.
DAU O BOB DIM:
Dau bwys o gloron, dwy dysan, dau nionyn, dau beint o ddŵr, hufen dwbl; wedyn pupur a halen.
Syml. Blasus. Digon o gawl am ddyddiau.
Mae'n nhw'n dda wedi eu rhostio hefyd, ac yn amrwd mewn salad. Yr agosaf fedra'i ddisgrifio'r blas -pan yn amrwd- ydi fel cnau cyll gwyrdd, yn syth o'r goeden. Fuseau ydi'r rhai sydd gen i (cysylltwch os hoffech chi alw draw i gael cloryn neu ddau i'w plannu).
Anfantais gellyg y ddaear i rai ydi bod y cloron yn cynnwys llawer o garbohydrad ar ffurf inulin, na fedrwn ni ei dreulio, ac felly gall greu gwynt. Mae fartichokes yn enw smala sy'n deillio o'r ffaith anffodus yma. Ond yn ôl y gwybodusion, mae'r planhigyn yn cynhyrchu llai o inulin mewn hinsawdd oer. Yn sicr, tydi o ddim yn broblem amlwg iawn yn fan hyn!
Sylw hollol anwyddonol cyn cloi: mae rhywun yn clywed cynrychiolwyr ffermwyr Cymru yn honni yn rheolaidd nad ydi tir anffafriol ein gwlad yn medru tyfu dim byd ond glaswellt, ond mae'n fy nharo i y gall y planhigyn arbennig yma dyfu bron yn rhywle, efo'r potensial i fwydo poblogaeth gynyddol y byd. Mae'n cynhyrchu llawer iawn o dyfiant gwyrdd fysa'n borthiant i anifeiliaid hefyd. Trafodwch!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau