Mi gymrais ddiwrnod off ddechrau'r wythnos, ac ar ôl blino aros i’r haul ddod
allan, mi aeth y Fechan a finne i grwydro ganol y pnawn. Penderfynu aros yn y tŷ i ddarlunio
a darllen wnaeth y ddwy fawr eto.
Wrth ddilyn ein trwynau mi aethom ni mor bell
â phen ucha’ Cwm Teigl, un o gorneli hyfrytaf plwy’ Stiniog, ac edrych drosodd
at chwarel Rhiwbach ym mhlwy’ Penmachno.
Roedd hi’n pigo bwrw, felly ddaru ni ddim mentro’n rhy bell.
Dyrchafaf fy llygaid... |
Galw yn nhŷ
Anti Nita wedyn i dorri cangen geirios a chlirio llwyn lelog iddi hi gael rhoi
mainc yng ngardd goffa Bobi Twm.
Mi fuon ni’n rhyfeddu at gawr o blanhigyn bysedd y cŵn yno, yn ddwywaith taldra’r
Fechan!
Erbyn amser cinio Dydd Mercher roedd yr haul wedi cyrraedd -am ryw hyd- ac
roeddwn i’n crwydro tir garw’r Rhinogydd. Un o wobrau’r daith galed ar hyd crib
Clogwyn Pot oedd cael mwynhau llus cynta’r flwyddyn.
Galla’i ddim aros rŵan
i drefnu helfa dda, a rhoi cynnig ar y grib hel aeron a ges i’n anrheg Dolig.
Mi roddaf lun o’r teclyn ar y blog ar ôl bod, ac adolygiad o’i lwyddiant wrth
hel. Mi gafodd ‘Nhad un mewn da bryd at dymor hel y llynedd ac mi heliodd o
gnwd da yn hanner yr amser arferol. Mae unrhyw beth sy’n lleihau cyfle gwybed
bach i boeni rhywun yn werth y byd... gawn ni weld.
Ar hyd y daith, mi ges fwynhau mefus gwyllt hefyd. Mi fyswn i wedi gorfod talu crocbris taswn i ym mwyty Portmeirion am y fath ddanteithion! Hyfryd.
Llus coch oedd yr olaf o'r triawd bwytadwy i mi weld y diwrnod hwnnw. Chwerw braidd ydyn nhw i'w bwyta efo bys a bawd, ond mae Ikea yn gwerthu jam digon blasus ohono! Efallai eu bod yn tyfu'n drwch yn Sweden, ond mae nhw'n rhy wasgaredig o lawer ym Meirionnydd i hel digon ohonynt i wneud jam fy hun. Cowberry, neu lingonberry yn yr iaith fain, mae hwn -fel llus (bilberries)- yn perthyn i'r blueberries dwi'n gyfeirio atynt yn y darn dwytha'.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau