Mi roddais lun o'r wäell
ddu (gweler y darn dwytha') yn oriel gwefan Llên Natur -gwefan Natur a Phobl Cymru, ddoe, ac wedi bod yn gohebu heddiw efo cofnodwr swyddogol
gweision neidr gogledd Cymru, Allan Brandon. Cofnod echdoe o bwll natur y
rhandiroedd yw’r cyntaf eleni ar gyfer y wäell ddu, felly er ‘mod i wedi cwyno sawl gwaith mor hwyr ydi’r
tymor, mae Stiniog ar y blaen o ran y gwas neidr arbennig yma!!
Mae Allan yn chwilio am fwy o gofnodion; eleni yw’r haf olaf i gyfrannu
cofnodion at atlas newydd o weision neidr fydd yn ymddangos yn 2013, felly ewch ati i yrru newyddion neu
luniau i wefan Llên Natur, neu trwy’r blog yma os hoffwch.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich sylwadau