Tyfu bwyd, hel fy nhamaid, a'r byd o nghwmpas i, 700 troedfedd uwchben lefel y môr.

9.7.12

Da was, da a ffyddlon


Dwi wedi treulio’r penwythnos ar gwrs yn astudio gweision neidr. Ia, pawb at y peth y bo, meddech chi. Dwi’n gwbod; dim pawb sy’n gwirioni ‘run fath! Ta waeth, mae’n bosib iawn mae eleni ydi’r flwyddyn waethaf i fynd ar gwrs gwas neidr. Dim yn unig mae tywydd eleni wedi bod yn ddiawledig o sâl –maen nhw angen dyddiau cynnes a haul i fedru hedfan- ond am ein bod wedi cael cyfres o hafau gwlyb, maen nhw wedi cael trafferth ers talwm, a phob blwyddyn wlyb yn golygu llai o fagu.
Nace, nid stondin fwyd yn Asia, ond ymchwil wyddonol yn Amwythig!
Ger Croesoswallt oeddwn i, bro y Dref Wen ac Ystafell Cynddylan, a thrwy gyd-ddigwyddiad, ro’n i wedi prynu casgliad Tecwyn Ifan –Llwybrau Gwyn- cyn mynd: does ‘na ddim byd gwell na bloeddio canu cytgan Y Dref Wen efo Tecs wrth yrru tua Lloegr! 
Doedd y tywydd ddim gwell yr ochr draw i Glawdd Offa’n anffodus. Mi gawsom lawbnawn Sadwrn a phnawn Sul, felly doedd ‘na ddim llawer o bryfaid yn hedfan.
Mae cylch bywyd gweision neidr yn rhyfeddol: hyd at bedair blynedd dan dŵr a phedair wythnos neu lai yn gwneud pethau pwysig bywyd! Mae’r llun uchod yn dangos casgliad o exuviae, sef y plisgyn a adewir ar ôl pan mae’r larfa yn dringo allan o’r dŵr, yn hollti’r croen ac yn trawsnewid yn oedolyn adeiniog hardd. Mi fuon ni’n hel y rhain er mwyn ‘nabod pa rywogaethau oedd yn magu ym mhyllau’r ganolfan astudiaethau maes. Gwas neidr y de (southern hawker); gwas neidr brown (brown hawker), gwäell goch (ruddy darter); a mursen las asur (azure damselfly) oedd y crwyn a gawsom, er nad ydi'r ddau ola' ddim yn y llun.


Mursen las amrywiol -variable damselfly. (Cyfyngedig yng Nghymru.)


Er gwaetha’r tywydd anwadal mi welsom ni 13 rhywogaeth yn hedfan. Dwi'n rhestru’r rhain yma hefyd, i’w cadw fel cofnod, ond bydda’i ddim dicach os nad ydych eisiau talu llawer o sylw i’r darn yma!





 
 Ches i ddim garddio o gwbl dros y penwythnos felly, ond mi gymraf ychydig oriau i ffwrdd yr wythnos hon i ddal i fyny rhywfaint ar y rhandir ac yn yr ardd gefn.

 Y rhestr:

7fed, Llyn Berrington                      7fed, Pwll Wildmoor                        8fed, Preston Montford
 mursen las gyffredin                        mursen fawr goch                           mursen las goeswen
 mursen dinlas                                   morwyn brydferth                           mursen werdd
 mursen las amrywiol                                                                                picellwr praff
 mursen las lygatgoch
 mursen asur
 morwyn wych
 gwas neidr brown
 ymerawdwr

gweirloyn y glaw -ringlet. Yr unig bilipalas welis i oedd hwn, ac un adain garpiog.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich sylwadau