Mae darn a sgwennais rywbryd dros y Pasg yn son am gystadleuaeth fawr i dyfu'r blodyn haul talaf, yn ogystal a son am hau hadau diarth. (
Rhuthr goddaith a.y.b)
Mi gawson ni lwyddiant efo un, a methiant llwyr efo'r llall.
Bu hen dynnu coes a thaflu llwch, a bwydo a thendio; brwydro efo malwod ac adar a gwyntoedd cryfion, a chyhuddiadau lu o dwyllo, ond o'r diwedd, daeth diwedd ar yr aros. Diwrnod olaf Awst oedd diwrnod mawr y mesur.
Fel hyn oedd hi ar yr awr dyngedfennol:
Cae Clyd. 70 modfedd. Medal efydd!
Rhiwbach. 77". Dyfarnwyd y fedal arian,
-ar ôl apêl yn erbyn y tâp mesur unigryw...
...ac, ar ôl hau yn hwyr a chychwyn yn araf...
Neigwl (tŷ ni) oedd pencampwyr teilwng 2015! Efo tri neu bedwar blodyn haul dros 90" roedd y fedal aur yn haeddianol. Er aros yn amyneddgar, ddaeth Dafydd Êl ddim acw i gyflwyno'r gwobrau, ond cyflwynwyd desgil wydr 'amhrisiadwy' (wel, un fu'n hel llwch yn yr atig am ddegawd a mwy!) i'r pencampwyr i'w chadw am flwyddyn.
Dyma'r ddesgil, ahem, 'hyfryd' a'i gwaith llythrennu, ym..cywrain... ?!
Mae trigolion tŷ ni yn ysu am gystadleuaeth 2016 rwan, er mwyn i rywun arall orfod ei chael hi...
Ychydig o hwyl diniwed gwerth chweil. Be gewch chi'n well 'de. Bydd yn rhaid dewis testun cystadleuaeth 2016: moronen hiraf? Pwmpen drymaf efallai? "Bydd raid cytuno ar reolau o flaen llaw tro nesa" medd y ddau daid... nid eu bod nhw'n gollwrs sâl o gwbl!
Beth am y methiannau ta?
Mi wnes i hau hadau pys merllys (asparagus peas) dair gwaith, ond pydru fu hanes bob ymgais. Rhy oer am yn hir iawn eleni doedd. Mi driwn ni eto'r flwyddyn nesa.
Tyfodd y ciwcymbar lemwn yn blanhigyn dwy droedfedd, cyn pydru yn ei bôn a marw. Gor-ddyfrio efallai, ond yn sicr wedi diodde'r oerfel hefyd.